TB: Gwartheg iach yn cael eu difa 'heb sail wyddonol'

  • Cyhoeddwyd
Anthony Brunt, ffermwr o Gei Newydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anthony Brunt wedi gwrthod caniatáu i filfeddygon gymryd un o'i anifeiliaid er iddi gael canlyniad amhendant i brawf TB dair gwaith

Mae cyfreithiwr sydd yn arbenigo mewn achosion amaethyddol wedi honni bod nifer fawr o wartheg iach yn cael eu difa i geisio rheoli TB, heb sail wyddonol i gyfiawnhau'r polisi.

Mae Aled Owen wedi bod yn cynrychioli ffermwr o Gei Newydd yng Ngheredigion, sydd wedi gwrthod caniatáu i filfeddygon gymryd heffer oddi yno er iddi gael canlyniad amhendant i'r prawf croen dair gwaith.

Cafodd yr un creadur brofion gwaed negatif ddwywaith ar gyfer TB.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "pob gweithred i reoli TB yn cael ei wneud yn unol â'r gyfraith, o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a Gorchymyn Twbercwlosis Cymru 2020".

Colli 94 o wartheg

Fe wrthododd Anthony Brunt â chaniatáu i filfeddyg a chontractwr i fynd â'r fuwch o'i fferm.

Mae Mr Brunt eisoes wedi colli 94 o wartheg ar ôl bod dan gyfyngiadau TB ers pedair blynedd a hanner.

"Pan dyw'r prawf ddim yn gweithio, mae'r awdurdodau yn newid y criteria, fel bod y fuwch yn cael mynd. Maen nhw'n lladd miloedd o wartheg ar draws Prydain, ac yma yng Nghymru," meddai.

Mae ei gyfreithiwr Aled Owen yn dweud nad oes sail wyddonol i'r penderfyniad i ladd buwch sydd yn rhoi canlyniad amhendant i'r prawf croen dair gwaith.

"Maen nhw'n gwrthod datgelu y wyddoniaeth sydd yn sail i'w penderfyniadau nhw, a hynny da ni wedi gweld," meddai.

"Mae'n dangos yn eitha' clir fod y wyddoniaeth yn dangos bod llawer o wartheg yn cael eu lladd, a dim rheswm i'w lladd nhw ac maen nhw yn wartheg iach."

Galw am newid cyfeiriad

Dywedodd Peter Howells o NFU Cymru bod angen newid cyfeiriad gan Lywodraeth Cymru.

"Ni am weld y llywodraeth yn mabwysiadu polisi cynhwysfawr sydd yn edrych ar y dystiolaeth, yn edrych ar beth sydd yn digwydd dros y ffin yn Lloegr," meddai.

"Edrych ar Swydd Gaerloyw lle mae'r nifer o achosion newydd o TB wedi lleihau 66% yn dilyn pedair blynedd o ddifa moch daear.

"Mae angen polisi sydd yn delio gyda'r clefyd yn y bywyd gwyllt a'r gwartheg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd William Powell, llefarydd amaeth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae angen polisi sy'n seiliedig ar wyddoniaeth ac sy'n mynd i'r afael â phob math o heintusrwydd - mewn anifeiliaid sy'n cael eu ffermio yn ogystal â bywyd gwyllt.

"Mae hyn yn cynnwys brechu ond hefyd difa anifeiliaid heintiedig - y rhai sy'n cael eu ffermio, a'r rhai sy'n byw o fewn yr amgylchedd sy'n cael ei ffermio.

"Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn deall y dor-calon y mae TB Buchol yn ei ddod i aelodau o'r gymuned ffermio, a dioddefaint cysylltiedig yr anifeiliaid a bywyd gwyllt.

"Rydym hefyd yn deall yr heriau sy'n gysylltiedig â chanlyniadau profion annibynadwy neu amhendant a byddwn yn ymrwymo'r adnodd angenrheidiol i ddatblygu cyfundrefn brofi fwy dibynadwy."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn ymrwymo i ddefnyddio'r mesurau mwyaf effeithiol i reoli a gwaredu TB.

"Fodd bynnag, rydym yn deall yr angen i ailosod y gydberthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r diwydiant amaethyddiaeth.

"Bydd Senedd Wledig ymgynghorol, yn debyg yn ei ffurf i Gynulliad Dinasyddion, yn cryfhau llais cymunedau cefn gwlad ac yn helpu i ddylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Arterra
Disgrifiad o’r llun,

Yn Lloegr mae gan Lywodraeth y DU bolisi i ddifa moch daear, sy'n gallu cario TB, mewn ardaloedd lle mae lefelau yn uchel mewn gwartheg

Ychwanegodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae hyn unwaith eto yn tynnu sylw at fethiant ysblennydd Llafur i fynd i'r afael â TB Buchol a'i waredu, yn ogystal â'r effaith ddinistriol y mae'r afiechyd hwn yn parhau i'w chael ar gymunedau cefn gwlad.

"Mae'r camau gweithredu a'r mesurau y mae Llafur wedi'u rhoi ar waith hyd yma yn siomi'r gymuned ffermio a phoblogaeth bywyd gwyllt Cymru, ac mae'n hen bryd cael ateb parhaol.

"Mae Ceidwadwyr Cymru wedi galw ers amser am raglen gynhwysfawr o waredu TB, dan arweiniad gwyddonol, gan ei bod yn amlwg nad yw'n gynaliadwy llywyddu bil iawndal sy'n cynyddu o hyd.

"Rhaid i weinidogion Llafur nawr wrando ar y diwydiant ffermio a newid cwrs gan fod TB Buchol yn gwneud niwed ofnadwy i amaethyddiaeth a'n cymunedau gwledig - yn ariannol ac yn emosiynol."

Mae Llafur Cymru wedi cael cais am ymateb.