'Gwersi i'w dysgu' ar gyflenwadau offer diogelwch
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad swyddogol yn dweud fod Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi ymateb "yn dda dan amgylchiadau anodd" wrth sicrhau cyfarpar diogelu personol - PPE - yn ystod y pandemig.
Ond yn ôl adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ar adegau yn Ebrill 2020, roedd llai na dau ddiwrnod o gyflenwad rhai darnau o offer PPE ar ôl.
Maen nhw'n dweud fod "gwersi i'w dysgu" wrth baratoi am bandemig arall yn y dyfodol.
Ar y cyfan mae'r Swyddfa Archwilio yn canmol "terfyniadau da i reoli risgiau" wnaeth helpu "osgoi rhai o'r problemau yr adroddwyd arnynt yn Lloegr".
Er hyn, mae'r adroddiad hefyd yn nodi na chafodd gwybodaeth ynglŷn â dyfarnu cytundebau ar gyfer yr holl gontractau ar gyfer PPE eu cyhoeddi "o fewn 30 diwrnod i'w gosod fel oedd yn ofynnol".
Dywedodd Cydwasanaethau GIG wrth SAC bod eu staff "angen blaenoriaeth caffael OOE" a bod rhesymau gweinyddol eraill am unrhyw oedi.
Cyn y pandemig byddai'r GIG yng Nghymru yn gwario tua £8m yn flynyddol ar gyfarpar diogelu personol.
Eleni mae disgwyl i'r ffigwr fod dros £300m.
Ond mae'r Swyddfa Archwilio yn amcangyfrif fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn £880m trwy fformiwla Barnet o ganlyniad i wariant ar PPE yn Lloegr.
Mae'r data, medd yr adroddiad, yn dangos fod cyflenwad rhai eitemau - fisorau, rhai masgiau a gynnau llawfeddygol - wedi gostwng islaw dau ddiwrnod ar adegau ym mis Ebrill 2020.
"Mae'r system iechyd a gofal bellach mewn sefyllfa well o lawer, gyda stociau wrth gefn o'r rhan fwyaf o eitemau ac archebion wedi'u cyflwyno ar gyfer eitemau allweddol lle mae'r stociau islaw'r targed presennol o 24 wythnos o gyflenwad."
Mae'r Swyddfa Archwilio yn cydnabod fod yna bryder wedi bod am gyflenwadau digonol o PPE ymhlith staff.
Maen nhw'n cyfeirio at arolwg gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain sy'n sôn bod rhai aelodau o staff rheng flaen wedi dweud iddynt brofi prinder cyfarpar diogelu.
"Mewn rhai achosion, mae pryderon staff yn ymwneud â'r ffaith bod arnynt eisiau lefel uwch o gyfarpar diogelu personol nag sy'n ofynnol yn ôl y canllawiau."
Mae'r adroddiad gan y Swyddfa Archwilio hefyd yn cymharu'r sefyllfa yng Nghymru a Lloegr wrth i lywodraethau geisio dod o hyd i gyflenwyr newydd.
"Fe wnaeth y cydwasanaethau daro cydbwysedd rhwng yr angen taer i gael cyflenwadau cyfarpar diogelu personol ar gyfer staff rheng flaen a'r angen i reoli risgiau sylweddol i lywodraethu ariannol.
"Roedd y risgiau hyn yn cynnwys ymdrin â chyflenwyr newydd, gorfod gwneud taliadau mawr ymlaen llaw a symiau sylweddol o offer twyllodrus ac o ansawdd gwael yn cael eu cynnig.
"Yn wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr, nid yw ein hadroddiad yn canfod unrhyw dystiolaeth o roi blaenoriaeth i gyflenwyr posibl gan ddibynnu pwy a'u hatgyfeiriodd."
'Gwersi i'w dysgu'
Mae'r adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher yn annog:
Parodrwydd ar gyfer clefydau pandemig yn y dyfodol;
Datblygu strategaeth gaffael ar gyfer PPE - gan gynnwys maint a natur y pentwr, cynlluniau ar gyfer y farchnad PPE gartref;
Tryloywder mewn perthynas â dyfarnu contractau ac argaeledd stoc PPE.
Dywedodd Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol: "Mae Cydwasanaethau'r GIG, gan weithio gydag eraill, wedi ymateb yn dda i ddatblygu a chynnal y stoc genedlaethol a chyflenwi cyrff iechyd a gofal.
"Fodd bynnag, er gwaethaf pwysau a oedd mewn cystadleuaeth â'i gilydd, dylai'r Cydwasanaethau fod wedi symud yn gyflymach i gyhoeddi manylion y contractau a osodwyd ganddynt.
"Er bod y darlun cyffredinol a gaiff ei gyfleu gan fy adroddiad yn weddol gadarnhaol o ystyried yr amgylchiadau anodd, ni allwn anwybyddu'r farn a fynegwyd gan rai o'r bobl ar y rheng flaen ynglŷn â'u profiadau hwy eu hunain.
"Mae gwersi i Lywodraeth Cymru a'r Cydwasanaethau eu dysgu hefyd - ynglŷn â pharatoi ar gyfer pandemig yn y dyfodol yn ogystal â mynd i'r afael â rhai heriau cyfredol."
Beth yw ymateb y pleidiau?
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Rydyn ni'n fodlon gyda'r ffaith bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cydnabod y gwaith caled y gwnaeth ein GIG ymgymryd ag o i ganfod a chytuno ar gontractau er mwyn sicrhau cyflenwad sefydlog o PPE i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn amgylchiadau anodd iawn.
"Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod y ffordd agored a thryloyw cafodd PPE ei sicrhau yng Nghymru, sydd yn cyferbynnu'n fawr gyda'r dull y dilynodd y Ceidwadwyr yn Lloegr."
Dywedodd llefarydd Iechyd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ei fod yn beth da bod pethau wedi sefydlogi o ran PPE, "ond rydyn ni gyd yn cofio'r nifer o enghreifftiau o brinder PPE daeth i'r amlwg yn ystod misoedd cynnar y pandemig gyda staff y rheng flaen yn poeni am ddiogelwch ei hunan a'r rheiny roedden nhw'n gofalu am".
"Mae'n amlwg roedd cynllunio'r pandemig ar ran Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn druenus o annigonol. Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am ymchwiliad llawn mewn i sut gafodd y pandemig ei drin yng Nghymru - yn hytrach nag ond ymchwiliad i'r DU.
"Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o ran cynllunio a pharatoi lot yn well ar gyfer pandemig yn y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Roedd yn rhaid i lywodraethau o bob lliw symud yn gyflym iawn yn ystod adeg ddigynsail i ddiogelu staff y rheng flaen ac eraill.
"Yn ogystal ag ymdrechion Llywodraeth Cymru, gwnaeth Llywodraeth y DU bopeth yn ei gallu i gael 32 biliwn eitem o PPE mewn i'r wlad yn sicrhau ein bod ni'n osgoi prinder trychinebus.
"Bydd gwersi i'w dysgu ar gyfer pob llywodraeth pan mae'n dod i'r pandemig - yn cynnwys paratoi a chaffaeliad - a dyna pam mae'n bwysig bod ymchwiliad am Gymru'n benodol yn cael ei lansio cyn gynted â phosib."
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'r GIG a phawb sy'n rhan o daclo'r pandemig wedi gweithio'n hynod o galed mewn amgylchiadau heriol iawn.
"Gobeithio na fydd un ohonom yn byw trwy arswyd pandemig ledled y byd unwaith eto, ond dylem wastad baratoi am y gwaethaf ac mae angen i wersi gael eu dysgu.
"Mae'n rhaid i unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol edrych ar ba mor barod oedd Cymru ar gyfer y pandemig yma ac mae angen edrych ar ba mor agos y gwnaethom ni ddod at redeg allan o offer diogelwch critigol yn Ebrill 2020."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2020