Galw am wahodd Plaid Werdd Cymru i ddadl deledu BBC

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae etholiad Senedd Cymru i fod i gael ei gynnal ar 6 Mai

Mae ffrae wedi codi am nad yw'r Blaid Werdd wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn dadl deledu rhwng arweinyddion y gwahanol bleidiau.

Hyd yma mae arweinwyr Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, y Rhyddfrydwyr Democrataidd a Phlaid Diddymu Cynulliad Cymru, wedi cael gwahoddiad.

Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar BBC Cymru ar 29 Ebrill, ychydig cyn Etholiadau'r Senedd.

Ond mewn neges ar Twitter dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, bod "rhaid" i'w blaid gael ei chynnwys.

Nid oedd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn "haeddu bod yna, tra gallai'r Gwyrddion gyfrannu llawer, a dylai gael ei chynnwys a chael y cyfle".

Dywedodd dirprwy arweinydd Y Blaid Werdd, Amelia Womack, ar Twitter ei bod yn "siomedig iawn" o weld nad oedd y Gwyrddion wedi cael gwahoddiad, tra bydd plaid "asgell dde" Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cael ei chynnwys.

Mae rhai o'r pleidiau eraill wedi cefnogi galwad y Blaid Werdd.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y dylai'r BBC ailfeddwl.

Yr wythnos diwethaf galwodd arweinydd Plaid Cymru ar y BBC i dynnu'r gwahoddiad i Blaid Diddymu'r Cynulliad yn ôl.

Proses 'deg a diduedd'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru eu bod yn hyderus bod ei phrosesau golygyddol wedi bod yn "deg a diduedd wrth adlewyrchu realiti'r dirwedd wleidyddol yng Nghymru".

Dywedodd cyfarwyddwr ymgyrch etholiadol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts AS: "Mae'r BBC wedi bod yn llai na thryloyw yn egluro sut y dewisodd roi gwahoddiad i blaid sydd heb gael ei hethol gan neb i'r Senedd mewn unrhyw etholiad blaenorol.

"Wrth greu'r broblem hon mae'r BBC nawr wedi gwneud ei hun yn agored i feirniadaeth gyfiawn gan blaid arall sy'n teimlo ei bod wedi cael ei gadael allan yn annheg o'r drafodaeth deledu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Rydym yn canolbwyntio ar ein haddewidion i warantu cynnig o waith i bob un dan 25, addysg neu hyfforddiant; cynyddu plismona cymunedol, a darparu Cyflog Byw go iawn i weithwyr gofal ar draws Cymru."

Gofynnwyd i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd a Phlaid Diddymu'r Cynulliad am sylw.