Galw am ariannu teg i hosbisau plant Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae hosbisau plant yng Nghymru yn galw am gydraddoldeb ariannol gan eu bod yn derbyn llawer llai o bres gan y llywodraeth na hosbisau tebyg yng ngweddill y DU.
Mae hosbisau Cymru'n derbyn llai na 10% o'u harian gan y llywodraeth o'i gymharu â Lloegr sy'n cael 21%, Gogledd Iwerddon 25%, a'r Alban 50%.
Mae teuluoedd plant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu eu bywydau'n disgrifio'r ddwy hosbis Gymreig - Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith - fel "achubiaeth".
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo adolygu'r arian i'r hosbisau. Ond gallai canlyniad etholiad y Senedd ar 6 Mai effeithio ar hynny.
'Dibynnu ar garedigrwydd'
Mae Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn ddibynnol ar ymgyrchoedd codi arian er mwyn cynnig seibiant a gofal lliniarol i dros 400 o deuluoedd ar draws Cymru.
Mae'r ddwy hosbis yn galw am sefydlu system ariannu deg a chynaliadwy fel rhan o'u hymgyrch Cronfa Achubiaeth i Gymru.
Dywedodd prif weithredwr Tŷ Hafan, Maria Samra: "Dwi wedi bod yn disgrifio hyn fel loteri côd post, mae'n teimlo fel bod y plant dan anfantais os na allwn ni godi'r arian am ba bynnag reswm, ac mae hwythau'n digwydd bod yn blant Cymreig yn hytrach na phlant Seisnig, neu Albanaidd neu o dde Iwerddon neu Ogledd Iwerddon.
"Maen nhw dan anfantais anferthol achos rydym yn gyfyngedig iawn o ran yr hyn y gallwn ei ddarparu."
Dywed y ddwy elusen eu bod yn "ffodus iawn" ac yn cael eu cefnogi "gan garedigrwydd pobl Cymru" a'u bod yn falch o fod yn rhan o'r system gofal iechyd.
'Gwnewch yr hyn sy'n iawn'
Pwysleisiodd y ddwy hosbis nad ydynt yn dymuno cael eu hariannu'n gyfan gwbl gan y llywodraeth chwaith.
"Rydym yn ymroddedig tuag at y plant a'r teuluoedd ac i barhau i godi arian i'w cefnogi, ond yn amlwg mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos pa mor fregus yr ydym ni o ran codi arian. Pan rydych ond yn derbyn 5% o'ch harian, mae'n anodd cynllunio ymlaen llaw.
"Rydym eisiau cydraddoldeb, mae'r plant yn haeddu ariannu statudol.
"Ond cyn gynted ag y maent yn dod drwy'n drysau, mae'r arian yn stopio. Mae o bron fel eu bod yn cael eu trosglwyddo i'n dwylo ni a'n bod ninnau wedyn yn gyfrifol am ariannu popeth.
"Rydym am i Lywodraeth Cymru ddeall nad yw hyn yn gynaliadwy, ac iddynt wneud yr hyn sy'n iawn."
'Ar goll heb Tŷ Hafan'
Mae gan Sarah Howell o Sir Benfro ddwy ferch sy'n mynd i Tŷ Hafan a dywedodd bod eu gofal yn rhoi cyfle iddi dreulio amser gyda'i merched "lle gallaf fod yn fam yn lle gofalwraig".
Mae Molly, 17, ac Emily, 15 ill dwy yn dioddef o Syndrom Rett.
Maent o hyd yn "hapus, yn gwenu, yn gymdeithasol iawn ond yn fwy na hynny yn ferched ifanc dewr iawn, ac maent wastad yn rhoi gwên ar wynebau pawb," meddai Mrs Howell.
"Mae stryglo i fod yn rhieni a gofalwyr dros y blynyddoedd wedi bod yn anodd iawn yn emosiynol a chorfforol. Dwi ddim yn credu y gallwn fod wedi ymdopi'n dda heb y gefnogaeth.
"Mae angen i'n llywodraeth ariannu mwy ar yr hosbis anhygoel yma, oherwydd hebddi, byddwn ni a theuluoedd eraill ar goll yn llwyr."
Cafodd Esmai Roddy, 4 oed o'r Barri, ddiagnosis o Syndrom CHARGE ychydig ar ôl cael ei geni. Cafodd hi a'i mam, Sam, eu cyfeirio at Tŷ Hafan yn 2017 pan oedd Esmai ond naw mis oed, ac maent wedi bod yn defnyddio'r gwasanaeth byth ers hynny.
"Fedra i ddim credu bod Tŷ Hafan yn cael cyn lleied o arian gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ofnadwy," meddai Sam.
"Mae'n hanfodol bod pobl fel fi ac Esmai yn cael ein cyfeirio yno gan y gwasanaeth iechyd.
"Dwi'n meddwl y dylai'r llywodraeth roi lot mwy o arian i Tŷ Hafan bob blwyddyn i helpu i gadw'r lle i fynd."
Ychwanegodd: "Ar wahân i fy nheulu, Tŷ Hafan yw'r unig help dwi wedi cael ei gynnig erioed. Wn i ddim lle byddwn i hebddo fo."
Dywedodd prif weithredwr Tŷ Gobaith, Andy Goldsmith, bod adroddiad diweddar yn dangos bod y mwyafrif helaeth o deuluoedd oedd yn derbyn cefnogaeth hosbis, eisiau mwy o wasanaethau a hynny'n fwy aml.
Daw hyn, meddai, wrth i'r nifer o deuluoedd gynyddu, yn ogystal â'r nifer o flynyddoedd yr oeddynt angen cefnogaeth a gofal.
"Mae hynny'n golygu mwy o gostau ac yn rhoi mwy o ofynion ar y gwasanaeth.
"Yn nhermau ariannu - ariannu gwladol gan Lywodraeth Cymru - nid yw hynny wedi newid ers o leiaf 10 mlynedd, felly mae gwerth yr ychydig yr ydym wedi bod yn ei dderbyn, wedi lleihau mewn gwirionedd dros y cyfnod hwnnw."
Pwysleisiodd pennaeth gofal Tŷ Hafan, Deborah Ho, fod gofal lliniarol plant yn wahanol iawn i ofal oedolion, a gellid fod angen gwasanaethau cyn i blentyn hyd yn oed gael ei eni ac ymhell ar ôl iddynt farw.
"Mae yna well dealltwriaeth o natur oesol yn y berthynas y mae hosbisau plant yn ei ddatblygu gyda phlant a theuluoedd.
"Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cynyddu ariannu cynaliadwy i'n teuluoedd. Rydym yn gweithredu ar eu rhan, gyda'u lleisiau nhw tu cefn i ni yn gofyn am yr hwb bwysig yma."
Heb ofal hosbisau plant, naill ai yn eu prif ganolfannau neu yn eu cymunedau, mae'r ddau brif weithredwr yn cytuno y byddai teuluoedd yn gorfod "dioddef ar eu pen eu hunain".
"Allwn ni ddim rhwystro'r plant yma rhag marw, nid dyna yw rôl hosbisau, ond rydym yn cerdded ochr yn ochr â theuluoedd ac yn eu cefnogi yn ystod eu hoes, neu yn ystod oes y plentyn," meddai Mr Goldsmith.
"Petawn ni ddim yna i'w cefnogi fe fyddent ar eu pen eu hunain, a gwyddwn fod hynny'n cael effaith niweidiol ar y teulu cyfan, ar iechyd meddwl y teulu, ar allu brodyr a chwiorydd i dyfu i fyny a datblygu fel plant a phobl ifanc, ac ar iechyd y teulu cyfan."
Ymateb y pleidiau
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae hosbisau'n cynnig gwasanaethau anhygoel o bwysig ac rydym yn cydnabod y gefnogaeth enfawr maen nhw'n ei roi i gleifion, teuluoedd a gofalwyr.
"Mae llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i fuddsoddi dros £8.4m bob blwyddyn i gefnogi gofal lliniarol arbenigol ar draws Cymru. Mae llawer o hwn yn cefnogi hosbisau plant ac oedolion.
"Fel rhan o'n hymateb i'r pandemig mae dros £9m o arian brys wedi ei roi i hosbisau yn ystod y 12 mis diwethaf i amddiffyn eu gwasanaethau critigol sylfaenol ac i gryfhau cefnogaeth galaru."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar blant, Laura Anne Jones bod hosbisau plant yn gwneud gwaith "amhrisiadwy" - "er mai dim ond 10% o'u harian y mae Llafur yn ei gyfrannu".
"Mae'r diffyg nawdd yn golygu bod hosbisau plant Cymru wedi disgyn ar ei hôl hi yn ofnadwy o'i gymharu â gweddill y DU," meddai.
"Mae angen mynd i'r afael â hyn heb oedi er mwyn sicrhau bod hosbisau yn gallu delio â'r galw cynyddol yn y dyfodol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod "nifer o feysydd gofal arbenigol sydd wedi cael eu hesgeuluso yng Nghymru".
"Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod yr holl feysydd yma yn derbyn sylw strategol," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bod hosbisau plant yn "cynnig gofal allweddol i nifer o blant a'u rhieni ar adeg mor anodd".
"Mae'r rheiny sy'n elusennau yn cymryd pwysau allweddol oddi ar y GIG ond dydy hyn ddim yn golygu na ddylen nhw dderbyn arian cyhoeddus," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020