Ymladdwyr tân yn parhau ar safle canolfan ailgylchu
- Cyhoeddwyd
Mae ymladdwyr tân yn parhau i geisio diffodd fflamau ar safle canolfan ailgylchu yn Sir Gâr.
Cafodd wyth injan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu danfon i'r safle yn Nant-y-caws brynhawn Sadwrn.
Roedd trigolion lleol wedi cael cyngor i gadw ffenestri a drysau ar gau yn dilyn y digwyddiad ger Llanddarog.
Yn ôl y cyngor chafodd neb anaf a bydd yna ymchwiliad i ddarganfod achos y tân.
Mae criwiau tân yn parhau ar ddyletswydd ar y safle fore Llun i ddiffodd y fflamau a gwneud y safle'n saff.
Cadarnhaodd Cyngor Sir Gâr bod y gwasanaeth tân wedi eu galw tua 15:30 ddydd Sadwrn i'r Cyfleuster Adennill Deunyddiau sy'n cael ei redeg gan Cwm Environmental Ltd.
Roedd y fflamau wedi cydio mewn adeilad ffrâm ddur, yn mesur tua 70 metr wrth 100 metr ac yn cynnwys tua 400 tunnell o wastraff ac offer ailgylchu cymysg nad oedd yn beryglus, medd y gwasanaeth tân.
Daeth cadarnhad nos Sadwrn fod y tân dan reolaeth.
Mae'r ganolfan ailgylchu ar gau am y tro, ynghyd â'r orsaf trosglwyddo gwastraff ar gyfer gwaredu gwastraff masnachol.
Mae gofyn i bobl oedd wedi trefnu apwyntiadau i fynd i'r ganolfan ailgylchu rhwng dydd Sul a dydd Mercher, 28 Ebrill, fynd i un o'r canolfannau ailgylchu lleol eraill yn Nhrostre, Wernddu neu Hendy-gwyn ar Daf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021