Adalw'r Senedd i roi teyrngedau i Ddug Caeredin

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd teyrngedau yn cael eu rhoi i Ddug Caeredin yn y Senedd am 11:00

Cafodd y Senedd ei hadalw ddydd Llun er mwyn rhoi teyrnged i fywyd a gwasanaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin.

Bu farw'r Dug yng Nghastell Windsor ddydd Gwener yn 99 oed.

Cafodd munud o dawelwch ei chynnal am 11:00 ar ddechrau'r sesiwn.

Mae baneri wedi eu hanner gostwng ar draws holl ystâd y Senedd, ac mae llyfr cydymdeimlo ar-lein ar gael i'r rhai sydd am roi teyrnged.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog Philip yn gwylio'r Frenhines yn agor sesiwn ddiweddaraf y Senedd yn 2016

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones: "Rhoddodd y Tywysog flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus.

"Roedd hyn yn cynnwys gwasanaeth milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chreu Gwobr Dug Caeredin, sydd wedi rhoi profiadau a chyfleoedd hollbwysig i gannoedd ar filoedd o bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.

"Mae'r Senedd yn anfon ei chydymdeimlad."

Disgrifiad o’r llun,

Wedi'r funud o dawelwch, mae arweinwyr y prif bleidiau'n rhoi eu teyrngedau unigol i Ddug Caeredin

Gan ddisgrifio'i fywyd fel un "eithriadol", dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod Dug Caeredin wedi cefnogi "amrywiaeth eang" o achosion yng Nghymru ym meysydd diwylliant, chwaraeon a'r amgylchedd.

Gyda'r Dug hefyd â theitl Iarll Meirionnydd, awgrymodd bod "dim syndod, felly, ei fod yn gefnogwyr sawl cymdeithas ym Meirionnydd, o'r clwb criced a'r clwb hwylio i'r seindorf".

Ychwanegodd: "Ar ran Llywodraeth Cymru... rwy'n estyn ein cydymdeimlad didwyll ar derfyn bywyd eithriadol a gafodd ei fyw i'r eithaf."

Cyfeiriodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, at waith y Dug o ran cefnogi pobl ifanc, elusennau milwrol a phrosiectau bywyd gwyllt.

Mae miliynau o bobl ifanc wedi elwa o gymryd rhan yng nghynllun Gwobrau Dug Caeredin, meddai, ac yn Nghymru mae hynny'n golygu bod "mwy na 400,000 o bobl ar drywydd dyfodol o bosibiliadau disglair".

Ychwanegodd Mr Davies ei fod wedi cwrdd â'r Dug sawl tro wrth iddo ymweld â'r Senedd, a'i fod "wastad â diddordeb, wastad yn feddylgar a wastad yn graff ei farn".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price mai'r "cymorth a gynigiodd i eraill" ydy gwaddol pwysicaf y Dug.

Mae'n bwysig cofio yng nghanol y galaru swyddogol, meddai, mai "sôn ydym am wraig sydd wedi colli gŵr" a "gwagle diamgyffred sydd wedi agor yn dilyn amser maith ynghyd".

Dywedodd bod y tawelwch heddiw yn arwydd o barch a choffadwriaeth i'r teulu Brenhinol, ond hefyd yn symbol o'r "cyd-alaru" gyda phawb a gollodd anwyliaid "yn y flwyddyn anoddaf hon".

Rhoddodd Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol deyrnged i waith y Dug gyda phobl ifanc.

Dywedodd bod ei ymrwymiad yn fwy na Gwobr Dug Caeredin yn unig, a'i fod wedi cefnogi "datblygiad llyfrgelloedd cyhoeddus a chydnabod pwysigrwydd mynediad at lyfrau wrth rannu gwybodaeth" dros y byd.

Dywedodd Mark Reckless o Blaid Diddymu'r Cynulliad bod gan y Dug y gallu i gael "sgyrsiau go iawn gyda chymaint o bobl". Trwy hynny, meddai, fe wnaeth "cyffwrdd ym mywydau gymaint o bobl drwy ddweud rhywbeth arbennig" i bob un.

Yn ôl yr Aelod annibynnol, Caroline Jones, sy'n cynrychioli'r Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio, roedd y Dug "yn llysgennad gwych i'r frenhiniaeth". Ychwanegodd bod "rhaid i'r gweriniaethwyr pennaf gydnabod bod ei gyfraniad i wasanaeth cyhoeddus heb ei ail".

Ffynhonnell y llun, Comisiwn y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Y Dug yn ystod agoriad pedwerydd tymor y Cynulliad ym Mehefin 2011

Dros y penwythnos daeth yr ymgyrchu ar gyfer etholiad y Senedd ac etholiad y comisiynwyr heddlu a throsedd i ben am y tro.

Bydd Plaid Cymru yn ailgychwyn ei hymgyrch yn llawn brynhawn Llun, gan gynnwys canfasio neu gnocio drysau, sy'n cael ei ganiatáu o ddydd Llun yn dilyn newid yn rheolau Covid-19.

Bydd Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ailddechrau anfon taflenni brynhawn Llun cyn dychwelyd i'w hymgyrchoedd yn llawn ddydd Mawrth.

Bydd y Ceidwadwyr yn ailgychwyn eu hymgyrch ddydd Mawrth.

Yn Llundain, bydd Tŷ'r Cyffredin yn ailymgynnull am 14:30 er mwyn rhoi teyrngedau i Ddug Caeredin.

2002 oedd y tro diwethaf i deyrngedau brenhinol gael eu rhoi yn Nhŷ'r Cyffredin, a hynny yn dilyn marwolaeth y Fam Frenhines.

Mae disgwyl i'r Arglwyddi roi teyrnged i'r Tywysog Philip am 13:00 ddydd Llun yn dilyn cyfres o weddïau.

Bydd y cyfnod o alaru cyhoeddus yn dod i ben wedi 17 Ebrill - sef diwrnod angladd y Dug yng nghapel San Siôr yng Nghastell Windsor.

Ar ddechrau'r gwasanaeth angladdol am 15:00 ddydd Sadwrn bydd munud o dawelwch. Mae amser pob digwyddiad chwaraeon, oedd fod i ddigwydd ar yr adeg honno, wedi newid.

Mae'r Ceidwadwyr, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu atal ymgyrchu'n llawn ddydd Sadwrn i nodi'r angladd.

Mae Plaid Cymru yn dal i wneud penderfyniad terfynol ond y cynllun presennol yw parhau i ymgyrchu fore Sadwrn cyn stopio ar gyfer yr angladd ei hun.