Gwahardd cladin llosgadwy yng Nghymru o fis Ionawr 2020

  • Cyhoeddwyd
Twr GrenfellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 72 o bobl wedi'r tân yn Nhŵr Grenfell ym Mehefin 2017

Bydd gwaharddiad ar ddefnyddio cladin llosgadwy ar waliau allanol adeiladau uchel iawn yng Nghymru o 13 Ionawr 2020 ymlaen.

Daeth cyhoeddiad y Gweinidog Tai, Julie James, yn sgil tân Tŵr Grenfell yn Llundain fis Mehefin 2017.

Yn dilyn y tân hwnnw, cynhaliwyd adolygiad annibynnol o reoliadau adeiladu a diogelwch tân dan arweiniad y Fonesig Judith Hackitt.

Ymysg argymhellion yr adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018, roedd newidiadau sylweddol i'r ffordd o ymdrin ag adeiladau preswyl 10 llawr neu fwy, o'r cyfnod adeiladu nes bod pobl yn byw ynddyn nhw.

Fe wnaeth nifer o adeiladau yng Nghymru fethu profion tân gafodd eu cynnal yn dilyn trasiedi Grenfell.

Fel ymateb uniongyrchol i'r adroddiad, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gymryd camau i wahardd y defnydd o ddeunyddiau llosgadwy mewn systemau cladio ar adeiladau preswyl uchel iawn yng Nghymru (18m neu'n uwch).

Mae'r Gweinidog bellach wedi cymeradwyo'r rheoliadau a fydd yn gosod gwaharddiad yn ei le.

Adeiladau newydd

Bydd y gwaharddiad yn cynnwys unrhyw gladin llosgadwy ar bob adeilad preswyl newydd (fflatiau, llety myfyrwyr a chartrefi gofal) ac ysbytai dros 18m o uchder.

Bydd hefyd yn cynnwys adeiladau sy'n bodoli'n barod os fydd gwaith adeiladu perthnasol newydd yn digwydd sy'n dod o fewn cwmpas y rheoliadau adeiladu.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Milton Court yng Nghasnewydd yw un o'r adeiladau i fethu'r profion diogelwch tân

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James: "Roedd tân Tŵr Grenfell yn drasiedi a fydd yn aros yng nghof nifer ohonom ni am amser hir.

"Dylai'n cartrefi ni fod yn fwy diogel nag unman arall.

"Mae'r camau rwy' wedi eu cymryd heddiw yn mynd i helpu i sicrhau bod pobl yn fwy diogel yn eu cartrefi eu hunain, ac yn ei gwneud yn gwbl glir beth sy'n addas i'w ddefnyddio ar waliau allanol adeiladau perthnasol 18m neu'n uwch.

"Mae gennym ni yng Nghymru draddodiad balch o sicrhau safonau uchel o ran diogelwch rhag tân. Mae nifer y tanau mewn cartrefi yn is nag erioed, ac yn 2016 ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i'w gwneud yn orfodol i bob cartref newydd neu wedi'i addasu gael systemau chwistrellu.

"Ond mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau mwy o eglurder gydol oes yr adeilad am swyddogaethau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n dylunio, adeiladu a rheoli adeiladau.

"Rwy'n bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn yn 2020 yn amlinellu manylion fy nghynlluniau."