Etholiad 2021: Pwy yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies?
- Cyhoeddwyd
Gydag etholiad Senedd Cymru yn agosáu, yr wythnos hon fe fydd Cymru Fyw yn cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru. Rydym yn dechrau gydag Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn wahanol i'w gyd-weithiwr yn San Steffan, doedd Andrew RT Davies erioed yn rhannu'r un freuddwyd â'r Boris Johnson ifanc gydag uchelgais o redeg ei wlad. Hyd yn oed ar drothwy ei dridegau, wnaeth o ddim pleidleisio yn y refferendwm fyddai'n creu'r sefydliad mae'n gobeithio ei arwain wythnos nesaf.
Ond i un sy'n ei adnabod yn iawn ers blynyddoedd, does dim syndod bod yr amaethwr wedi codi i'r brig o fewn gwleidyddiaeth.
Ym Mro Morgannwg mae gwreiddiau arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, ble cafodd ei fagu ar y fferm deuluol.
Tair-milltir-ar-ddeg i ffwrdd, ar dir dipyn llai ffrwythlon ardal Pontypridd, mae ei gyfaill Jonathan Huntley yn byw.
Roedd y ddau yn aelodau brwd o'r Ffermwyr Ifanc ar ôl cyfarfod yno pan oedden nhw'n ddeunaw oed - cyfnod sy'n aml yn dod law yn llaw gyda hwyl a throeon trwstan.
Er nad oes gan Jonathan Huntley straeon penodol i'w rhannu ar drothwy etholiad, mae ei atgofion cyffredinol yn cyd-fynd gyda'r ddelwedd o'r gwleidydd heddiw - cymeriad mawr sy'n gwybod ei farn, a ddim ofn ei rhannu.
"Roedd Andrew yn gwmni da - does 'na'm gwadu hynny," meddai Jonathan wrth Cymru Fyw, wrth fwynhau pum munud o seibiant wrth wyna. "Fydden ni'n cael amser da - ond yn gymedrol. Roedd e'n gweithio'n galed a phan fydden ni'n mynd allan fydden ni'n cael noson dda, criw ohonom ni, a chymryd ein twrn i ddreifio.
"Mae e dal yn ffrind da a tydi o heb newid - ac mae'n haeddu clod am hynny achos mae'r cylchoedd mae e'n troi ynddyn nhw rŵan yn hollol wahanol."
Nid y ffaith ei fod yn llywydd clwb Llantrisant oedd yr unig awgrym o'r yrfa oedd i ddod, ond ei lwyddiant yng nghystadlaethau siarad cyhoeddus y mudiad.
"Fyddem ni i gyd yno yn eistedd gyda'n nodiadau ni, pawb yn paratoi i siarad," meddai Jonathan. "Wedyn mi fyddai e'n codi heb unrhyw nodiadau ac yn siarad yn anhygoel.
"Roedd yn amlwg adeg hynny y byddai wedi gallu mynd i wleidyddiaeth neu'r gyfraith petai e eisiau, roedd e gystal siaradwr cyhoeddus naturiol."
Dyslecsia
Y rheswm dros ei arddull ydy rhywbeth sydd yn gallu bod yn fwrn, meddai Anthony Pickles, pennaeth staff Andrew RT Davies rhwng 2012-2015, yn ystod ei gyfnod cyntaf fel arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru:
"Byddai rhai pobl yn dweud bod ganddo ffordd bombastic o siarad - ond mae hynny oherwydd ei fod yn fwy hyderus yn siarad heb nodiadau, nid oherwydd ei fod eisiau peidio glynu wrth yr agenda. Pan mae'n siarad mewn ffordd combative ar adegau, mae hynny oherwydd ei dyslecsia.
"Pan oedd o i fyny yn ddyddiol yn erbyn Carwyn Jones fel Prif Weinidog, roedd o yn erbyn bargyfreithiwr oedd wedi arfer gyda briffs manwl, rhywun oedd bob tro yn gwybod y manylion, ac wedi cael addysg prifysgol.
"Roedd Andrew yn gymeriad gwahanol iawn, ond doedd o ddim yn ofnus, roedd o'n falch iawn o'r hyn oedd o wedi ei gyflawni yn ei waith a gyda'i fusnes, ac wedi haeddu'r hawl i fod yno."
Nid bod rhan o gefndir y Ceidwadwr mor wahanol i fagwraeth sy'n cael ei gysylltu gyda'r bobl sy'n mynd i fyd y gyfraith.
Tra bod ei dad wedi cael cyfnodau yn bocsio mewn ffeiriau cyn dechrau'r busnes ffermio, fe gafodd Andrew RT Davies addysg yn ysgol breifat Wycliffe College yn ardal y Cotswold ar ôl gadael ei ysgol gynradd leol.
Yn ystod y cyfnod, ac yntau ddim ond yn 15 oed, fe gafodd brofedigaeth ddwys pan fu farw ei fam.
Mae'n dweud mai gofalu amdani pan roedd hi'n wael gyda chanser oedd ei 'fraint fwyaf' ac fe wnaeth ei marwolaeth wneud iddo werthfawrogi bywyd.
Fe gafodd y digwyddiad hefyd ddylanwad ar ei agwedd tuag at ei deulu agos - ei wraig Julie a'u pedwar o blant.
"Mae'r golled wedi cael dylanwad mawr arno ac felly mae'n andros o agos at ei deulu," meddai Anthony Pickles. "Pan oeddan ni ar ymweliad, fyddai o byth eisiau aros dros nos yn un lle os oedd yn bosib - ac mewn gwleidyddiaeth mae'n gallu bod yn lletchwith, yn enwedig pan mai chi ydy'r arweinydd.
"Pan oedd angen mynd i Lundain mi fyddwn ni bob tro ar y trên olaf yn ôl."
Ond tra bod gwleidyddiaeth yn gallu effeithio bywyd teuluol, mae'r gwrthwyneb hefyd yn wir meddai:
"Un o'r pethau sydd bob tro wedi fy nharo i efo Andrew ydi ei wleidyddiaeth gymdeithasol. Er enghraifft, y fo oedd un o'r Ceidwadwyr cynta' i ddod allan o blaid priodasau hoyw a chefnogi David Cameron.
"Mae'n dod o ardal cefn gwlad, yn eithaf asgell dde, ond mae'n edrych ar y mater yma fel dyn teulu ac yn dweud 'os fyddai un o fy mhlant i yn hoyw, fyddwn i eisiau iddyn nhw fedru priodi os oedden nhw eisiau.'"
Bywyd bob dydd ei gymuned amaethyddol wnaeth ei arwain at wleidyddiaeth yn y lle cyntaf.
Ar ôl gweithio am flynyddoedd ar fferm deuluol, daeth ei ddeffroad gwleidyddol wrth i'r byd amaeth wynebu argyfwng BSE.
Yn 1997, er iddo ddewis peidio pleidleisio yn refferendwm datganoli oherwydd 'difaterwch tawel', fe ymaelododd gyda'r blaid Geidwadol. O fewn pedair blynedd roedd yn brwydro etholiadau seneddol San Steffan.
Methodd ddwywaith, ond yn 2007 cafodd ei ethol i Fae Caerdydd ar restr ranbarthol ei blaid.
"Dwi ddim yn credu ei fod o blaid datganoli yn wreiddiol," meddai Anthony Pickles. "Ond unwaith roedd y Cynulliad yno fe newidiodd ei farn a meddwl bod angen ei ddefnyddio i newid pethau. Roedd o'r farn y byddai datganoli yn llwyddiant os oeddet ti'n ei gofleidio."
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
BLOG VAUGHAN RODERICK: Cic o'r smotyn
O fewn cylchoedd gwleidyddol yn hytrach na chylch gwerthu'r mart wnaeth ei gyd-amaethwr Glyn Davies ei gyfarfod gyntaf.
Mae'r gŵr o Drefaldwyn, oedd yn gyn-aelod Cynulliad dros Drefaldwyn rhwng 1999 a 2007 cyn cynrychioli'r ardal yn San Steffan, yn gweld agweddau o'r ffermwr yng nghymeriad Andrew RT o bryd i'w gilydd:
"Be' sy'n eitha' cyffredin mewn ffermwyr ydi'r agwedd os oes gen ti un rhywbeth i'w ddweud, y ffordd gorau i fedru symud ymlaen ydi ei ddweud o.
"Pam mae o'n mynd i mewn i gyfweliad tydi o ddim mor ofalus â fi - mae o'n dweud be' mae o'n feddwl a bob tro'n cael get away efo fo. Mae Andrew yn dipyn o gymeriad, a dyna pam dwi'n ei hoffi fo. Mae angen cymeriadau lliwgar mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru."
Ffraeo gwleidyddol
Ond mae hynny hefyd yn gallu arwain at drafferthion, ac mae Andrew RT Davies wedi cael ei siâr.
Yr amlycaf oedd cynhyrfu'r dyfroedd o fewn ei blaid wrth ymgyrchu yn erbyn Brexit, a chynyddu tensiwn efo Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig yn dilyn ei sylwadau bod cwmnïau fel Airbus yn tanseilio Brexit.
Gyda sïon am gynllwyn i'w ddisodli, fel ffermwr da fe sylweddolodd pa ffordd oedd y gwynt yn chwythu, ac ymddiswyddo.
"Fo oedd yr arweinydd yng Nghymru ac efallai wnaeth o effeithio ei berthynas gyda David Cameron," meddai Glyn Davies, sydd bellach yn Gadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru.
"Ond dyna ei farn a doedd o ddim am ddal nôl - ac mae hynny'n rhywbeth i'w edmygu. Fel gwnaeth bethau droi allan yn y diwedd, roedd y mwyafrif yng Nghymru yn erbyn aros a dwi'n meddwl ei fod o yn deall yr etholaeth."
Yn y pen draw, byr iawn oedd ei gyfnod i ffwrdd o'r llyw, gan ail-afael yn yr awenau yn gynharach eleni ar ôl i Paul Davies gamu lawr yn dilyn sgandal am dorri rheolau Covid-19.
Mae wedi dysgu o'r profiad, meddai Glyn Davies, ac fel sy'n addas iawn gan un ffermwr am un arall, mae'n gwneud cymhariaeth amaethyddol:
"Mae o'n rhesymu mwy," meddai. "Tydi o ddim cymaint fel tarw mewn tas wair - mae o'n meddwl mwy, sy'n ei wneud yn arweinydd gwell."
Ond ai Andrew RT Davies fydd yn ennill gwobr 'gorau yn y gystadleuaeth' ddydd Iau nesaf? Pleidleiswyr Cymru fydd yn penderfynu.
Dewch yn ôl at Cymru Fyw weddill yr wythnos i ddarllen am arweinwyr y prif bleidiau eraill yng Nghymru.