Achosion clwstwr Covid-19 ffatri fwyd Y Bala wedi cynyddu
- Cyhoeddwyd
![Cake Crew, Bala](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7EB2/production/_118143423_de424513-0ad7-46ac-81c5-ae7119964e36.jpg)
Mae nifer yr achosion o Covid-19 sy'n gysylltiedig â ffatri fwyd yn Y Bala wedi cynyddu.
Ddydd Mercher, daeth cadarnhad bod yr awdurdodau'n ceisio rheoli clwstwr o achosion ymhlith gweithlu Cake Crew.
Dywedodd Cyngor Gwynedd ddydd Gwener bod nifer yr achosion wedi cynyddu o 42 i 48.
Mae'r cwmni cacennau yn cyflogi 330 o bobl.
Agor uned brofi
Dywedodd y cyngor hefyd bod un disgybl o ysgol leol wedi cael prawf positif am yr haint o ganlyniad i'r clwstwr yn y ffatri.
Dywedodd llefarydd ar ran tîm aml-asiantaeth sy'n delio gyda'r digwyddiad eu bod yn "gweithio'n agos gyda'r cwmni i reoli'r sefyllfa".
Dywedodd Cyngor Gwynedd y byddai uned brofi Covid-19 yn agor yn Y Bala o ddydd Sadwrn ymlaen.
Bydd yr uned ym Maes Parcio'r Grîn ar agor rhwng 12:00-16:30.
Yn ôl ffigyrau diweddara' Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r gyfradd achosion wythnosol fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Ngwynedd yn 28.1, yr uchaf drwy Gymru.
Y ffigwr ar gyfer Cymru gyfan ydy 14.7.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2021