Cic o'r smotyn

  • Cyhoeddwyd

A fuodd 'na gôl fwy agored erioed?

A ninnau ar drothwy etholiad, cyhoeddodd hanner dwsin o glybiau pêl-droed gynllun hynod amhoblogaidd, mae'n ymddangos, i sefydlu Cynghrair Ewropeaidd newydd.

Pa wleidydd allasai wrthsefyll y demtasiwn i gicio o'r smotyn a rhwydo mantais wleidyddol o dan y fath amgylchiad?

Yn sicr, neb ar dîm Boris Johnson.

Dyma i chi lywodraeth sy'n cymryd misoedd i ateb llythyron gan Lywodraeth Cymru, os eu hateb o gwbl, ac sy'n hela'r lleiaf o'r lleiaf o'i gweinidogion i ateb cwestiynau o bwys yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ond pan ddaw hi at ffwtbol, wel mae ffwtbol yn wahanol. Rhaid yw chwarae i'r stand gyda datganiad brys yn y senedd a phob math o addewidion o dân a brwmstan er mwyn plesio cefnogwyr y gêm.

Does 'na ddim byd newydd yn y syniad bod pêl-droed yn cynnig allwedd i galonnau'r etholwyr. Yn ôl yn 1960au, cofnododd Richard Crossman ei fod wedi cael cerydd am beidio cofleidio'r gêm.

"Harold (Wilson) clearly felt this makes me incapable of being a great political leader - because the mark of a leader is to be a man who sees football or at least watches it on television."

Priodolodd Wilson ei golled annisgwyl yn etholiad 1970 i'r ffaith bod Lloegr wedi cael ei chnocio allan o Gwpan y Byd rhai dyddiau ynghynt, ac ers hynny mae gwleidyddion wedi bod yn barod iawn i aberthu o flaen allor y byd pêl-droed.

Nawr wrth gwrs mae 'na ddigonedd o wleidyddion sy'n gefnogwyr pêl droed pybyr ond mae'n anodd osgoi credu mai mantell cyfleustra yw'r sgarff bêl-droed i eraill.

Ydyn ni wir yn credu mewn gwirionedd bod Tony Blair yn gefnogwr pybyr i Newcastle United a phwy all anghofio David Cameron yn drysu rhwng "ei dîm" Aston Villa a West Ham?

Felly oes 'na fachgen bach yn rhywle yn fodlon mentro dweud bod yr ymerawdwr yn borcyn?

Fe welais yr union beth yn digwydd un tro yn ystod isetholiad Blaenau Gwent yn 2006. Roedd Gordon Brown, oedd yn ganghellor ar y pryd, yn ymweld ag ysgol gynradd ac fe geisiodd dorri sgwrs a grŵp o fechgyn oedd wedi bod yn chwarae ar yr iard.

Nawr, fe ddylai'r bêl hirgrwn dan gesail un o'r bechgyn wedi bod yn rhybudd, ond fe geisiodd y Canghellor danio'r sgwrs trwy ofyn pa chwaraewyr pêl-droed yr oedd y bechgyn yn eu hedmygu.

Distawrwydd pur oedd yr ymateb nes i un bachgen edrych i lygad y gwleidydd.

"Real men play rugby, Mr Brown, football is for ******" mynte'r crwt yn hyderus.

Cewch chi ddyfalu beth oedd y gair olaf yn y frawddeg. Doedd e ddim yn addas i iard ysgol yn Abertyleri ac yn sicr dyw e ddim yn addas i Cymru Fyw!

Ond dyma'r pwynt. Oes, mae 'na lwyth o gefnogwyr pêl-droed pybyr ond maen nhw'n abl iawn i sbotio'r rheiny sydd ond â diddordeb mewn manteisio ar boblogrwydd neu lwyddiant timau pêl-droed.

"Plastics" neu "glory hunters" yw eu henw ar bobl felly ac mi ydyn ni wedi gweld llawer iawn o'r rheiny dros y dyddiau diwethaf!

Pynciau cysylltiedig