Rhieni di-Gymraeg 'angen cymorth' gydag addysg plant
- Cyhoeddwyd

Mae Ffion, Natalie a Chloe yn mynd i ysgol Gymraeg, ond Saesneg yw iaith y cartref
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn galw am fwy o gefnogaeth i rieni mewn cartrefi Saesneg eu hiaith sy'n cael trafferth helpu plant sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Wrth i ddisgyblion wynebu mwy o ddysgu o bell, mae rhai rhieni'n dweud bod y cyfnodau cloi wedi cael effaith ar blant iau sydd ddim o reidrwydd wedi sefydlu eu sgiliau lleferydd.
Mae ffigyrau swyddogol yn amcangyfrif nad yw tua 74% o blant mewn addysg Gymraeg yn siarad yr iaith gartref.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi rhoi arweiniad i ysgolion Cymraeg a chymorth penodol i blant ar aelwydydd lle nad yw'r iaith yn cael ei siarad.

Mae Aled Roberts yn galw am "sicrhau bod cymaint o adnoddau ar gael â phosib" i rieni di-Gymraeg
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts y dylai unrhyw rieni sy'n pryderu am ddysgu o bell yn Gymraeg roi gwybod i'r ysgol a'r athrawon yn y lle cyntaf.
"Ar lefel genedlaethol mae'n rhaid i ni sicrhau bod cymaint o adnoddau ar gael â phosib i'w cefnogi a hefyd i sicrhau bod polisïau cenedlaethol yn cydnabod y buddsoddiad enfawr y mae'r bobl hyn yn ei wneud mewn addysg Gymraeg a'u gweld drwy'r broses honno," ychwanegodd.
'Sgiliau plant yn dirywio'
Mae Angela Crabtree o Gaerffili ar ffyrlo ar hyn o bryd ac mae ganddi dair merch, Ffion, 9, Natalie, 8 a Chloe 5 oed.
Er ei bod yn canmol ysgol y merched, dywedodd ei bod yn rhannol ddibynnol ar ei phlentyn hynaf i gyfieithu.

Dywedodd Angela bod sgiliau ei merched wedi dirywio rhywfaint yn ystod y cyfnod clo
"Mae'n anodd os ydyn nhw'n gofyn cwestiwn i chi - nid yn unig 'da chi ddim yn gwybod sut i'w helpu nhw, 'da chi ddim yn deall beth yw'r cwestiwn i ddechrau.
"Mae'r ysgol wedi bod yn dda iawn wrth anfon pethau'n ôl yn ddwyieithog, ond mae gen i'r her o hyd o geisio gwneud yn siŵr bod y merched yn edrych ar y fersiwn Gymraeg yn gyntaf.
"Yn ystod y clo cyntaf - dwi'n meddwl mai'r hyn oedd yn dioddef fwyaf oedd eu hiaith Gymraeg, yn enwedig y plentyn canol, yn mynd o'r babanod i'r plant iau - dirywiodd ei dealltwriaeth."

Mae Lynn Griffiths wedi gweld yr effaith ar rai teuluoedd o fewn yr ysgol
Mae prifathro y merched yn Ysgol Gymraeg Caerffili, Lynn Griffiths yn dweud ei bod nhw wedi rhoi darpariaethau a strategaethau mewn lle er mwyn cefnogi rhieni fel Angela a'i phlant.
Ond mae e wedi cael sgyrsiau gyda theuluoedd sy'n poeni, meddai.
"Dwi wedi cael trafodaeth gyda thri theulu - o fewn ysgol lle mae gyda ni bron i 440 o blant, 'nath un rhiant benderfynu peidio gyrru ei phlentyn 'nôl ym mis Medi ac mae'r ddau deulu arall wedi cytuno, gyda chefnogaeth 'da ni'n gallu darparu, am barhau yma."

Gobaith Elin Maher a RhAG ydy rhoi adnoddau addysgol i rieni ar y we
Mae grŵp ymgyrchu RhAG yn cydnabod y pwysau ychwanegol mae'r cyfnodau clo yn ei roi ar rieni yn y sefyllfa hon, ac yn lansio gwefan newydd ddiwedd y mis, Welsh4parents.cymru.
Y bwriad yw casglu adnoddau Cymraeg mewn un lle, meddai Elin Maher.
"Ry' ni nawr wedi sylweddoli bod angen dod â'r wybodaeth yma i un platfform, ond mwy na hynny mae'r ail glo yn wahanol," ychwanegodd.
"Mae rhieni, dwi'n teimlo, wedi canfod ac yn gwybod bod na bethau mas yna ac mae'r dulliau o addysgu o bell erbyn hyn gan ysgolion wedi datblygu."
Cyngor i rieni
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, sydd â tharged o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ei bod yn gwerthfawrogi'r heriau y mae pob rhiant yn eu hwynebu wrth ddysgu gartref.
"Rydym wedi rhoi arweiniad i ysgolion i'w helpu yn ystod y pandemig, sy'n cynnwys cymorth penodol i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg nad yw eu teuluoedd yn siarad Cymraeg.
"Mae hyn yn cynnwys cyngor i rieni a gofalwyr ar sut mae modd cefnogi eu plant i ddefnyddio'r Gymraeg gartref."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2021