Addysg Gymraeg: Pryder ymgyrchwyr am newidiadau posib
- Cyhoeddwyd
Mae Cadeirydd Dyfodol i'r Iaith wedi dweud bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i ail ddiffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn "mynd yn erbyn popeth 'da ni wedi ymladd drosto fe mewn addysg Gymraeg, ers hanner can mlynedd".
Yn ôl Heini Gruffydd, cam gwag fyddai cael gwared ar gategori unigol ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y sector uwchradd.
Y bwriad yw cynnwys ysgolion dwyieithog a chyfrwng Cymraeg yn yr un categori yn y dyfodol fel ysgolion Categori 3 'cyfrwng Cymraeg'.
Yn ôl Meirion Prys Jones, sydd wedi bod yn cynghori'r llywodraeth, y nod yw cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg drwy gynnig mwy o ddewis i rieni.
"Yr anhawster mwyaf yw does dim digon o ddewis," meddai Mr Jones.
"Beth ni'n chwilio amdano fan hyn yw drws arall i rieni i weld cyfle yn y sector cynradd i ddewis llwybr maen nhw'n teimlo yn fwy cyfforddus ag ef, fydd yn arwain maes o law at ragor yn dewis addysg lawn yn y Gymraeg.
"Mae'n amlwg nad ydym ni yn llwyddo ar hyn o bryd i ddenu'r rhieni hynny.
"Y bwriad yw denu plant o'r sector Saesneg, nid glastwreiddio'r sector cyfrwng Cymraeg. Fydd y pwyslais efallai ar wella eu sgiliau llafar. "
Ond mae Mr Gruffydd wedi mynegi amheuon ynglŷn â chategori newydd yn y sector cynradd ble fydd plant yn medru dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
"Mae yna arbrofion wedi bod, yma yn Abertawe, o gael un ysgol benodol, lle mae 50% yn Gymraeg a 50% yn Saesneg, a'r disgyblion ar ddiwedd eu cyfnod cynradd yn methu ymdopi gydag addysg uwchradd Gymraeg.
"Yr unig math o ysgol sydd yn rhoi sgiliau cyflawn i ddisgyblion, yn y ddwy iaith, ydy ysgolion Cymraeg.
"Popeth yn iawn am gael mwy o Gymraeg mewn ysgolion Saesneg ac wrth drosi ysgolion dwy ffrwd yn rhai Cymraeg.
"Ond peidiwch byth a niweidio statws ysgolion Cymraeg. Dyna'r safon aur yn addysg Cymru heddi," meddai.
Fe fydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y newidiadau posib yn dod i ben ddydd Gwener.
Beth yw'r nod?
Bwriad y Llywodraeth ydy symleiddio a lleihau'r nifer o gategorïau sydd yn disgrifio yma mha iaith fydd plant yn cael eu haddysg.
Ar hyn o bryd, mae yna pum categori cynradd a phedwar categori uwchradd, gyda phedwar is-gategori ar gyfer ysgolion uwchradd dwyieithog.
Mae'r llywodraeth yn awyddus i gyflwyno tri chategori cynradd ac uwchradd.
Un sydd yn bryderus am y newid ydy pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd, Matthew Evans :
"Mae'r ymgynghoriad yn newid sylweddol i addysg cyfrwng Cymraeg.
"Drwy symleiddio hyn o amgylch Cymru fe all hyn lurgunio addysg cyfrwng Cymraeg, sydd gant y cant trwy gyfrwng y Gymraeg. Gall hyn ddrysu rhieni."
Mae'n rhybuddio hefyd na fydd yna gymhelliad i ysgolion dwyieithog i gynyddu'r hyn maen nhw'n darparu yn y Gymraeg :
"Does dim incentive i ysgolion symud ar hyd y continwwm iaith os ydy nhw yn cael eu diffinio fel ysgolion cyfrwng Cymraeg yn barod. Pam ddylen nhw barhau ar eu taith?"
Dywedodd Mr Evans fod hon yn "system sydd yn gweithio ac yn hynod o lwyddiannus.
"Pam yn y byd sa unrhyw genedl eisiau newid rhywbeth sydd yn gweithio mor arbennig o dda ?"
Yn ôl Meirion Prys Jones, y nod fydd ceisio efelychu llwyddiant Gwlad y Basg wrth gynyddu nifer y siaradwyr Basgeg yn y wlad.
"Mae'r Basgiaid," meddai, "wedi arloesi dros y deg mlynedd ar hugain diwethaf gyda'r sectorau cynradd ac uwchradd, ac wedi cynnig modelau tebyg a beth chi wedi gweld yn fan'na ydy'r niferoedd o blant sydd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Fasgeg yn cynyddu o 20% i ymylu ar 90%."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod y categorïau newydd yn anghydnaws gydag amcanion polisi'r llywodraeth.
"Dyw cynigion y llywodraeth ddim yn cyflawni amcan polisi'r llywodraeth o gynyddu darpariaeth Gymraeg ar draws y wlad, a gwella eglurder i rieni," meddai Mabli Siriol, Cadeirydd y Gymdeithas.
"Ni'n croesawu lleihau'r nifer o gategorïau, ond mae'r ffordd mae'r categorïau newydd wedi eu llunio mor eang, fel bod nhw ddim yn annog y cynnydd yna sydd ei angen.
"Yn benodol, mae'r categori addysg Gymraeg yn ysgolion uwchradd mor eang, maen nhw bron yn ddiystyr, oherwydd mae'n cynnwys ysgolion sydd yn cynnwys yr holl bynciau drwy'r Gymraeg i ysgolion ble mae'r rhan fwyaf o bynciau i rai plant yn unig trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae angen ail lunio'r categorïau yma, er mwyn gwarchod y cysyniad o addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn yna ac annog bob ysgol i symud tuag at y model yna.
"Y ffordd i wneud hynny ydy trwy ddeddf addysg Gymraeg newydd yn y Senedd nesaf."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu barn unigolion a sefydliadau fel rhan o'r broses ymgynghori, sy'n cau ddydd Gwener."
Categorïau presennol:
Cynradd:
Ysgolion Cyfrwng Cymraeg - y cyfnod sylfaenol yn Gymraeg ac o leiaf 70% o Gyfnod allweddol 2 drwy'r Gymraeg
Ysgolion Dwy Ffrwd - darpariaeth cyfrwng Saesneg a Chymraeg ochr yn ochr
Ysgolion Trosiannol - ysgolion cyfrwng Cymraeg gyda defnydd sylweddol o'r Saesneg.
Ysgolion Cyfrwng Saesneg ond gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg - defnyddir y Gymraeg i addysgu rhwng 20-50% o'r cwricwlwm.
Ysgolion Cyfrwng Saesneg
Uwchradd
Ysgolion Cyfrwng Cymraeg
Ysgolion Dwyieithog - gyda 4 is-gategori : A, B, C a D
Ysgolion Cyfrwng Saesneg yn bennaf ond gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg
Ysgolion Cyfrwng Saesneg
Categorïau newydd posib:
Cynradd
Categori 1 - Ysgol Saesneg. Mae o leiaf 10% o'r cwricwlwm yn y Gymraeg
Categori 2 - Ysgol Cymraeg/Saesneg. Mae'r dysgwyr yn cael eu haddysgu gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal
Categori 3 - Mae'r dysgwyr yn cael eu haddysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg
Uwchradd
Categori 1 -Ysgol Cyfrwng Saesneg. Mae o leiaf 10% o'r cwricwlwm yn cael ei ddysgu yn y Gymraeg
Categori 2 - Ysgol Cymraeg/Saesneg. Mae o leiaf 40% o ddysgwyr yn dewis dilyn meysydd astudio yn y Gymraeg hyd at 16.
Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg. Mae o leiaf 70% o'r cwricwlwm yn y Gymraeg a 70% o ddysgwyr yn astudio yn y Gymraeg hyd at 16 oed mewn 5 pwnc.
Ffynhonnell:https://llyw.cymru/categoreiddio-ysgolion-yn-ol-y-ddarpariaeth-cyfrwng-cymraeg, dolen allanol
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd8 Awst 2019