'Rannes i ei wely fe a wedyn dechreuodd e gyffwrdd â fi'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd - gall cynnwys y stori hon achosi gofid i rai darllenwyr
Mae'r DJ, actor a pherfformiwr Gareth Potter wedi datgelu sut y cafodd ei gam-drin gan y cyn-athro drama John Owen pan roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.
Mewn rhaglen ddogfen arbennig ar S4C nos Fercher, mae Gareth Potter yn disgrifio, yn ei gyfweliad cyntaf ar y mater ar gamera, sut y cafodd ei ddal "mewn trap sinistr" gan Owen, a laddodd ei hun yn 2001 cyn wynebu achos llys.
Mae yna awgrym hefyd yn y rhaglen bod 'na amharodrwydd ar y pryd i ymchwilio i'r honiadau yn erbyn John Owen.
"Dyma'r tro cyntaf i mi siarad amdano fe ar gamera, a wi'n ok da hwnna," meddai Gareth Potter.
"Fy stori i yw hwn ond stori ni gyd," ychwanegodd, gan gyfeirio at unigolion eraill wnaeth gwyno am y cyn-athro, nofelydd a dramodydd. "Mewn ffordd dwi yn teimlo bod rhaid i fi gynrychioli nhw."
"O'n i di clywed am Ysgol Rhydfelen, wrth gwrs... O'dd ysgol Rhydfelen yn ysgol enwog iawn, o'dd e wedi cael reputation fel yr Eton Cymraeg.
"O'dden ni wastad yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, o'n i'n canu, o'n i'n adrodd, o'n i'n licio perfformio.
"I'r Cymry Cymraeg, oedden nhw'n meddwl bod y bloke yma'n amazing, o'dd e'n dod â kids o deuluoedd di-Gymraeg fel fi, i siarad ac i garu'r iaith Gymraeg, ni oedd y dyfodol."
Gymaint oedd carisma'r athro drama, roedd disgyblion, meddai Gareth Potter, yn awchu am gael canmoliaeth ganddo. "Os o'dd e'n gweud da iawn, o'dd e fel da iawn plus. Ond fi'n siŵr wnaeth e ddechre groomio fi yn ifanc iawn.
"Ac o'n i'n ddigon hapus i gael fy nal yn y rhwyd yna, o'n i ddim yn gw'bod pa mor sinistr o'dd y trap o'n i ynddo yn mynd i droi.
"Bydde fe'n helpu fi gydag areithiau, audition speeches a phethe, ac o'n i'n used i fod yn yr un ystafell ag e, gyda fe'n siarad yn dyner gyda fi, falle weithiau yn cyffwrdd â fi.
"Dim mewn ffordd rhywiol, ond wrth gwrs o'dd e'n ca'l fi yn used iddo fe yn bod yn agos iawn ata'i, just fe yn yr ystafell.
'Dere i aros gyda fi'
"Dwi'n cofio unwaith am ryw reswm, o'n i'n 15, 16, 'wi'n cofio fe yn eillio fi. Dyma fe'n rhoi shaving foam ar fy ngwyneb i, a neud y shave i gyd.
"A wedyn dechreuais i aros yn ei dŷ e. Weithie bydden ni'n mynd i weld sioeau tu allan i Gaerdydd, weithie bydden ni ddim yn cyrraedd nôl tan hwyr a bydde fe [yn dweud] 'dere i aros gyda fi'.
"Bydden i'n aros gyda fe, o'dd spare room 'dag e, ac un noson nath e grybwyll 'mae'n noson oer, man y man i ti rannu gwely gyda fi'.
"O'dd e'n neis i fi, o'dd e'n annwyl gyda fi. A fe rannes i ei wely fe. A wedyn dechreuodd e gyffwrdd â fi.
"O'dd e'n cymryd fi i porn cinemas pan odden ni ar trips i Llundain. Bydden ni'n mynd i weld sioe yn y p'nawn a sioe yn y nos, aros mewn hotel, bydde'n mynd 'beth am i ni fynd allan Gar?'
"Bydden ni'n mynd am trip rownd Soho, a bydde fe'n talu i fynd mewn i porno cinemas. O'dd e'n squalid. O'dd e'n ofnadw.
"O'dd e'n chware gêms fel 'fi'n mynd i sefyll 'ma ar gornel y stryd fel rent boy."
Profiadau 'angenrheidiol' i ddarpar actor
"Profiadau o'dd rhain i gyd, profiadau bod rhaid i actor gael. Profiadau bod rhaid i ni fynd trwyddo, pethe falle lle ni ddim falle'n teimlo 100% yn gyfforddus gyda nhw.
"Nath e ddewis darn, nath e ddangos speech i fi amdan boi yn mynd ar trên a pigo boi arall i fyny ar y trên.
"Ac wrth gwrs mae'r speech yma yn gyfle gwych iddo fe... a sydyn reit 'odd e lawr yn tynnu zip trouser fi lawr, ac yn acto yr olygfa allan.
"Pan odd e'n cloi'r drws, o'dd fy nghalon i'n suddo o'n i'n gw'bod beth o'dd yn dod nesa'.
Dywed Gareth Potter bod y profiad wedi gadael ei ôl arno hyd heddiw.
"Mae 'di marw ers 19 mlynedd, ond mae e dal yna yng nghefn fy meddwl. Mae'n ymddangos yn fy mreuddwydion.
"Ac os oes rhywun yn gweud bod nhw wedi cael eu cam-drin, credwch nhw. Mae'n rhaid i chi gredu nhw."
Amserlen achos John Owen
Cododd cwestiynau sawl tro ynghylch ymddygiad John Owen yn y 1980au.
Cafodd yr honiadau cyntaf o ymosodiad rhyw eu gwneud gan ddisgyblion Ysgol Rhydfelen yn Ionawr 1991. Ymddiswyddodd John Owen cyn diwedd yr un mis.
Erbyn Mawrth 1991, roedd yr heddlu'n ymchwilio. Fe wnaeth Owen barhau i gynhyrchu sioeau pobl ifanc. Ni chafodd ei gyhuddo'n ffurfiol o unrhyw drosedd.
Yn 2001, roedd yna ymchwiliad newydd gan yr heddlu. Ym mis Hydref y flwyddyn honno cafwyd hyd i gorff John Owen mewn carafán ym Mhorthcawl. Roedd ar fin sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o ymosod yn rhywiol.
Tair blynedd yn ddiweddarach, cafodd adroddiad Clywch ei gyhoeddi. Roedd hwnnw'n cynnig gwelliannau i ddiogelu plant ysgol ac yn beirniadu sawl un a sefydliad am beidio gwneud rhagor i rwystro John Owen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021