Covid: Marwolaethau'n gostwng am 10fed wythnos yn olynol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y marwolaethau sy'n ymwneud â Covid-19 wedi gostwng am y 10fed wythnos yn olynol, ac mae bellach ar ei lefel isaf ers dechrau Hydref.

Cafodd 32 o farwolaethau coronafeirws eu cofnodi yn yr wythnos hyd at 26 Mawrth, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Roedd hynny'n 4.9% o'r holl farwolaethau yng Nghymru yr wythnos honno, ac 17 o farwolaethau yn llai na'r wythnos flaenorol.

Mae 7,804 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi mewn chwe sir, gan gynnwys Abertawe

Yn yr wythnos hyd at 26 Mawrth roedd 12 o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a chwech yng Nghaerdydd a'r Fro.

Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi mewn chwe sir - Abertawe, Blaenau Gwent, Ceredigion, Merthyr Tudful, Torfaen a Sir Ddinbych.

Bu farw chwe pherson mewn cartrefi gofal gyda'r feirws - y cyfanswm wythnosol isaf ers canol Hydref.

Marwolaethau'n parhau ar lefel arferol

Mae nifer y 'marwolaethau ychwanegol', sy'n cymharu pob marwolaeth gofrestredig gyda blynyddoedd blaenorol, bellach yn is na'r cyfartaledd pum-mlynedd am y bedwaredd wythnos yn olynol.

Mae edrych ar nifer y marwolaethau y byddwn yn disgwyl eu gweld ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn cael ei weld fel ffordd ddibynadwy o fesur effaith y pandemig.

Cafodd 651 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 26 Mawrth, sydd 26 marwolaeth yn is na'r cyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Ers dechrau'r pandemig dengys y ffigyrau bod 40,726 o bobl wedi marw yng Nghymru o unrhyw achos, tra bod Covid-19 yn cael ei grybwyll ar y dystysgrif marwolaeth yn 7,796 o'r achosion hynny.

Mae hyn 5,991 marwolaeth yn uwch na'r cyfartaledd pum-mlynedd.

Pan ystyrir y marwolaethau a ddigwyddodd hyd at 26 Mawrth ond na chafodd eu cofrestru tan ar ôl hynny, mae cyfanswm y rhai a fu farw o achos Covid yn codi i 7,804.