'Gallai trefi bychain a dinasoedd elwa wedi Covid-19'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dynes yn credded ar stryd gyda siopau gwag tu ol iddiFfynhonnell y llun, Getty Images

Gallai trefi bychain Cymru elwa yn y cyfnod ar ôl y pandemig wrth i fwy o bobl weithio o'u cartrefi a chefnogi busnesau bychain.

Yn ôl yr Athro Cathy Parker, arbenigwraig manwerthu o Brifysgol Metropolitan Manceinion, gallai dinasoedd mawrion fel Caerdydd ac Abertawe elwa hefyd, os yw'r cynllunio a'r adnoddau'n iawn.

Ond rhybuddiodd mai trefi canolig eu maint fyddai'n wynebu'r heriau mwyaf.

Mae disgwyl i nifer o bobl fabwysiadu patrymau gweithio cymysg pan fydd y pandemig drosodd, gan weithio rhai dyddiau o'u cartrefi ac eraill o'r swyddfa.

Tŷ neu swyddfa

Mae Llywodraeth Cymru'n anelu i gael 30% o bobl yn gweithio o'u cartref, neu'n agos ato, wedi'r pandemig.

Gallai hynny olygu gweithio yn y tŷ neu mewn swyddfa gydweithredol, lle mae modd rhentu gofod fesul diwrnod neu fis.

Ond mae'n bosib i hynny newid hefyd yn dibynnu ar ganlyniad etholiadau'r Senedd ar 6 Mai.

Mae gweithio o gartref yn codi nifer o gwestiynau eraill, fel a oes modd addasu'r cartref ar gyfer gweithio, safon y ddarpariaeth band eang ar draws Cymru, a'r effaith bosib ar siopau a bwytai.

Byddai llai o deithio'n ôl ac ymlaen o'r gwaith yn helpu i daclo tagfeydd traffig ac yn fuddiol i'r amgylchedd hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Nid dadl rhwng tref a dinas yw hi, yn ôl Yr Athro Cathy Parker

Rhybuddiodd adroddiad gan bwyllgor economi'r Senedd y bydd angen cadw golwg ar effeithiau gweithio o bell i wneud yn siŵr nad yw'n cynyddu anghyfartaledd trwy ffafrio mwy o weithwyr sgiliau uchel a chefnog.

Galwodd hefyd am strategaeth manwerthu i wynebu'r heriau y mae gweithio o bell yn ei olygu i weithwyr a busnesau.

Dywedodd yr Athro Parker nad dadl rhwng trefi a dinasoedd oedd hi, ond am lefydd yn cael eu cynllun adfer eu hunain yn seiliedig ar ddata sy'n dangos beth sy'n gweithio orau iddyn nhw.

"Gall llefydd bychain fod yn wydn a chynaliadwy iawn os ydyn nhw'n ateb anghenion y dalgylch bychan sydd o'u cwmpas," meddai.

"Nid twf yw'r unig beth, mae hyn ynglŷn â gwasanaethu'r bobl sy'n byw o gwmpas eich tref, felly mae hi fymryn yn haws i lefydd bychain."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwy o waith addasu mewn dinasoedd fel Caerdydd, ond mae'r adnoddau ganddyn nhw i wneud hynny, meddai'r Athro Parker

Defnyddiodd Porthcawl fel enghraifft. Gwelodd y dref gwymp o 20% yn nifer y siopwyr y llynedd, ond am ei bod yn gwasanaethu'r gymuned leol doedd y cwymp ddim mor ddrwg â llefydd eraill.

"Bydd mwy o waith addasu i'w wneud mewn llefydd mwy o faint, ond mae'n debygol fod ganddyn nhw'r adnoddau i wneud hynny."

Byddai trefi o faint canolig yn cael eu heffeithio gan newidiadau teithio i'r gwaith, ac am nad oedd ganddyn nhw y partneriaethau i reoli'r sefyllfa dros y blynyddoedd nesaf.

Cathod a Zoom: 'Ddim yn ddelfrydol'

Mae gweithio o bell yn gallu golygu defnyddio gofod cydweithredol ger y cartref yn hytrach na thŷ.

Mae mwy o bobl yn sefydlu busnesau bychain ac mae cwmnïau mawr yn chwilio am swyddfeydd llai neu'n penderfynu beth i'w wneud â'r gofod dros ben pan fydd gweithwyr ond yn dychwelyd am ran o'r wythnos.

Dywedodd Gareth Jones, prif weithredwr cwmni swyddfeydd cydweithredol Town Square Spaces yng Nghaerffili y bydd patrymau gweithio yn fwy hyblyg ar ôl y pandemig.

"Nawr ein bod ni wedi cael yr arbrawf yma o weithio o gartref, fe sylweddolon ni bod gweithio o adref yn grêt am gwpwl o ddiwrnodau'r wythnos ond nid yw'n ddelfrydol bob amser yn enwedig os oes gennych chi gathod yn neidio ar draws eich [cyfarfod] Zoom, a phethau felly," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmnïau'n dweud bod ganddyn nhw fwy o ofod na maen nhw ei angen, meddai Gareth Jones

Roedd llawer o'r galw gan bobl oedd eisiau gofod i weithio un neu ddau ddiwrnod yma ac acw, meddai, ac nid gan bobl oedd eisiau dod i mewn bum diwrnod yr wythnos.

"Mae'r galw o'r ochr gorfforaethol yn ddiddorol, achos mae 'na gwmnïau'n dweud 'mae gennym fwy o ofod nag ydym ei angen, sut allwn ni ddefnyddio hwn mewn ffordd wahanol?'"

Mae'r cwmni credyd Creditsafe yn rheoli swyddfeydd mewn 14 gwlad o'u pencadlys yng Nghaerdydd.

Mae ei staff wedi bod yn gweithio'n bennaf o adref, ac maen nhw wedi dweud wrth eu cyflogwr y byddai'n well ganddyn nhw rannu eu hamser 50/50 rhwng swyddfa a chartref ar ôl y pandemig.

"Mae'n fwy effeithiol, y ffordd yr ydym yn gweithio," meddai prif weithredwr y cwmni, Cato Syversen.

"Roedd lot o bobl yn treulio awr bob ffordd yn teithio i'r gwaith, felly mae eu bywydau wedi newid. Mae llawer o bethau positif am hyn hefyd."

Roedd y cwmni wedi bwriadu ymestyn eu swyddfa yng Nghaerdydd, ond fydd hynny ddim yn digwydd bellach.

Ffynhonnell y llun, Emma Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Jones yn edrych ymlaen i fynd yn ôl i weithio mewn swyddfa gydweithredol, fel o'r blaen

Mae Emma Jones o Wrecsam yn ddylunydd graffeg a roddodd y gorau i'w swydd er mwyn sefydlu ei chwmni ei hun ym mis Chwefror 2020, fymryn cyn i'r pandemig daro.

Mae'n edrych ymlaen at fynd yn ôl i weithio mewn canolfan gydweithredol yn y dref er mwyn cael gweithwyr eraill o'i chwmpas yn gefn.

"Alla i ddim disgwyl i fynd allan o'r tŷ," meddai.

Roedd yn bwysig i weithwyr ddychwelyd i lefydd fel Wrecsam i "helpu'r economi" a "helpu'n gilydd i ddod yn ôl i ryw fath o drefn".

"Dwi'n meddwl mai'r pwyslais rŵan ydy i wir helpu a chefnogi'r busnesau sydd yna a'r busnesau sy'n dod i mewn," meddai.