Etholiad Senedd Cymru: 'Gallai'r bleidlais bost fwy na dyblu'
- Cyhoeddwyd
Gydag etholiad Senedd Cymru ar y gorwel, mae'r Comisiwn Etholiadol a'r cynghorau sir yn paratoi ar gyfer naid sylweddol mewn pleidleisiau post.
Un ymhob pump sy'n dewis gwneud hynny fel arfer - ond oherwydd Covid-19, "mae'n eitha' posib", meddai'r Comisiwn, y gallai'r ffigwr yna fwy na dyblu eleni.
Gallai hynny fod yn allweddol mewn rhai etholaethau.
Mae priffordd yr A487 rhwng Aberaeron ac Aberteifi yn hollti pentre' Tanygroes yn ne Ceredigion.
Ac fel y pentre', mae Cymru ar groes-ffordd gwleidyddol.
Beth yw'r ffordd 'mlaen ar ôl pandemig?
Cartre' cyson i weithgareddau lleol yw Caffi Emlyn - o'r talwrn i nosweithiau cawl.
Ond fel caffis eraill Cymru, bu'r lle ar gau am flwyddyn i bob pwrpas.
Er hynny, mae'r caffi wedi bod yn cynnig gwasanaeth allweddol - ciniawau pryd ar glyd i bobl dros ardal eang - 600 o brydau'r wythnos.
Fe fydd nifer fawr o'r etholwyr sy'n derbyn y bwyd yma'n ddibynnol ar wasanaeth pleidleisiau post hefyd.
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
BLOG VAUGHAN RODERICK: Faint o obaith sydd gan y pleidiau llai?
PODLEDIAD: Podlediad Cymru Fyw
Rian a Lyn Evans - perchnogion y caffi sy'n gyfrifol am y gwasanaeth.
"Mae'r rhai sy'n cael cinio gyda ni - gartre a gartre ma' nhw - dy' nhw ddim yn mynd i unman," meddai Rian.
"Wel yn enwedig nawr gyda Covid dy' nhw ddim yn gallu mynd i unman felly fe fydd angen pleidlais bost arnyn nhw."
Ac yn ôl ei thad, Lyn, "fwy na thebyg, fe fydd pobl sy'n cael y prydau ar draws ardal eang o dde Sir Aberteifi i ogledd Sir Benfro, angen cael pleidleisiau post".
Nid dim ond pobl mewn oed, neu sy'n gaeth i'w cartrefi, sy'n dewis cael pleidlais bost.
Mae Covid 'di gadael ei ôl ar gartrefi'n gwlad, ymhle y bydd cymunedau Cymru'n rhoi eu croesau?
Fel arfer mae Trystan Evans yn mynd o'i waith yn y Llyfrgell Genedlaethol i glwb bob nos Iau - ac felly mae e a'i fam Eleri Evans 'di hen arfer â'r broses o gofrestru.
"Mae Trystan 'da ni, sydd ag anghenion arbennig, wastad yn cael pleidlais bost," meddai Eleri.
Ond fydd hi ei hunan ym mynd i fwrw pleidlais fel arfer yn y ganolfan bleidleisio yn Saron gerllaw.
"Rwy' wedi cael y brechlyn - dau ddos - so dwi'n teimlo'n eitha' hyderus."
Mae'r comisiwn etholiadol yn cydnabod y bydd pleidleisiau post yn fwy poblogaidd fyth y tro hwn.
Wrth baratoi ar gyfer cynnydd sylweddol, maen nhw'n pwysleisio y bydd y drefn gyfan yn ddiogel.
Yn ôl Rhydian Thomas, pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru: "Fe fydd pleidleisiau absennol yn debyg o chwarae rhan bwysig yn yr etholiadau yn ystod y pandemig.
"Mae'n eitha' posib y gall y niferoedd sy'n defnyddio'r gwasanaeth fwy na dyblu y tro hwn."
'Nôl yn Nhanygroes, mae'r unig flwch postio yn y pentre' yn agos i gartref un o'r trigolion.
Does ryfedd iddi hi ddewis cael pleidlais bost y tro hwn - does dim rhaid iddi fynd yn bell.
"Ha! Na," meddai Zelda Thomas, dan chwerthin yn iach. Mae'r bocs postio "tu allan i ddrws y tŷ" yn llythrennol ar ben ei gardd.
"Mae'n saffach i gael pleidlais bost na mynd i'r blwch bleidleisio," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021