Poen meddwl Dug Caeredin dros Aberfan
- Cyhoeddwyd
Ar 21 Hydref 1966, cafodd pentref Aberfan ei chwalu dan don o wastraff glofaol gan ladd 116 o blant a 28 oedolyn.
O fewn oriau roedd Dug Caeredin wedi teithio mewn hofrennydd i'r pentref, ac yn ôl un sylwebydd brenhinol roedd yn foment fyddai'n aros gydag ef am byth.
Dywedodd y Dug yn ddiweddarach nad oedd erioed wedi gweld golygfa oedd yn cymharu gyda'r hyn a welodd.
Dywedodd y ffotograffydd brenhinol Ian Lloyd fod ymateb Dug Caeredin i'r trasiedi wedi dangos ochr sensitif yr oedd fel arfer yn ceisio'i chuddio.
"Yn y lluniau mae golwg o wewyr ar ei wyneb," medd Mr Lloyd.
"Doedd dangos emosiwn yn gyhoeddus ddim ei steil ef, ond fe gafodd effaith arno."
Roedd Brian Hoey yn ohebydd papur newydd ar y pryd ac yn un o'r newyddiadurwyr cyntaf i gyrraedd y safle.
Dywedodd: "Fe wnaeth fynnu o'r dechrau na ddylai'r protocolau arferol fod mewn grym.
"Roedd yn symud yn dawel ymysg y pentrefwyr yn cynnig geiriau o gydymdeimlad."
Roedd y Dug wedi cael profedigaeth bersonol ei hun. Yn 1937 bu farw ei chwaer Cecile - oedd yn feichiog ar y pryd - ei gŵr a'u dau blentyn mewn damwain awyren.
"Roedd yn deall trasiedi," meddai Mr Lloyd.
"Ni chafodd unrhyw gwnsela wedi marwolaeth ei chwaer, ac fe gafodd effaith enfawr arno."
Wythnos wedi ei ymweliad ag Aberfan, fe ddychwelodd y Dug gyda'r Frenhines ar un o'r ymweliadau brenhinol mwyaf trasig yn ei theyrnasiad.
Ychwanegodd Mr Hoey: "Roedd y ddau ymweliad yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan bobl Aberfan... am eu tosturi ac am ddangos eu bod yn poeni."
Jeff Edwards oedd y plentyn olaf i gael ei dynnu'n fyw allan o Ysgol Gynradd Pantglas yn Aberfan.
Dywedodd: "Aeth y Frenhines a'r Tywysog Philip i dŷ gerllaw ar ôl bod yn y fynwent lle'r oedd y plant yn cael eu claddu.
"Roedd hi wedi ypsetio ac roedd rhaid iddi ymdawelu cyn mynd ymlaen i gwrdd gyda theuluoedd oedd wedi colli plant a pherthnasau.
"Cafodd y Dug gynnig cacen gri gan Mrs Jones, oedd yn byw yn y tŷ. Dywedodd wrthi mai dyna oedd y cacennau cri gorau iddo eu blasu erioed."
'Ochr sensitif'
Ychwanegodd Ian Lloyd: "Un o'r pethau oedd pobl ddim yn sylweddoli am y dug oedd ei ochr sensitif.
"Yr argraff oedd pobl yn ei gael oedd ei fod yn berson caled, ond roedd ochr sensitif iddo nad oedd pobl yn gweld yn aml.
"Efallai mai rhywbeth o'i genhedlaeth oedd hynny, ond roedd yn aml yn mynd i drafferth fawr i guddio'r ochr yna o'i bersonoliaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021