Etholiad 2021: Pwy fydd yn denu pleidleiswyr UKIP?
- Cyhoeddwyd

Gallai'r gefnogaeth i bleidiau'r adain dde gael cryn effaith ar ffurfiad y Senedd newydd wedi'r etholiad ar 6 Mai.
Mae sawl plaid yn ceisio denu cefnogaeth y degau o filoedd a bleidleisiodd i UKIP bum mlynedd yn ôl.
Mae un astudiaeth academaidd yn awgrymu bod nifer o'r pleidleiswyr hynny wedi troi at y Ceidwadwyr y flwyddyn ganlynol.
Os yw'r Ceidwadwyr yn gallu cadw eu cefnogaeth fe fydd y bwlch rhyngddyn nhw a Llafur yn cau mewn seddi agos.
Fe wnaeth UKIP ennill tir sylweddol yn etholiad 2016 gan gipio saith sedd - diolch i 132,000 o bleidleisiau rhanbarthol. Fe wnaethon nhw hefyd sicrhau 127,000 o bleidleisiau mewn etholaethau.

Dim ond un o'r rhai a gipiodd sedd i UKIP yn etholiad 2016 sy'n sefyll y tro hwn, sef Neil Hamilton
Fe wnaeth y fuddugoliaeth, fis cyn refferendwm Brexit, gostio'n ddrud i'r Ceidwadwyr Cymreig.
Am y tro cyntaf erioed ers 1999 fe wnaeth eu cyfran o'r bleidlais ostwng mewn etholiad datganoledig.
Ond dyw union freuddwydion UKIP ym Mae Caerdydd ddim wedi cael eu gwireddu wrth i wahaniaethau personol a gwleidyddol greu rhaniadau ymhlith yr aelodau.
Wedi Brexit ac wedi cyfnod Nigel Farage wrth y llyw dyw'r blaid ddim yr hyn oedd hi.
Dim ond un person sy'n cynrychioli UKIP yn y Senedd sy'n sefyll fel ymgeisydd y tro hwn - Neil Hamilton.

Wrth i wleidyddion UKIP rannu mae astudiaeth gan Dîm Astudiaeth Etholiad Cymru yn awgrymu bod y rhai a bleidleisiodd iddynt hefyd wedi newid eu teyrngarwch.
Mae'r arolwg wedi edrych ar gefnogaeth pleidleiswyr mewn gwahanol etholiadau.
Fe wnaeth y rhan fwyaf o gefnogwyr Nigel Farage yn 2016 bleidleisio i Theresa May a Boris Johnson yn etholiadau cyffredinol 2017 a 2019.
"Mae yna gwestiwn a fydd eu cefnogaeth yn parhau," medd Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Nghaerdydd.
"Un o'r rhesymau bod y pleidleiswyr yma wedi mynd at y Ceidwadwyr yn 2019 yw Brexit.
"Mae rhai o bosib yn credu bod Brexit bellach wedi digwydd ac yn dweud 'o leiaf ry'n wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd'.
"Y cwestiwn yw a fydd y bobl yma yn pleidleisio i'r Ceidwadwyr eto neu a fyddan nhw'n pleidleisio o gwbl yn yr etholiad y tro hwn."
Yn 2021, mae'r Ceidwadwyr Cymreig o dan arweinyddiaeth Andrew RT Davies am geisio darbwyllo cymaint â phosib o gefnogwyr Boris Johnson yn 2019 i bleidleisio eto.
Fe fyddant yn cynnwys pobl ychydig i'r dde o'r canol sydd "yn draddodiadol ddim wedi bod â diddordeb yn etholiad Senedd Cymru", medd un aelod blaenllaw.
Mae UKIP yn ceisio gwneud pob dim posib i gadw eu cefnogaeth ond does dim disgwyl i'w llwyddiant fod yn debyg i un 2016.
Ond mae un aelod blaenllaw yn credu bod modd iddynt ennill rhai seddi a bod y blaid bellach yn wynebu cyfnod gwell wedi iddynt "bron â diflannu" ryw flwyddyn yn ôl.
'Rhannu'r gefnogaeth'
Y cystadleuydd ffyrnicaf fydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru - mae'r ddwy blaid am gael gwared ar ddatganoli ac yn ôl rhai mae gan Blaid Diddymu (Abolish the Welsh Assembly yn Saesneg) enw gwell.
Mae'r astudiaeth yn dangos bod cefnogwyr y Ceidwadwyr a phlaid UKIP yn fwy tebygol o amau gwerth datganoli na chefnogwyr Llafur a Phlaid Cymru.
Mae yna ofnau y gall y naill blaid o'r adain dde ddwyn pleidleisiau'r llall.
Dywedodd Mr Larner: "Fe allai Abolish ennill cefnogaeth gan y pleidiau yma ond ar yr un pryd beth sy'n digwydd yw bod y gefnogaeth i bleidiau'r adain dde yn cael ei rannu."
Dywed un aelod blaenllaw o'r blaid Diddymu ei fod yn credu y gallai'r blaid wneud yn dda yn yr ardaloedd hynny o gymoedd y de a bleidleisiodd am UKIP a Brexit yn 2016.
Mae gan Reform UK, sef olynydd Plaid Brexit Nigel Farage, ymgeiswyr ymhob rhanbarth.
Ond mae'n bosib ei bod hi'n ddyddiau cynnar i blaid sydd yn ceisio sefydlu ei henw a'i hunaniaeth, medd un o'i hymgeiswyr.

POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021