Anthony Hopkins yn cipio ail wobr Oscar am The Father
- Cyhoeddwyd

Roedd 'na lwyddiant i ddau Gymro yng ngwobrau ffilm yr Oscars nos Sul.
Syr Anthony Hopkins ydy'r dyn hynaf erioed i ennill y categori actor gorau, a hynny am ei ran yn The Father.
Mae'n 29 mlynedd ers i Hopkins, sy'n 83, ennill ei Oscar cyntaf am Silence of the Lambs.
Aeth y wobr am y ffilm fer orau i Two Distant Strangers, sy'n cynnwys yr actor o Gaerdydd, Andrew Howard.

Olivia Colman a Syr Anthony Hopkins yn The Father
Hopkins oedd un o'r enwau mawr i ennill gwobr yn y seremoni yn Los Angeles nos Sul.
Enillodd y wobr am ei bortread o ddyn sy'n byw gyda dementia yn The Father, ochr yn ochr ag Olivia Colman.
Dyma ei ail wobr gan yr academi, ar ôl ennill y cyntaf am ei bortread o Dr Hannibal Lecter yn 1992.
Ond roedd ei fuddugoliaeth hefyd yn sioc i lawer, gyda nifer yn darogan y byddai'r wobr yn mynd i'r diweddar Chadwick Boseman am Ma Rainey's Black Bottom.
Efallai bod y fuddugoliaeth yn sioc i Hopkins ei hun, oedd ddim yn y seremoni yn LA na chwaith yn y lleoliad Prydeinig yn Llundain.
Y gred yw bod Hopkins gartref yng Nghymru adeg y seremoni.

Mae Andrew Howard yn chwarae rhan heddwas Americanaidd yn y ffilm fer Two Distant Strangers
I'r Cymro arall oedd wedi mynychu'r seremoni, Andrew Howard, dywedodd ei fod yn "crynu" ar ôl "noson anhygoel".
"Pan wnaethon ni ennill, o'n i gyda fy ffrindiau ac aethon ni i gyd yn wyllt, dwi wedi bod yn dal y cerflun bach hyfryd yma ac yn crynu gyda llawenydd," meddai ar Radio Wales fore Llun.
"Mae'n deimlad ffantastig, fel cyfiawnhad, a lot o waith caled, mae lot fawr o adegau da a drwg yn y gwaith yma, felly pan mae cyfle i ddathlu mae'n rhaid gwneud hynny'n dda."
Ychwanegodd ei fod wedi bod ar "siwrne anhygoel" gyda'r ffilm, sy'n edrych ar farwolaethau Americanwyr du wrth law'r heddlu yn y wlad.
"O fewn chwe mis i saethu'r ffilm, ei werthu i Netflix, i ennill Oscar heno, mae wedi bod yn siwrne anhygoel a dwi mor falch."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2021