Ymgeiswyr Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru

  • Cyhoeddwyd
Police officer on a street in Wales

Bydd etholiadau ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys De Cymru, ar 6 Mai 2021.

Mae'r comisiynwyr yn cael eu hethol er mwyn sicrhau bod lluoedd yr heddlu yn gweithredu'n effeithiol.

Fe wnaethon nhw ddisodli awdurdodau'r heddlu yn 2012 wedi galwadau bod angen i'r broses o oruchwylio plismona fod yn fwy democrataidd.

Mae'r etholiadau fod i gael eu cynnal bob pedair blynedd ond bu'n rhaid eu gohirio yn 2020 oherwydd y pandemig.

Dyma restr yr ymgeiswyr ar gyfer De Cymru - maent wedi eu nodi yn nhrefn y wyddor o ran cyfenw:

  • Mike Baker - Annibynnol

  • Steve Gallagher - Ceidwadwr

  • Gail John - Propel

  • Calum Littlemore - Democrat Rhyddfrydol

  • Nadine Marshall - Plaid Cymru

  • Alun Michael - Llafur

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Sylwer: Efallai y bydd etholiadau cynghorau plwyf neu is-etholiadau mewn cynghorau hefyd lle rydych chi, nad ydyn nhw wedi'u cynnwys fan hyn. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion llawn. Diweddarwyd ddiwethaf: May 11, 2021, 12:35 GMT

Pynciau cysylltiedig