'Cyfle olaf i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Anthony Slaughter

Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru yn dweud mai etholiadau'r Senedd fis nesaf yw'r "cyfle olaf, o bosib" i fynd i'r afael â'r "argyfwng hinsawdd".

Dywed Anthony Slaughter ei fod yn croesawu'r ffaith bod pleidiau eraill yn trafod materion amgylcheddol, ond bod hi'n bryd "cydnabod y brys, a maint yr hyn mae'n rhaid i ni ei wneud".

Wrth siarad ar Radio Wales, dywedodd Mr Slaughter mai'r hyn sy'n "unigryw" ynghylch ei blaid yw "ein bod yn bwriadu gwneud yr hyn ry'n ni'n ei ddweud" o ran yr agenda amgylcheddol.

Mae etholiadau Senedd Cymru yn cael eu cynnal ddydd Iau 6 Mai.

Dywedodd Mr Slaughter wrth raglen Sunday Supplement y byddai Asau Plaid Werdd yn y Senedd yn sicrhau bod yna weithredu i wella'r amgylchedd.

"Mae'r gair gwyrdd ymhobman yn yr etholiad yma ac mae hynny i'w groesawu," meddai, "ond mae pleidiau eraill angen cydnabod y brys a maint yr hyn mae angen i ni ei wneud.

"Os gawn ni Wyrddion yn y Senedd, byddwn yn gwneud y pleidiau eraill a llywodraeth Cymru'n atebol, ac yn sicrhau ein bod yn cymryd y camau angenrheidiol."

Dywedodd bod yna sawl arwydd o fwriadau da ond dydy hynny "ddim o reidrwydd yn golygu bod gwaith yn cael ei wneud".

Ychwanegodd: "Mae pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir ond mae angen iddyn nhw symud lawer yn gyflymach."

'Lliniaru'r effeithiau gwaethaf'

Galwodd Mr Slaughter am wneud mwy i ddadgarboneiddio'r economi.

"Mae yna angen brys i godi tai ond mae'n rhaid i ni godi cartrefi ag ynni effeithlon, sy'n cwrdd â'r safonau amgylcheddol uchaf.

"Hwn, o bosib, yw'r etholiad dwytha ble mae gyda ni gyfle i gymryd y camau sydd eu hangen i liniaru effeithiau gwaethaf yr argyfwng hinsawdd."

Dydy'r Blaid Werdd erioed wedi ennill sedd ym Mae Caerdydd.