Hannibal Lecter: Y rôl mwya eiconig i actor o Gymru?

  • Cyhoeddwyd
hannibal

Mae hi'n 30 mlynedd eleni ers i Anthony Hopkins actio rhan Dr Hannibal Lecter yn y ffilm eiconig, Silence of the Lambs.

Cafodd y ffilm ei henwebu am saith Oscar yn 1992, gan ennill pump, a gyda hynny daeth dyrchafiad Anthony Hopkins i griw A-listers Hollywood.

Ar Dros Ginio ar Ddydd Mercher, 17 Chwefror, roedd y critig ffilm Gary Slaymaker yn ei drafod:

"Mae'r ffilm yn aros yn y cof am ddau reswm. Yn gyntaf mae hi'n ffilm arbennig o dda, yn thriller, ac yn ail mae hi'n rhan annatod o gelfyddyd poblogaidd bellach."

"O fewn wythnosau bron i'r ffilm agor roedd 'na gomediwyr yn gwneud sketches fel Hannibal Lecter, ac mae'r un olygfa 'na pan mae'n sôn am y census taker a'r fava beans a Chianti 'di aros yng nghof pawb rwy'n credu."

Disgrifiad o’r llun,

Yn Silence of the Lambs fe ddywedodd Anthony Hopkins un o'r llinellau enwocaf yn hanes Hollywood; "A census taker once tried to test me. I ate his liver with some fava beans and a nice chianti."

"O'n i'n licio'r elfen o hwyl ddoth e fewn i'r peth. Ar ddiwedd y llinell efo'r census taker a'r fava beans, mae Hopkins yn gwneud yr ebychiad 'ma... ad lib llwyr oedd honna.

"Roedd y llinell gyda fe ond benderfynodd e jest ychwanegu'r sŵn sugno'r awyr dros y dannedd a freakio Jodie Foster mas yn llwyr drwy 'neud e, a'r rhan fwya' o bobl tu ôl i'r camera, ac oherwydd hynny fe gadwon nhw y darn yna fewn. Ac dyna beth wnaeth bobl gofio - be' bynnag 'neith ddigwydd nawr ym mywyd Anthony Hopkins mae pawb am gofio'r llinell 'na."

Llwyddiant annisgwyl

Yn actio gyferbyn Hopkins yn Silence of the Lambs oedd yr actores amryddawn Jodie Foster, a gafodd ei henwebu am Oscar am Taxi Driver pan oedd hi'n 12 oed, ac a enillodd yr Oscar Actores Orau yn 1989 am ei pherfformiad yn The Accused. Er hyn, doedd dim disgwyliadau uchel i Silence of the Lambs.

"Nofel gyntaf Thomas Harris gyda Hannibal Lecter oedd Red Dragon, ac fe wnaeth y cyfarwyddwr Michael Mann fersiwn ohoni o'r enw Manhunter (1986). Mae honna'n ffilm dda, ond doedd hi ddim yn llwyddiant o gwbl a doedd 'na ddim rhyw awch mawr i wneud Silence of the Lambs, a doedd dim disgwyl y byddent yn ei gwneud hi."

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Hopkins yr Oscar am yr actor gorau gyda ond 24 munud a 52 eiliad o waith ar sgrîn

Nid Anthony Hopkins oedd yr enw cyntaf gafodd ei ystyried ar gyfer rôl Hannibal Lecter yn ôl Gary Slaymaker:

"Y person cyntaf i brynu'r hawliau ar gyfer y ffilm oedd Gene Hackman, ond sylweddolodd e'n go gloi bod e'n rhy hen i whare Lecter - unwaith wnaeth Jonathan Demme y cyfarwyddwr gymryd drosodd pethau, fe benderfynodd e wedyn ei fod eisiau Anthony Hopkins.

"Gyda ffilmiau fel hyn mae 'na wastad enwau mawr yn cael ei daflu mewn i actio. Un o'r bobl gath ei ystyried oedd Dustin Hoffman, ond alla i ddim gweld dim byd yn frawychus am Dustin Hoffman o gwbl!"

'Y gamp lawn o Oscars'

"Yn ddiddorol roedd Anthony Hopkins wedi bod yn gweithio mewn theatr a ffilm ers y 60au, yn teimlo bod e erioed wedi torri drwyddo a taw hon oedd e'n ystyried fel y cyfle olaf i greu rhyw fath o argraff ar y sgrin - a dyna argraff 'nath e, gan ennill Oscar yn sgil y perfformiad.

"Dim ond tair ffilm sydd erioed wedi ennill y gamp lawn o ran Oscars - ffilm orau, cyfarwyddo gorau, actor ac actores orau, a'r sgript orau."

Ffynhonnell y llun, Ron Galella, Ltd.
Disgrifiad o’r llun,

Anthony Hopkins, Jodie Foster a Jonathan Demme yng Ngwobrau'r Oscars, 1992

"Yr un gwendid dwi wastad wedi teimlo 'da Silence of the Lambs yw'r perfformiad, mae'n teimlo bach gormod fel panto villain. Ond dyna'n union a wnaeth ddala sylw bobl a pam bod Hopkins wedi mynd 'mlaen i gael pedwar enwebiad Oscar arall a gyrfa hynod lewyrchus yn sgil Silence of the Lambs."

Dim 'genre' penodol

Mae'r ffilm ei hun yn ffitio i sawl genre, ac mae'r ffaith yna yn un o'r rhesymau pam mae'n parhau i gael ei ystyried fel clasur gan ffans ffilmiau.

"Mae 'na rhyw elfen rhamant rhyfedd rhwng Clarice a Hannibal yn y ffilm," meddai Gary. "Beth oedd yn ddiddorol oedd bod bobl ar y pryd yn dweud 'dyma'r ffilm arswyd gyntaf i ennill Oscar am y ffilm orau'...ond yn dechnegol dyw hi ddim yn ffilm arswyd."

Disgrifiad o’r llun,

Rhan allweddol o'r ffilm; y berthynas rhwng y llofrudd Hannibal Lecter a Clarice Starling o'r FBI (Jodie Foster)

"Mae 'na olygfeydd arswydus, ond byddwn i wastad yn dweud mai thriller seicolegol yw Silence of the Lambs. Ond mae'r ffilm dal yn gweithio heddi, mae e dal mor gynnil a mor greulon â'r tro cyntaf imi ei gweld hi."

Sut mae'r actor o Bort Talbot yn teimlo am y ffilm erbyn heddiw? "Mae Anthony Hopkins wrth ei fodd, achos dwedodd e os fydde fe heb gael llwyddiant gyda hon bydde wedi dod nôl i Loegr a gweithio yn y theatr am weddill ei oes - rhoth hwn fywyd newydd iddo."

Ffynhonnell y llun, Axelle/Bauer-Griffin
Disgrifiad o’r llun,

Hopkins gyda'i gyd-Gymro, Jonathan Pryce. Cafodd y ddau eu henwebu am Oscar yn 2020 am eu perfformiadau yn 'The Two Popes'.

Fel rhan o'i ymchwil ar gyfer y rôl fe ddarllenodd Anthony Hopkins ffeiliau am lofruddion cyfres, ymweld â charchardai, a hyd yn oed eistedd i mewn ar achosion llys oedd yn delio gyda llofruddiaethau cyfres.

"Mae'n ffilm arbennig o dda," meddai Gary. "Os fysech chi'n gwneud rhestr ffilmiau gyda llofruddion cyfres gorau, dwi'n siŵr fydda fe'n gyntaf, neu'n ail falle tu ôl i Psycho.

"Mae e'n un o'r ffilmiau 'na, os 'di hi 'mlaen 'nai ollwng popeth a gwneud siŵr mod i'n gweld hi."

Ffynhonnell y llun, Axelle/Bauer-Griffin

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig