Honiadau i gwmni yswiriant wneud fflatiau'n 'ddiwerth'
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion fflatiau ym Marina Abertawe'n honni bod un o gwmnïau yswiriant mwyaf y byd wedi achosi i'r cartrefi fod yn ddiwerth wedi i dirfesurwyr roi dogfennau ffug.
Mae'r grŵp sy'n berchen ar fflatiau yn nhŵr Meridian Quay yn hawlio bod tirfesurwyr Zurich heb fynd trwy system electronig y cwmni a rhoi nodion yswirio wedi eu hysgrifennu â llaw fel tystiolaeth o bolisi yswiriant.
Honnir na ymwelodd y tirfesurwyr â'r datblygiad i gynnal archwiliadau cyn dosbarthu nodyn.
Dywed Zurich eu bod yn "anghytuno'n gryf" â'r awgrym.
Mynnodd y cwmni o'r Swistir bod eu gwiriadau "yn gyfan gwbl at bwrpas penderfynu a ddylid yswirio'r fflatiau rhag namau yn y dyfodol".
Dywed preswylwyr y datblygiad, sy'n cynnwys adeilad uchaf Cymru, pe bydden nhw wedi sylweddoli bod y nodion yswirio'n ffug ni fydden nhw wedi mynd ati i brynu eu fflatiau.
Mae benthycwyr angen y dogfennau i gymeradwyo morgeisi.
Dywed cyfreithwyr y grŵp eu bod yn ymwybodol bod Zurich wedi lleihau nifer y tirfesurwyr roedd yn eu cyflogi yn 2008 yn sgil penderfyniad i gefnu ar y farchnad gwarantu adeiladau.
Maen nhw'n honni bod ganddyn nhw "dystiolaeth gref" i awgrymu "chafodd dim archwiliadau mo'u cynnal yn y datblygiad gan dirfesurwyr Zurich o gymal cynnar iawn".
Dywedodd Martin Scott, uwch bartner adeiladu gyda chyfreithwyr Walker Morris: "Ar y pryd, roedd Zurich ymhlith llond llaw o yswirwyr gwarantu cartrefi ar y farchnad ac un o'r yswirwyr mwyaf blaenllaw yn achos datblygiadau tyrrau fflatiau aml-ddeiliadaeth."
Preswylwyr yn 'gaeth'
"Caiff eu holl brotocolau a systemau - popeth a ddywedon nhw wrth brynwyr am beth oedd eu cynnyrch a'r hyn fydden nhw'n eu cyflawni - yn cyfrif am ddim oherwydd na wnaethon nhw, yn syml, gynnal archwiliadau o gwbl.
"O ran y diffygion sydd wedi eu nodi, mae'n golygu i bob pwrpas bod preswylwyr yn gaeth ble ni allen nhw werthu, ni allen nhw ail-forgeisio. Ni allen nhw wneud dim oni bai am ddelio gyda'r diffygion ar gost enfawr. Oni bai am yr hawliad bod hyn yn dwyll, mae eu dyfodol yn edrych yn eithaf llym."
Prynodd Ceridwen a Brian Jones eu fflat llawr gwaelod gydag arian wrth ymddeol, gan freuddwydio am fyw'n heddychlon ger lan y môr.
Ond maen nhw'n dweud bod diffygion diogelwch tân sylweddol a phroblemau eraill gyda'r adeilad wedi achosi pryder dybryd dros nifer o flynyddoedd.
Mae'r cwpl ymhlith tua 90 o berchnogion sy'n rhan o'r achos yn erbyn Zurich.
"Mae wedi bod yn ofidus iawn i ni," meddai Mrs Jones.
"Mae'r teulu'n pryderu yn ein cylch ac mae wedi gadael ei ôl arnom. Fe wnaethon ni ymddeol i ddod yma gan feddwl bydde'n le delfrydol i fyw.
"Mae'r siopau jest lawr yr hewl ac mae popeth yn hawdd i'w gerdded a ninnau'n heneiddio. Ond mae hyn oll wedi digwydd ac mae'n wirioneddol ddifrifol."
'Straen trawmatig'
Ychwanegodd: "Does dim gwaith wedi ei gwblhau yn ein fflat ni hyd yma. Mae gyda ni damprwydd ar ein waliau, ond ni wyddwn hyd yma beth yw'r problemau uwchben ein nenfwd i sicrhau ein bod yn saff petasai 'na dân."
Dywed Mrs Jones eu bod wedi cael cais yn y gorffennol i gyfrannu £21,000 at fynd i'r afael â diffygion diogelwch tân a gwelliannau eraill i'r adeilad.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Meridian Quay Limited, prif ddaliwr prydles y datblygiad, bod y sefyllfa wedi achosi "straen trawmatig" i breswylwyr wybod bod eu fflatiau'n werth dim.
"Yn ariannol, mae'r ffïoedd rheolaeth wedi dyblu," medd Phil Lake.
"Mae'r preswylwyr wedi talu £1,000,000 yn ormodol mewn premiymau yswiriant o ganlyniad i ddiffygion tân. Mae hwn yn dwyll gan un o gwmnïau yswiriant mwya'r byd.
"Mae gyda ni dystiolaeth i ddangos na wnaethon nhw ddanfon tirfesurwyr yma i archwilio'r datblygiad yn iawn.
"Rydym yn gobeithio gallu hawlio £25m mewn ymateb i'r ffaith pan brynodd pobl y fflatiau yma, roedden nhw mewn gwirionedd yn ddiwerth. Rydym hefyd yn hawlio £5m mewn iawndal cosbol.
"Yn y pendraw mae pobl wedi bod yn byw yma mewn perygl."
Mae hawliad pellach yn erbyn Zurich gan berchnogion fflatiau ym Meridian Quay dros y gwarantiad cartref newydd 10 mlynedd.
Nod y gwarantiad yw sichrau bod unrhyw ddiffygion strwythurol neu broblemau diogelwch tân yn cael eu cywiro gan y datblygwr o fewn dwy flynedd gyntaf polisi, neu gan Zurich yn ystod gweddill y cyfnod.
Trosglwyddodd Zurich Insurance Limited yr atebolrwydd i gwmni yswiriant East West yn 2018. Erbyn Hydref 2020 roedd y cwmni hwnnw yn nwylo gweinyddwyr.
Mae cyfreithwyr Walker Morris yn honni bod y broses drosglwyddo o Zurich i East West wedi ei gweithredu'n anghywir.
Maen nhw'n honni bod "arferion trafod hawliadau ymosodol" yn achos hawliadau dalwyr prydles, yn awgrymu rhaid bod Zurich ac East West yn gwybod nad oedd y cyfyngiad diogelwch rhag colled yn ddigon i dalu am yr holl hawliadau.
Mae'n ymddangos bod trafodaethau'n parhau fel bod y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol yn talu'n llawn am waith adfer i wella'r problemau sydd wedi eu nodi ar draws y datblygiad.
Mae gwaith adfer eisoes wedi ei gwblhau ar dŵr Meridian Quay gan Carillion - y cwmni adeiladu tu ôl i'r datblygiad, a aeth yn fethiant yn 2018.
Dywedodd Zurich bod hi'n "ddrwg clywed am drafferthion y mae deiliaid prydles yn eu profi" ond eu bod yn "anghytuno'n gryf gyda'r honiadau sy'n cael eu gwneud yn ein herbyn".
"Yr awdurdod lleol oedd yn gyfrifol am sicrhau bod y datblygiad yn cydfynd â'r rheolau adeiladu," medd llefarydd.
"Roedd archwiliadau Zurich ei hun yn gyfan gwbl at bwrpas penderfynu a ddylid yswirio'r fflatiau rhag namau yn y dyfodol".
"Nododd polisi Zurich yn glir nad oedd archwiliadau yswiriant yn cadarnhau nag yn awgrymu y byddai cartref newydd yn rhydd o ddiffygion neu ddifrod.
"Pwrpas y polisi oedd darparu yswiriant rhag ofn i'r fath ddiffygion ddod i'r amlwg. Mae'n ddrwg ganddom glywed am drafferthion dalwyr prydles.
"Tra nad ydym bellach yn rheoli'r hawliadau yma, mae'r polisi yswiriant yn ymateb yn llawn ac mae gwaith adfer yn cael ei gwblhau."
Bydd yr achos yn mynd o flaen barnwr yr Uchel Lys yn y Llys Technoleg ac Adeiladu yng Nghaerdydd cyn diwedd y flwyddyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018