Gwyrddion yn 'nes nag erioed' at ennill sedd yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Plaid Werdd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anthony Slaughter (dde) fod y maniffesto "yn nodi cynllun beiddgar ond cyraeddadwy"

Mae ennill sedd yn y Senedd am y tro cyntaf yn "teimlo yn nes nag erioed" i Blaid Werdd Cymru, yn ôl ei harweinydd.

Mae'r blaid wedi lansio ei maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru ddydd Mawrth, gan ddweud bod mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac adfer natur "wrth wraidd" ei pholisïau.

Mae'r Gwyrddion yn addo "trawsnewid Cymru" trwy adeiladu 12,000 o gartrefi newydd i'r safonau amgylcheddol uchaf.

Byddai hefyd yn lansio cronfa i fuddsoddi mewn cymunedau lleol, gan greu "miloedd" o swyddi gwyrdd.

Mae'r blaid hefyd yn addo ehangu mynediad at addysg bellach gan sicrhau nad yw myfyrwyr yn talu ffioedd am raddau cychwynnol, a byddan nhw'n cynnig dyfeisiau electronig i bob plentyn sydd angen dysgu gartref.

Dywed hefyd y byddai'n symud i "fodel cymunedol" ar gyfer gofal iechyd, a fyddai'n caniatáu i bobl dderbyn y gofal sydd ei angen arnyn nhw'n lleol.

O ran cyllid personol, dywed y byddai'n "sicrhau diogelwch ariannol sylfaenol" i bawb trwy weithredu Incwm Sylfaenol Cyffredinol.

Ers dechrau datganoli yn 1999, nid yw'r blaid erioed wedi ennill sedd ym Mae Caerdydd.

Ond dywedodd ei harweinydd yng Nghymru, Anthony Slaughter, bod pobl yn "dechrau sylweddoli" bod gan y Gwyrddion yr atebion.

"Mae newid wedi bod," meddai wrth lansio'r maniffesto.

"Mae [ennill sedd] yn teimlo'n nes nag erioed o'r blaen. Mae'r pandemig wedi gwneud i bobl sylweddoli sut mae ein cymdeithas yn gweithio, methiannau ein cymdeithas a'r hyn sydd angen ei newid."

Ychwanegodd Mr Slaughter bod maniffesto'r blaid yn "cydnabod brys yr argyfyngau sy'n ein hwynebu; yr argyfwng hinsawdd, yr argyfwng natur ac ansicrwydd ariannol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gwyrddion yn addo adeiladu 12,000 o gartrefi newydd i'r safonau amgylcheddol uchaf

Mae addewidion allweddol eraill yn cynnwys:

  • Diogelu'r GIG fel gwasanaeth am ddim a chymryd agwedd fwy cydgysylltiedig tuag at iechyd a gofal cymdeithasol;

  • Hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg i ddiogelu a chreu cymunedau dwyieithog lle gall y Gymraeg ffynnu;

  • Annog iechyd da a mynediad at fannau gwyrdd;

  • Mwy o wneud penderfyniadau lleol a Llywodraeth Cymru effeithiol sy'n gwrando;

  • Creu opsiynau cludiant gwell, fforddiadwy a glanach i bawb gan gynnwys mynediad at well opsiynau cerdded a seiclo, a thrafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy;

  • Net carbon sero erbyn 2030, gan ddisodli tanwydd ffosil ag ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr a gwneud uwchraddiadau angenrheidiol i'r grid trydan.

Dywedodd Mr Slaughter: "Mae'n rhaid i ni edrych ar Yr Alban, a'r effaith anhygoel y mae'r Gwyrddion wedi'i chael yn Holyrood i weld y gwahaniaeth y mae grŵp o leisiau Gwyrdd yn ei gael yn y senedd.

"Edrychaf ymlaen at weld Gwyrddion pragmatig ond pellgyrhaeddol yn cymryd seddi yn y Senedd ym mis Mai, yn sefyll dros gymunedau lleol, a dyfodol gwydn i Gymru.

"Mae ein maniffesto yn nodi cynllun beiddgar ond cyraeddadwy, er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi pawb sy'n byw yng Nghymru, gan amddiffyn ein planed ar yr un pryd."