Amheuon a ydy Cymru wir wedi cyrraedd targed brechu
- Cyhoeddwyd
Mae amheuon wedi eu codi am honiad Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynnig brechlyn Covid-19 i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf.
Dywedodd y llywodraeth ddydd Llun ei fod wedi cyrraedd y targed o gynnig brechlyn i bawb dros 50 oed a phawb sydd â chyflwr meddygol.
Ond mae rhai pobl yn y grwpiau hynny yn dweud nad ydyn nhw wedi clywed eto pryd y byddan nhw yn cael eu brechu.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai pobl gysylltu â'u bwrdd iechyd os ydyn nhw yn y grwpiau blaenoriaeth ond heb gael dyddiad ar gyfer eu brechlyn cyntaf.
Nos Fawrth fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd unrhyw berson sy'n 50 neu drosodd wedi cael o leiaf eu brechiad cyntaf neu wedi derbyn apwyntiad, ac mae cynlluniau yn eu lle i sicrhau bod neb yn cael ei adael ar ôl.
"Os mae byrddau iechyd wedi methu cysylltu â rhywun ar y rhestr, neu os yw apwyntiad wedi ei fethu, mae systemau yn eu lle i fynd yn ôl a gwirio ac aildrefnu apwyntiad newydd i unrhyw un sy'n dymuno cael eu brechu."
Dywedodd Garry Edwards o Ynys Môn ei fod yn dal i ddisgwyl am ei gynnig ef am frechlyn er ei fod yn 51 oed a bod ganddo asthma.
"Rwy'n 'nabod lot o bobl sydd wedi ei gael, a lot o bobl iau na fi sydd wedi ei gael - pobl yn eu 40au sydd wedi cael eu brechu," meddai wrth Radio Wales fore Mawrth.
"Pan dy'ch chi'n clywed y byddwn chi yn cael cynnig brechlyn, ac wedyn dydy o ddim yn digwydd, yna mae'r ystadegau yn anghywir yn rhywle."
Fe wnaeth gwrandawyr eraill gysylltu â BBC Cymru i ddweud nad ydyn nhw wedi cael dyddiad chwaith er eu bod yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf.
Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru mai byrddau iechyd sy'n gyfrifol am drefnu brechiadau.
"Dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw broblem fyddai wedi arwain at nifer o bobl i beidio â derbyn eu brechiadau," meddai.
"Mae'n bosib bod achosion unigol ble mae hynny wedi digwydd, ac yn amlwg mae angen edrych ar hynny, ond y byrddau iechyd sydd yn y safle gorau i wneud hynny.
"Heb edrych ar fanylion penodol yr achosion hynny, mae'n anodd dweud beth allai fod wedi digwydd, ond y prif beth i bwysleisio ydy nad ydy hi fyth yn rhy hwyr.
"Os nad ydych chi wedi cael apwyntiad, fe ddylech chi gysylltu gyda'ch bwrdd iechyd ar unwaith."
Pryderon a fydd pobl ifanc yn derbyn brechlyn
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi awgrymu nad ydyn nhw wedi cynnig brechlyn i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth eto, gan ddweud eu bod "ar y trywydd iawn" i gynnig dos cyntaf i'r bobl hynny erbyn 18 Ebrill - sef targed gwreiddiol y llywodraeth.
Mae'r prif weithredwr Steve Moore wedi annog pobl i gysylltu â'r bwrdd iechyd os ydyn nhw'n gymwys am frechlyn ond heb gael dyddiad eto.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 1,490,372 o bobl yng Nghymru wedi derbyn dos cyntaf y brechlyn, tra bod 467,683 wedi cael y cwrs llawn.
Wrth i'r rhaglen frechu symud ymlaen at ei darged nesaf, sef cynnig brechlyn i bawb dros 16 oed erbyn diwedd Mehefin, mae pryderon wedi'u codi y bydd cyfran lai o bobl yn y grwpiau oedran iau yn derbyn y cynnig i gael eu brechu.
Dywedodd Dr Eilir Hughes, meddyg teulu yn Llŷn, wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mawrth ei bod yn bwysig i bawb dderbyn y brechlyn er mwyn cynyddu imiwnedd torfol.
"Mi fydd rhoi'r brechlyn i'r grŵp oedran 16-50 yn fwy o sialens oherwydd bod y risg iddyn nhw fod yn ddifrifol wael yn is, ac maen nhw'n tueddu i fod wedi gweld y propaganda fake news anti-vax tuag at y brechlyn," meddai.
"Mae angen rhoi y wybodaeth glir am be' mae'r brechlyn yn ei olygu, a be' mae o'n ei olygu ydy ei fod o'n rhoi imiwnedd torfol i ni.
"Dyna 'dan ni angen mewn unrhyw ymgyrch frechu; bod y gymuned gyfan gydag elfen o imiwnedd fel bod y feirws yna ddim yn medru cydio a lledaenu fel mae'r pandemig yma wedi digwydd yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2021