Cais i gofrestru tir er mwyn atal codi ystâd o dai

  • Cyhoeddwyd
Cae Erw Goch ac arwydd cais maes pentref

Mae pobl sy'n gwrthwynebu cynllun i godi ystâd o dai ar hen gae fferm ger Llanbadarn Fawr yng Ngheredigion wedi gwneud cais i gofrestru'r tir fel maes pentref er mwyn ceisio atal y cynlluniau.

Mae Cyngor Ceredigion ar y cyd gyda chymdeithas tai wedi cyflwyno cais allai arwain at godi dros 70 o gartrefi ar gae sydd, yn ôl y gymuned leol, yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff.

Ond mae pobl leol yn ofni bod y cais wedi cael ei wanhau ar ôl i'r cyngor dynnu pyst pêl-droed o'r cae.

Yn ôl y cyngor fe symudwyd y pyst am resymau iechyd a diogelwch.

Pe bai cais Cymdeithas Tai Wales and West a Chyngor Ceredigion yn cael ei wireddu fe allai 77 o dai - yn cynnwys rhai fforddiadwy a 12 o fflatiau ar gyfer pobl ag anawsterau dysgu - gael eu codi ar y cae. Roedd y tir yn arfer bod yn rhan o fferm Erw Goch yn Waunfawr, Aberystwyth.

'Hanfodol i'r gymuned'

I drigolion lleol sy'n gwrthwynebu'r cais mae'r tir wedi bod yn lle i chwarae a chael ymarfer corff ac yn lleoliad ar gyfer gweithgareddau cymunedol ers degawdau.

Dywedodd Elin Mabbutt, sy'n byw gerllaw ac yn gwrthwynebu'r cais, "Mae'r darn hyn o dir yng nghanol sawl ystâd o dai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle'n bwysig iawn i'r gymuned leol, medd Elin Mabbutt

"Ma' fe wedi bod yn hanfodol i'r gymuned yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, ac mae'n cael ei ddefnyddio'n feunyddiol gan bobl o bob oedran, pobl yn cerdded cŵn ac eraill jyst yn dod mas i gerdded yma. Felly mae'n hynod o bwysig."

Tan yn ddiweddar roedd dwy gôl pêl-droed ar un rhan o'r cae. Roedd cystadleuaeth leol - y Waun Shield - yn cael ei chynnal ar y tir bob blwyddyn, ac roedd plant lleol yn defnyddio'r goliau yn rheolaidd.

Ond erbyn hyn mae'r pyst gôl wedi cael eu tynnu lawr gan Gyngor Ceredigion, a hynny am resymau iechyd a diogelwch yn ôl y cyngor.

Dywedodd llefarydd eu bod nhw wedi cael eu codi heb ganiatâd, a hynny ar ôl i'r pyst gwreiddiol gael eu tynnu flynyddoedd yn ôl wedi damwain drasig mewn pentref arall yn y canolbarth pan fu farw bachgen bach ar ôl i bostyn gôl gwympo arno fe.

Ond mae pobl leol yn anghytuno gyda'r hyn mae'r Cyngor yn ei ddweud, gan fynnu mai dim ond un set o goliau sydd erioed wedi bod ar y cae.

Disgrifiad o’r llun,

Mae anghytuno ynghylch codi - a symud - pyst gôl o'r safle

Dywedodd Elin Mabbutt: "Dw i wedi e-bostio [y cyngor] i ofyn am dystiolaeth bod y pyst gwreiddiol fel maen nhw'n dweud wedi cael eu tynnu lawr ar ôl y ddamwain, ond dwi ddim wedi derbyn ymateb.

"Felly gallwn ni ond ystyried bod hyn yn coincidence bod hyn wedi digwydd tra bod y cais cynllunio a'r cais statws maes pentref gyda'r Cyngor.

"Roedd y pyst yn rhan fawr o'n tystiolaeth ni i ddangos bod y cae yn cael, ac wedi cael, ei ddefnyddio yn ystod y degawdau diwethaf."

Ysgol newydd ynghlwm â'r gwerthiant?

Mae'r cais maes pentref wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Ceredigion, sy'n dweud ei fod yn ei ystyried ar hyn o bryd.

Mae dros 100 o bobl leol wedi gwrthwynebu'r datblygiad, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn traffig a'r risg o lifogydd ym mhentref Llanbadarn, sydd islaw'r safle. Yn ôl arbenigwyr fe fydd ffyrdd a system draenio'r ardal yn gallu ymdopi.

Mae rhai gwrthwynebwyr yn chwilio am reswm arall i geisio atal y cais. Maen nhw wedi bod yn siarad â pherthnasau'r ffermwr - y diweddar Trevor Davies - wnaeth werthu'r tir i hen gyngor Sir Aberteifi yn 60au'r ganrif ddwetha', a hynny er mwyn codi ysgol yno.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ddealltwriaeth byddai ysgol yn cael ei chodi pan werthwyd y tir, yn ôl Harri Jones

Dywedodd Harri Jones, sy'n byw ger safle'r datblygiad arfaethedig: "Fel da ni wedi cael ar ddeall gan y teulu doedd o [y diweddar Mr Davies] ddim yn fodlon i'r tir yma gael ei werthu. Ond pan ddywedwyd wrtho mai o werthu'r tir y byddai ysgol newydd yn cael ei chreu yn Aberystwyth fe gytunodd o i werthu.

"Beth sydd rhaid i ni ffeindio ydy oedd yna amod yn y gwerthiant yna mai dim ond ar gyfer addysg yr oedd y gwerthiant i fod digwydd, ac nid ar gyfer ystâd o dai."

Mae'r gwrthwynebwyr yn ceisio darganfod a oes cyfamod ar y tir. Dywedodd Cyngor Ceredigion bod rhaid cyflwyno cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth cyn y bydd yn ateb y cwestiynau ynglŷn â'r mater.

Pynciau cysylltiedig