Beth yw apêl Un Nos Ola Leuad?

  • Cyhoeddwyd

Yn un o nofelau amlycaf yr iaith Gymraeg, does dim dwywaith bod Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard yn un o'r gweithiau llenyddol Cymraeg mwyaf pellgyrhaeddol.

Eleni, mae 60 mlynedd ers i Wasg Gee ei chyhoeddi'n gyntaf. Ers hynny, mae wedi'i throsi i naw o ieithoedd, yn nofel osod ar gwrs TAG UG/U CBAC, wedi'i haddasu'n ffilm arobryn ac yn ddrama lwyfan ac wedi'i hail-argraffu ddegau o weithiau gyda'r diweddaraf yn 2017 gan Y Lolfa.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa/Gwasg Gwalia
Disgrifiad o’r llun,

Amryw gloriau'r nofel boblogaidd

Honnir gan nifer o feirniaid llenyddol ei bod gyda'r nofel Gymraeg orau erioed. Dywed llu o awduron cyfoes ei bod yn hynod ddylanwadol arnynt ac yn stori i fynd yn ôl ati dro ar ôl tro. Felly beth yw ei apêl hi, 60 mlynedd yn ddiweddarach?

Yn siarad gyda rhaglen Stiwdio ar BBC Radio Cymru, dywedodd y llenor Manon Steffan Ros, "Beth sy'n fy rhyfeddu i am Un Nos Ola Leuad ydy bod Bethesda y nofel yn teimlo fel Bethesda rŵan i fi hefyd.

"Rhaid i mi gyfaddef fy mod i'n gyfarwydd efo'r ffilm ymhell cyn i mi ddarllen y nofel. Ond fel es i'n hŷn a darllen y nofel, mae hi'n un o'r rheiny dw i'n mynd yn ôl ati bob ychydig flynyddoedd a jest yn rhyfeddu at ba mor real ydy'r sefyllfaoedd a'r cymeriadau i gyd."

Yn 2017 roedd yr awdur Megan Angharad Hunter yn y chweched dosbarth pan ddarllenodd hi'r nofel am y tro cyntaf. "Dw i'n cofio, yr iaith wnaeth daro fi'n gyntaf achos do'n i 'rioed wedi darllen llyfr Cymraeg oedd efo iaith mor onest a chredadwy. O'n i wedi gwirioni efo'r llyfr."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nofelau Manon Steffan Ros a Megan Angharad Hunter, fel Un Nos Ola Leuad, hefyd yn mynd i'r afael â iechyd meddwl

Wrth ystyried ei bod hi'n dal i gael ei hastudio drigain mlynedd ar ôl ei chyhoeddi, dywedodd Manon, "Dyna destament i ba mor bwerus ydy'r nofel, ynde, ei bod hi'n gyfarwydd i ni fel darllenwyr dal i fod.

"Ac fel mae Megan yn ei ddweud, mae'r ffordd mae'r nofel wedi'i sgwennu, y ffordd mae Caradog Prichard yn defnyddio iaith mor gynnil ac eto mor real. Dydy hi 'rioed wedi teimlo fel nofel hen ffasiwn i mi."

Mae nofel gyntaf Megan, tu ôl i'r awyr, yn defnyddio tafodiaith gref sy'n adlewyrchu "rŵan hyn" fel y disgrifiodd Nia Roberts hi wrth holi Megan ar raglen Stiwdio am ddylanwad Un Nos Ola Leuad ar hynny, "Tan rŵan, do'n i ddim wedi ystyried y peth.

"Ond dw i'n meddwl y bysa hi'n amhosib dweud bod hi ddim wedi dylanwadu ar arddull tu ôl i'r awyr achos mi wnaeth darllen Un Nos Ola Leuad fy helpu i sylweddoli bod sgwennu mewn tafodiaith onest yn arf sgwennu sy'n gallu cyfleu cymaint, a dod â chymeriad yn gwbl fyw."

Disgrifiad,

Yr awdur Caradog Prichard yn sôn am ei nofel ar raglen Heddiw yn 1973

"Portreadwr rhyfeddol"

Gellir dadlau bod un person heddiw yn fwy cyfarwydd na neb arall ag Un Nos Ola Leuad, sef y golygydd ac academydd Menna Baines.

Mae wedi astudio'r nofel yn fwy na thrwyadl ac wedi cyhoeddi cyfrol am waith yr awdur sef, Yng Ngolau'r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard. Pan holwyd hi am apêl y nofel, dywedodd, "Gogoniant y nofel yw ei bod hi'n gafael yn rhywun o'r dudalen gyntaf a dydy hi'm yn gollwng gafael wedyn tan y diwedd.

"'Dan ni'n cydymdeimlo gymaint efo'r bachgen 'ma ond eto dydy hi byth yn mynd yn sentimental. Mae o'n bortreadwr rhyfeddol.

"Mae'n stori bwerus, ddirdynol... am chwalfa yn hanes y bachgen lle mae un ergyd ar ôl y llall yn dod i'w ran. Mae'n ddarlun o gymdeithas benodol, sef Bethesda (er nad yw'n cael ei henwi yn y nofel). Mae ei hapêl i bawb 'chydig yn wahanol."

Ffynhonnell y llun, OTHER
Disgrifiad o’r llun,

Caradog Prichard

Un arall sydd wedi astudio'r nofel, a gwaith Caradog Prichard yn ehangach, yw J. Elwyn Hughes. Fe ddywedodd ef, "dw i'n meddwl ei fod wedi apelio am bod o'n blentyn bach yn dweud ei hanes, a phlentyn bach yn mynd drwy gyfnodau anodd ond yn cael hwyl hefyd. Felly mae 'na gymysgedd yma ac acw o dristwch go iawn a hefyd o hwyl."

'Haeddu cynulleidfa fwy'

Yn 1973, addasodd Menna Gallie y nofel i'r Saesneg - her nad oedd Caradog Prichard ei hun am ymgymryd â hi: "Fuodd gen i erioed galon i ysgrifennu'n Saesneg. Methiant llwyr fydda hi wedi bod taswn i wedi'i thrio hi'n Saesneg dw i'n credu.".

Yn siarad gyda rhaglen Heddiw yn yr un flwyddyn dywedodd Menna Gaille, "Mae hwn yn lyfr gwych ac mae'n haeddu [cynulleidfa] lawer yn fwy na sydd yng Nghymru fach. Mae scene yn y nofel pan mae'r bachgen yn gadael ei fam yn yr asylum. O'n i'n llefain y dŵr [yn ei darllen]. 'Wy ddim yn meddwl y bues i 'da mwy o empathi erioed gydag awdur. Wy'n teimlo fod yr empathi amser 'ny yn berffaith.

"Os gall awdur wneud i'r hack sy'n cyfieithu i lefain y dŵr mae wedi creu rhyw awyrgylch sy'n wir, sy'n berffaith."

Gwrandewch ar bennod arbennig o Stiwdio yn dathlu 60 mlynedd o Un Nos Ola Leuad.

Hefyd o ddiddordeb