'Digwyddiad' Ysbyty Maelor: Rhyddhau dyn heb gyhuddiad

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor
Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg nid oedd gan neb ganiatâd i fynd mewn nac allan o adeilad yr ysbyty

Mae dyn a gafodd ei arestion yn dilyn "digwyddiad" yn Ysbyty Maelor, Wrecsam ddydd Iau, wedi ei ryddhau heb gyhuddiad.

Bu'n rhaid i staff a chleifion adael yr ysbyty am gyfnod.

Wedi i'r digwyddiad ddod i ben, fe wnaeth yr heddlu gadarnhau mai galwad bygythiol ffug oedd wedi mynd i'r ysbyty.

Nos Iau dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi arestio dyn lleol 33 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Ond mewn datganiad pellach ddydd Gwener, dywedodd y llu nad oedd y dyn bellach yn cael ei amau o fod yn rhan o'r digwyddiad.

Ychwanegodd y datganiad bod ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.

Galwad ffug

Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cynghori pobl i osgoi'r safle, dolen allanol ac wedi dweud wrth bobl ag apwyntiadau ddydd Iau i beidio mynd yno.

Pan ddaeth y digwyddiad i ben, dywedodd y Prif Arolgydd Mark Williams o Heddlu'r Gogledd: "Hoffwn ddiolch i staff, cleifion a'r cyhoedd am eu cydweithrediad yn dilyn beth sy'n ymddangos ei fod yn alwad ffug i Ysbyty Maelor Wrecsam.

"Ein blaenoriaeth gydol y digwyddiad y prynhawn yma oedd sicrhau fod pobl yn cael eu cadw'n ddiogel."

Dywedodd un llygad-dyst bod "tua 200 o heddweision" ar y safle.

"Cyrhaeddais ychydig ar ôl 13:30 yn y Maelor dim ond i ddarganfod bod ceir yr heddlu yn blocio'r fynedfa gyda goleuadau sy'n fflachio - ceir heb eu marcio a cheir wedi'u marcio," meddai Stuart Lloyd, 44.

"Yn dilyn hynny, rydyn ni wedi gweld llawer iawn o bobl yn troi i fyny - mwy o heddweision - ac maen nhw wedi cau pob llwybr i mewn yn llythrennol a dydyn nhw ddim yn gadael pobl allan chwaith, er eu bod nhw wedi caniatáu i ychydig o ambiwlansys fynd a dod.

"Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gadael i bobl groesi dros y ffordd, felly ar hyn o bryd dwi'n sownd y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys.

"Mae 'na gwpl o bobl eraill - dynes feichiog - ac rydyn ni i gyd yn gaeth rhwng gwrychoedd."