Ailosod cladin ym Mae Caerdydd wedi profion diogelwch

  • Cyhoeddwyd
Prospect Place
Disgrifiad o’r llun,

Prospect Place oedd y datblygiad preifat cyntaf yng Nghymru i beidio â phasio'r profion

Mae datblygwyr chwe bloc o fflatiau ar safle preifat ym Mae Caerdydd, oedd wedi methu profion diogelwch tân, wedi penderfynu ailosod cladin yr adeiladau.

Roedd trigolion Prospect Place wedi wynebu cyfnod o ansicrwydd oherwydd diffyg pendantrwydd ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol am ariannu'r broses o newid y cladin.

Mae cwmni Bellway bellach wedi dweud y byddan nhw'n ailosod y cladin eu hunain.

Dywedodd Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, ei bod yn "croesawu'r newyddion".

Y llynedd fe ddaeth i'r amlwg fod cladin ar chwe adeilad yn Prospect Place wedi methu profion diogelwch tân yn dilyn trychineb Tŵr Grenfell.

Er nad oedd pob adeilad o fewn y datblygiad wedi eu heffeithio, roedd chwe bloc wedi methu'r profion: Alderney House, Caldey Island House, Breakwater House, Dovercourt House, Eddystone House a Pendeen House.

Dywedodd Bellway eu bod nhw am ailosod y cladin, er bod y defnydd gwreiddiol "wedi ei gymeradwyo ar y pryd", gan eu bod nhw eisiau tawelu meddyliau'r trigolion yn dilyn trychineb Grenfell.

Yn ogystal â newid y cladin, mae'r cwmni yn bwriadu ychwanegu mwy o larymau tan a synwyryddion gwres yn yr adeiladau.

Nid oes disgwyl i'r gwaith ddechrau tan haf 2019.