Beirniadu 'diffyg cynllunio' cyngor ar addysg Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Catrin DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catrin Davies ei bod hi'n "siomedig ofnadwy" na fydd lle i'w mab Billy yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi galw ar Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr i weithredu ar frys i sicrhau bod digon o lefydd ar gael mewn addysg Gymraeg i gwrdd â'r galw.

Mae'r cyngor wedi cael ei feirniadu ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod rhiant wedi methu â chael lle i'w mab yn eu hysgol Gymraeg leol ar gyfer Medi 2021.

Mae mab Catrin Davies, Billy wedi bod yn ddisgybl dosbarth meithrin yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ers blwyddyn, ond mae'r teulu wedi cael gwybod nad oes lle iddo y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y cyngor bod 58 o ddisgyblion wedi gwneud cais am 54 lle yn y dosbarth dan sylw, a bod unrhyw un sy'n cael eu gwrthod yn cael cynnig mynychu ysgol Gymraeg arall.

'Cynllunio annigonol'

Mae'r grŵp RhAG lleol wedi cyhuddo Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr o "fethu â chydnabod difrifoldeb y sefyllfa yn ardal Pen-coed y sir".

"Mae'r newyddion yn cadarnhau pryderon nad oes cynllunio digonol wedi digwydd er mwyn sicrhau bod digon o leoedd wedi eu creu mewn ysgolion Cymraeg yn yr ardal," meddai'r mudiad.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Billy yn cael symud i fyny i'r dosbarth derbyn gyda'i ffrindiau gan nad oes digon o le

Mae Ms Davies yn dweud mai Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ydy'r ysgol Gymraeg agosaf i'w cartref ym Mhen-coed, a bod yr ysgol Gymraeg nesaf dros saith milltir o'u cartref - dwbl eu pellter o Fro Ogwr.

Dywedodd Ms Davies ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mercher ei bod hi'n "siomedig ofnadwy" gyda'r penderfyniad.

"Mae e yn mynychu yr ysgol ar hyn o bryd yn y meithrin, a ro'n ni jest yn disgwyl y bydde fe yn mynd ymlaen i'r dosbarth derbyn heb ddim problem, ond dyw hynna ddim wedi digwydd," meddai.

"Ni wedi cael esboniad - mae gormod o alw yn yr ysgol, does dim digon o lefydd a ni'n byw yn rhy bell o'r ysgol.

"Ond mae'r ysgol Gymraeg nesaf lot yn bellach, felly s'dim opsiwn arall."

'Cenhedlaeth arall yn colli allan'

Ychwanegodd eu bod wedi nodi ysgol Saesneg fel eu hail ddewis oherwydd ei fod yn agos at eu cartref.

"Mae'n rhaid i fi lansio apêl gyda'r cyngor nawr," meddai Ms Davies.

"Mae'r ysgol wedi bod yn rhoi digon o gefnogaeth i fi a gobeithio bydd lle erbyn mis Medi a'u bod nhw'n newid y penderfyniad.

"Fy newis i fyddai bod e'n cael addysg Gymraeg. I'r genhedlaeth nesaf mae'n bwysig bod lle fel ein bod ni yn cynyddu yr iaith dros Gymru i gyd."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gwnaed 58 cais am le yn y dosbarth dan sylw yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, ond 54 lle sydd ar y gofrestr

Mae RhAG yn galw ar Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu lleoedd lleol brys i bawb sydd wedi gwneud cais i ysgolion Cymraeg y sir ar gyfer Medi 2021, gan ychwanegu eu bod wedi codi pryderon am y sefyllfa gyda'r cyngor "yn gyson dros y misoedd diwethaf".

Dywedodd Elin Mannion o gangen Pen-y-bont ar Ogwr y mudiad: "Mae cenhedlaeth arall o blant sydd am addysg Gymraeg yn yr ardal hon yn mynd i golli allan unwaith eto ar y cyfle i gael y ddwy iaith o'r cychwyn.

"Nid yw ymdrechion Sir Pen-y-bont wedi dangos unrhyw arwyddion o gyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.

"Rydyn ni'n siomedig iawn nad yw'r sir wedi deall pwysigrwydd cynllunio a hyrwyddo.

"Mae teuluoedd ardal Pencoed rhwng dwy stôl. Os yw Pen-coed yn rhy bell o Ysgol Bro Ogwr byddant dan fwy o anfantais i gyrraedd ysgolion eraill a hynny oherwydd y pellter."

'58 cais am 54 lle'

Yn eu hymateb i gais BBC Cymru am sylw, dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr eu bod wedi cael 58 cais am le yn y dosbarth dan sylw yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, ond mai 54 lle sydd ar y gofrestr.

"Fe gafodd nifer fawr o ddisgyblion flaenoriaeth am le oherwydd bod ganddyn nhw frawd neu chwaer eisoes yn yr ysgol, gan gyd-fynd a'r polisi lleol," meddai eu datganiad.

"Oherwydd hynny cafodd pedwar eu gwrthod oherwydd eu pellter o'r ysgol."

Ychwanegodd, o'r pedwar na chafodd le, bod dau ohonynt ddim wedi nodi ail ddewis a bod y ddau arall wedi nodi ysgolion Saesneg fel eu hail opsiwn.

"Ar gyfer un o'r rheiny gafodd eu gwrthod, nid oedd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn cael ei hystyried fel yr ysgol gynradd Gymraeg agosaf iddyn nhw," meddai'r cyngor.

Ychwanegodd bod unrhyw ddisgybl sy'n cael gwrthod lle mewn ysgol Gymraeg yn cael cynnig lle mewn ysgol Gymraeg arall.

Pynciau cysylltiedig