'Angen mwy o bwerau' i atal creulondeb i geffylau
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw am roi pwerau i elusennau orfodi cyfreithiau'n ymwneud â lles ceffylau.
Does gan elusennau'r grym statudol i weithredu mewn ymateb i bryderon ynghylch amodau byw ceffylau, yn ôl Lisa Lanfear, swyddog lles ac un o sylfaenwyr yr elusen Communities For Horses.
Mae awdurdodau lleol â'r hawliau i gymryd camau, ac mae'r sefyllfa wedi gwella mymryn mewn sawl maes, medd Ms Lanfear.
Ond mae'n pryderu nad oes digon o swyddogion wedi eu hyfforddi'n ddigonol.
Does dim gorfodaeth ar gynghorau ychwaith i gynnal y gyfraith, ac mae Ms Lanfear yn dymuno iddyn nhw fod yn fwy atebol am les ceffylau a chael yr adnoddau i wneud hynny.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) bod cynghorau'n cymryd "camau gweithredu cadarn" a bod timau gorfodaeth yn profi "pwysau ariannol sylweddol" a "costau sylweddol" wrth weithredu.
Ond ychwanegodd y byddai cynghorau'n "ystyried holl amgylchiadau unrhyw achos i benderfynu'r camau mwyaf priodol".
Pwnc 'cynhyrfiol'
Siaradodd Newyddion BBC Cymru gyda Ms Lanfear fel rhan o gyfres ar faterion y mae pobl Cymru'n dymuno dod dan y chwyddwydr wedi etholiadau'r Senedd.
Mae'n dilyn deiseb ar wahân o flaen y Senedd yn galw am wahardd rhwymo ceffylau o fewn ardal ar ben rhaff neu gadwyn wedi clymu o'r coler pen neu strap gwddf.
Nid dyma'r trywydd cywir, o reidrwydd, medd Ms Lanfear.
Dywed bod cyfreithiau eisoes i ddiogelu ceffylau, ynghyd â chod ymarfer o ran clymu ceffylau, ond mae angen eu gorfodi'n llymach.
"Rwy'n deall pam bod y ddeiseb yn mynd rhagddo, nid dyma'r ymgais cyntaf... mae gen i dipyn o empathi a chydymdeimlad ato," meddai.
"Gallaf ddeall teimladau pobl wrth weld ceffyl ar dennyn, achos dyw e ddim yn neis iawn ac mae'n bwnc cynhyrfiol iawn.
"Ond mae llawer o bethau eisoes yn eu lle. Mae gyna ni dri math o ddeddfwriaeth."
Mae'r rheiny'n cynnwys pasbortau i bob ceffyl a'r angen cyfreithiol i osod microsglodyn, er mwyn eu hadnabod.
Gwthio'r gymuned geffylau i'r cyrion
Dywed Ms Lanfear na fyddai gwahardd clymu'n atal pobl rhag bod yn berchen ar geffylau, yn enwedig os yw'n rhan o'u diwylliant a threftadaeth.
Ychwanegodd bod materion yn codi gyda cheffylau mewn stablau hefyd, ac wrth eu cadw yn gyffredinol.
"Mae ceffylau weithiau ar dennyn neu mewn stabl 24 awr y dydd," meddai, gan alw hefyd am godi ymwybyddiaeth yn gyffredinol ynghylch canllawiau lles anifeiliaid yr RSPCA, dolen allanol.
"Mae rhai pobl yn eu gweld fel symbol o statws, ond mae rhai ag awydd greddfol i gadw ceffylau oherwydd mae'n rhan o'u treftadaeth.
"Mae'r gymuned geffylau'n glos iawn, oherwydd cymdeithas sydd wedi eu gwthio i'r cyrion... rhaid i ni edrych i'r ffaith eu bod wirioneddol ar y cyrion a dan anfantais, ac eto ry'n ni'n gweld hynny ar draws y DU."
Pe bai yna waharddiad ar glymu, medd Ms Lanfear, byddai pobl yn dal yn cadw ceffylau ond, o bosib, dan amodau gwaeth.
Mae hi'n galw yn hytrach am gynlluniau pori mwy ffurfiol fel bod digon i le ar gyfer amodau gwell, a defnyddio tir gwag ar gyfer cadw ceffylau.
"Mae pobl yn dechrau cuddio ceffylau unrhyw fodd bosib, oherwydd dydyn nhw ddim yn mynd i gael gwared arnyn nhw i gyd, maen nhw'n mynd i'w symud rywle arall.
"Rydym wedi tynnu ceffylau o siediau, cwtshis glo, gerddi cefn..."
'Hollol ddiymadferth'
Mae llochesau ceffyl eisoes wedi gorlwytho, meddai, ond does dim digon o swyddogion cyngor sir gyda'r sgiliau cywir i orfodi'r rheolau sy'n bodoli.
"Pan mae pryderon ynghylch ceffylau, rydym yn hollol ddiymadferth," meddai. "Does gyda ni mo'r pwerau statudol i weithredu."
Ychwanegodd bod elusennau ag arbenigwyr ceffylau all helpu gweithredu'r rheolau petawn nhw'n gael yr hawl i wneud hynny.
Dywedodd llefarydd ar ran CLlLC: "Mae awdurdodau lleol wedi cymryd camau gorfodaeth cryf - gan gynnwys erlyniadau arweiniodd at garcharu - mewn nifer o achosion proffil uchel... a byddent yn parhau i wneud hynny pan fo'n briodol.
"Fodd bynnag, mae timau gorfodaeth yn profi pwysau ariannol sylweddol, ac mae costau sylweddol ynghlwm â chymryd camau gorfodaeth o'r fath.
"Bydd awdurdodau lleol unigol yn ystyried holl amgylchiadau unrhyw achos i benderfynu ar y cam mwyaf priodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth