Help i glaf fu farw â Chlefyd Motor Niwron yn 'rhy hwyr'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Claire a TerryFfynhonnell y llun, Claire Yardley Williams
Disgrifiad o’r llun,

Claire Yardley Williams a'i gŵr Terry

Ar ddechrau Mawrth eleni mi fuodd Claire Yardley Williams o Benygroes yn sôn wrth BBC Cymru am ei hymdrech yn galw ar y pleidiau gwleidyddol a Llywodraeth Cymru i wella'r cyfleusterau ac adnoddau i bobl sy'n byw gyda Chlefyd Motor Niwron (MND).

Mi fuodd yn gwneud hyn ar ôl i'w gŵr, Terry Williams gael diagnosis o MND y llynedd.

Ar y pryd fe roedd Claire a'r Gymdeithas Motor Niwron yng Nghymru yn dweud bod angen gwneud hi'n haws i bobl dderbyn addasiadau i'w cartrefi i wella'r gofal i gleifion.

Llai na deufis ers gwneud yr apêl honno, bu farw Terry o'r cyflwr, tra roedd y teulu'n dal i aros am addasiadau i'w cartref.

'Rhy hwyr'

Roedd gan Terry, oedd yn 46 oed o Benygroes, Glefyd Motor Niwron ALS ac roedd ei gyflwr yn dirywio'n sydyn.

"Oedd o'n effeithio ar ei anadl a'i gyhyrau," meddai Claire.

"Mi wnaeth o effeithio ar Terry yn ofnadwy o sydyn.

"O siarad ar ran Terry roedd bywyd yn ddiflas iawn achos doedd o methu 'neud dim byd. Oedd pobl yn awgrymu pam na neith o jig-so... ond doedd Terry methu defnyddio ei ddwylo o gwbl."

Cafodd Terry y diagnosis flwyddyn a hanner yn ôl, ac ar 26 Mawrth bu farw o'r salwch.

"Roeddwn i wedi bod wrthi ers y flwyddyn ddiwethaf yn trio cael yr adnoddau yn eu lle fel bod Terry yn cael defnyddio nhw," meddai Claire.

"O'n i'n swnian, yn gyrru e-byst, yn ffonio ac yn gyrru llythyrau - o hyd yn swnian am y gwahanol bethau fel oedd Terry'n gallu defnyddio nhw yn y fan a'r lle.

"Ond gawson ni ddim y ramp i'r gadair olwyn tan pythefnos nes i ni golli Terry ac roedd hynny'n rhy hwyr."

Ffynhonnell y llun, Claire Yardley Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd gwraig Terry, Claire, bod nifer o'r cyfarpar wedi cyrraedd yn hwyr ac wedi bod yn anodd cael gafael arnyn nhw

Roedd Claire hefyd wedi gwneud ceisiadau i addasu'r ystafell ymolchi i'w gwneud hi'n haws i Terry ond mae hi'n dweud fod y cais wedi ei wrthod gan y byddai'n costio gormod.

Mae hi hefyd yn dweud bod nifer o'r offer a chyfarpar wedi cyrraedd yn hwyr ac wedi bod yn anodd cael gafael arnyn nhw.

"Dwi'n gweld bai ar Covid yn rhannol ond hefyd dwi'n gweld bai ar bobl sy'n dweud bod 'na ddiffyg pres neu ddiffyg adnoddau," meddai.

"Mae 'na adnoddau yna ac mae angen ei wario fo. Mae angen i bobl gael y ddarpariaeth maen nhw ei angen."

'Peth oedi yn sgil y pandemig'

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae "pob cais am addasiad tai o'r fath gymorth yn cael eu hystyried yn ofalus a'r gwaith angenrheidiol yn cael ei gyflawni mor fuan â phosib".

"Er hyn, roedd peth oedi mewn rhai cyfnodau y llynedd yn sgil y pandemig ac roedd y cyngor yn dilyn canllawiau cenedlaethol i beidio cynnal gwaith oedd mewn eiddo unigolion oedd yn cysgodi," meddai llefarydd.

"Tra na fyddai'n briodol i ni drafod manylion achosion rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Mr Williams yn eu colled."

Eisoes mae'r Gymdeithas Clefyd Motor Niwron yn dweud fod rhai sy'n byw â'r cyflwr yn parhau i fyw mewn cartrefi anaddas gan nad ydynt yn gallu "fforddio neu'n methu cael mynediad at gymorth" i'w haddasu.

'Pethau'n digwydd yn rhy araf'

Ym mis Mawrth dywedodd rheolwr polisi y Gymdeithas Clefyd Motor Niwron, Sian Guest, bod "pethau yn digwydd yn rhy araf".

"Mae MND yn datblygu'n gyflym iawn ac unwaith maen nhw wedi eu hasesu mae o'n cymryd llawer gormod o amser i roi'r addasiadau yn eu lle," meddai.

"Yn y cyfamser mae pobl ag MND yn mynd yn gaeth i gartref ac yn anffodus mae rhai cleifion wedi marw tra'n aros am y newidiadau."

Bu farw Terry Williams o'r salwch rhai ddyddiau'n unig cyn iddo gyrraedd ei ben-blwydd yn 47 oed.

Mae ei wraig rŵan yn dweud y bydd hi'n "parhau i gefnogi'r Gymdeithas MND pan yn bosib" ac mi fydd hi'n "glust i wrando" i unrhyw un sydd yn wynebu profiadau tebyg.

"Mi fuodd Terry mor ddewr drwy ei salwch a dim ond 46 oed oedd o pan wnaeth o farw a buasai wedi bod yn 47 ychydig ddyddiau ar ôl iddo huno," meddai.

"Dwi'n ei garu lot fawr ac yn ei fethu llawer."