Y Gynghrair Genedlaethol: Woking 0-4 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Sicrhaodd Wrecsam driphwynt hanfodol yn eu hymgais i gyrraedd y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth yn Woking.
Rhoddodd Luke Young yr ymwelwyr ar y blaen o'r smotyn ar ôl i Ben Gerrings faglu Jordan Davies.
Dyblodd Reece Hall-Johnson fantais Wrecsam yn gynnar yn yr ail hanner, gan rwydo croesiad Jamie Reckord o'r chwith.
Seliodd gôl gyntaf Gold Omotayo i'r clwb, ac un arall i Davies - ei bedwaredd mewn dwy gêm - ail fuddugoliaeth yn olynol o 4-0 i Wrecsam.
Roedd Davies, 22, wedi sgorio hat-tric yn y fuddugoliaeth ganol wythnos yn Halifax.
Mae tîm Dean Keates yn bumed yn y tabl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2021