UKIP: Cyfrif Twitter ymgeisydd yn 'gasgliad o gasineb'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgeisydd UKIP ar gyfer etholiadau'r Senedd wedi ei labelu yn "fygythiad i'r gwarineb a chydfodolaeth sydd wrth galon Cymru fodern."
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimaidd Cymru, Dr Abdul Azim Ahmed wrth raglen Newyddion S4C bod "rhaid i UKIP gyfiawnhau pam bod unigolyn o'r fath yn cynrychioli eu plaid".
Ychwanegodd bod rhaid i bobl yng Nghymru "wynebu'r cwestiwn cythryblus sut bod modd i ymgeisydd o'r fath sefyll yn y lle cyntaf".
Mae Stan Robinson yn drydydd ar restr UKIP o ymgeiswyr ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru.
Yn ôl Dr Ahmed, mae ei gyfrif Twitter yn "gasgliad o gasineb, rhagfarnau, cynllwynion a cham wybodaeth pryderus iawn".
Dywedodd Stan Robinson bod "yr hawl i ryddid mynegiant yn hawl Prydeinig cynhenid, ac yn cynnwys yr hawl i beri loes yn ogystal â chael eich tramgwyddo".
Cafodd Mr Robinson ei feirniadu yn ddiweddar am ei rôl fel un o gyflwynwyr sianel YouTube o'r enw 'Voice of Wales'.
Yn dilyn ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C, lle cafodd y sianel ei labelu yn hiliol, fe wnaeth gwefan YouTube ddileu y sianel honno.
'Iasol'
Ar ei gyfrif Twitter dros y pythefnos diwethaf, mae Mr Robinson wedi postio nifer o negeseuon dirmygus am Islam a Mwslemiaid yn ogystal ag un sydd i weld yn cefnogi caethwasiaeth.
Mae hefyd wedi ail-drydar negeseuon sydd yn disgrifio mudwyr fel "parasitiaid" ac yn dweud y dylen nhw gael eu "saethu" a'u "harestio" er mwyn "rhwystro'r mewnlifiad".
Ddiwedd mis diwethaf fe wnaeth llun gael ei ail-drydar o gyfrif Stan Robinson yn dangos cartŵn o'r Proffwyd Muhammad ac yn awgrymu cam-driniaeth rhywiol o blentyn.
Dywedodd Dr Abdul Azim Ahmed ei bod hi'n "iasol ei fod e [Stan Robinson] yn ymgeisydd ar gyfer y Senedd".
Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Mr Robinson mewn datganiad: "Fe wnes i drydar y cartwnau yn ddiweddar i gefnogi athro yn Batley sydd yn poeni am ei fywyd ar ôl dangos llun i fyfyrwyr o'r Proffwyd Muhammad.
"Allwn ni ddim caniatáu i'n hunain gael ein bygwth yn ddiddiwedd gan y rhai sydd am gyflwyno cyfreithiau cabledd yn Lloegr a Chymru.
"Mae'n rhaid i fi bwysleisio fy mod i'n gwrthod pob math o drais. Rwy'n deall bod nifer o bobl yn rhwystredig â methiant y llywodraeth o ran ein ffiniau, mae annog trais yn annerbyniol ac yn wrthun."
Ychwanegodd Mr Robinson: "Fe wnes i ail-drydar y neges yna mewn camgymeriad ac rwy'i nawr wedi ei waredu ar ôl iddo fe ddod i'm sylw. Alla'i ond ymddiheuro am gamgymeriad onest ar fy rhan i.
"Wedi dweud hynny, dwi ddim am gael negeseuon o ran casineb a rhagfarnau gan Gyngor Mwslemaidd Cymru sydd yn dal i gefnogi Sahar al-Faifi, ymgeisydd Plaid Cymru sydd wedi cyfaddef gwrth-Semitiaeth."
Fe wnaeth Sahar al-Faifi ymddiheuro yn 2019 ar ôl cael ei chyhuddo o bostio negeseuon gwrth-Semitaidd ar wefannau cymdeithasol rai blynyddoedd ynghynt.
Yn siarad a BBC Cymru ar y pryd fe ddywedodd hi ei bod hi'n "difaru postio llond dwrn o negeseuon ar wefannau cymdeithasol oedd yn croesi'r ffin rhwng beirniadu Israel a gwrth-Semitiaeth" a'i bod hi wedi derbyn hyfforddiant gwrth-Semitiaeth yn y cyfamser.
Galw am ymchwiliad
Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C dywedodd hi: "Rwy'i wedi fy syfrdanu gyda'r negeseuon mae Stan Robinson yn rhannu o'i gyfrif trydar. Heblaw y cartwnau sydd yn erchyll o atgas, mae hefyd wedi ail-drydar negeseuon am 'saethu' mudwyr.
"Rwy'n ymroddedig i Gymru i bawb, Mwslemiaid, Iddewon, pobl o bob ffydd a dim ffydd yn ogystal a phob hil, cymunedau sydd wedi setlo a mudwyr newydd, i flodeuo a galw Cymru yn gartref iddyn nhw," meddai Ms al-Faifi.
"Rwy' wedi a byddaf yn parhau i weithio i gyflawni hynny. Mae'n amlwg nad yw Stan Robinson yn rhannu'r un weledigaeth."
Ychwanegodd: "O ystyried natur ddifrifol y cynnwys ar-lein yma, sydd o bosib yn groes i'r gyfraith, rwy'n gobeithio y bydd y Comisiwn Etholiadol yn ymchwilio pa mor addas yw e i gael sefyll fel ymgeisydd."
Dywedodd y Comisiwn Etholiadol nad oes ganddyn nhw ran yw chwarae wrth fonitro ymgeiswyr a'u hymddygiad ac y dylai unrhyw bryderon gael eu hanfon at yr heddlu.
Enillodd UKIP saith sedd yn yr etholiadau diwethaf yn 2016, ond erbyn diwedd tymor y Senedd, un Aelod Senedd yn unig oedd ganddyn nhw yn weddill.
Doedd y blaid ddim am wneud sylw am y pryderon am gyfrif Twitter Mr Robinson.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2021