Diogelwch tân fflatiau: Perchnogion yn galw am gymorth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
South Quay, Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y rhan fwyaf o flociau South Quay, Abertawe eu hadeiladu gan Carillion - cwmni aeth i'r wal yn 2018

Mae pobl sy'n byw mewn fflatiau sydd wedi methu profion safonau tân yn galw ar wleidyddion yng Nghymru i addo arian i dalu am gywiro'r problemau.

Yr amcangyfrif yw bod 50 bloc o fflatiau preifat yng Nghymru sydd dros 18 metr - chwe llawr neu'n fwy - â chladin sydd wedi methu profion tân, yn ogystal â phroblemau diogelwch eraill.

Er gwaetha' ymdrechion cwmnïau adeiladu i gywiro rhai o'r problemau, mae miloedd o bobl yn dal i wynebu costau anferthol i dalu am waith pellach.

Gydag wythnos i fynd tan etholiad y Senedd, mae pleidiau ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi cyhoeddi cynlluniau sy'n gefnogol o lesddalwyr.

Yswiriant wedi cynyddu 371%

Mae Zoe Griffiths yn byw yn natblygiad South Quay yn Abertawe. Cafodd y rhan fwyaf o'r blociau eu hadeiladu gan Carillion - cwmni aeth i'r wal yn 2018.

Mae gan y 160 o fflatiau ar y safle broblemau diogelwch tân difrifol, sy'n cynnwys cladin peryglus ar y tu fas a diffygion yn y waliau rhwng y fflatiau.

Yn ôl Ms Griffiths mae gwarant NHBC - gwarant i gartrefi newydd - yr adeilad wedi darfod ac felly mae'n rhaid i berchnogion y fflatiau dalu'r holl gostau i gyflawni'r gwaith cywiro.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Zoe Griffiths am weld cefnogaeth i hi a phobl eraill ei hardal gan y llywodraeth

Dywedodd Ms Griffiths: "Ni sy'n gorfod talu am y gwaith allan o'n pocedi ein hunain.

"Mae'r costau yswiriant ers y llynedd wedi cynyddu 371%, ac mae costau cynnal a chadw yr adeilad wedi cynyddu 167%.

"Gan ein bod ni'n gorfod talu am y gwaith i adnewyddu'r cladin, mae hwnna'n golygu bydd yn rhaid i ni dalu £335,000 ar y cyd er mwyn sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd y safonau tân newydd."

Ychwanegodd: "Hoffen ni weld y llywodraeth newydd yng Nghymru yn bod yn fwy cefnogol o iechyd meddwl a diogelwch holl bobl y wlad, gan gynnwys lesddalwyr fel ni.

"Dylen nhw flaenoriaethu'r arian i dalu am adnewyddu'r cladin a sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud yn gywir."

Yn gynharach eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru esbonio fod yr arian ddaeth i Fae Caerdydd o San Steffan drwy fformiwla Barnett ar gyfer 2020 wedi ei fuddsoddi yn yr ymdrech i fynd i'r afael â'r pandemig.

Ym mis Chwefror eleni, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd £32m yn mynd tuag at yr ymdrech i gywiro diffygion diogelwch tân yn y flwyddyn ariannol 2021/22.

'Cost o £60,000 yr un'

Disgrifiad o’r llun,

Mae datblygwyr Victoria Wharf yng Nghaerdydd wedi gwneud gwelliannau i'r tu mewn, ond mae mwy i'w wneud eto

Ym Mae Caerdydd, mae trigolion datblygiad Victoria Wharf yn honni nad ydyn nhw wedi gweld unrhyw gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru eto.

Sefydlodd Cerys Owen, sy'n byw yn y bae, Grŵp Gweithredu Lesddalwyr Cymru.

Dywedodd bod y rhan fwyaf o'r gwaith mewnol wedi cael ei gyflawni gan y datblygwr, Taylor Wimpey, erbyn hyn.

Ond mae dal angen cwblhau'r gwaith o adnewyddu'r cladin ar y tu fas.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffyg cefnogaeth wedi bod yn "anodd iawn i ni dderbyn", meddai Cerys Owen

Dywedodd Ms Owen: "Mae costau'r yswiriant wedi mynd trwy'r to o ganlyniad i'r holl broblemau.

"Mae'r costau wedi cynyddu hyd at £100,000 eleni. Mae hwnna ychydig dros £1,000 yr un i bob lesddaliwr sy'n byw yma.

"Mae cyfanswm y costau i gywiro'r holl broblemau tua £28m, sef tua £60,000 i bob lesddaliwr."

Gydag etholiad y Senedd ar y gorwel, fe ddywedodd Ms Owen bod "diffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru" wedi bod yn "anodd iawn i ni dderbyn".

"Mae'n ddealladwy bod Covid-19 wedi bod yn ddigwyddiad anferthol i ni gyd, ond nawr rydyn ni'n gobeithio bod pwy bynnag sy'n cael eu hethol fis nesaf yn fodlon camu i mewn i'n cefnogi ni ac i gydweithio gyda ni i geisio datrys y problemau," meddai.

Beth ydy ymateb y pleidiau?

Mae'r Blaid Lafur yn dweud y bydden nhw'n creu "Cronfa Diogelwch Tân ar gyfer adeiladau sy'n bodoli'n barod".

Maen nhw hefyd yn hyrwyddo trefn diogelwch tân newydd er mwyn "symud Cymru ymlaen a sicrhau safonau gwell i bob math o adeiladau" a gwella cynlluniau adeiladu a'r ffordd mae adeiladau'n cael eu rheoli.

Mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru hefyd yn bwriadu sefydlu cronfa diogelwch tân i ad-dalu lesddalwyr am yr arian maen nhw wedi ei wario yn barod i drwsio cladin peryglus.

Ychwanegodd y blaid y bydden nhw hefyd yn sicrhau bod yr holl arian sy'n cael ei glustnodi ar gyfer yr ymdrech i fynd i'r afael â'r problemau yn cyrraedd pocedi'r bobl sydd wedi eu heffeithio.

Fe ddywedodd Plaid Cymru y byddai'n "edrych ar gyflwyno treth ar elw cwmnïau datblygu mawr, a defnyddio'r arian i ddatrys problemau o ganlyniad i waith adeiladu gwael".

Ychwanegodd y blaid: "Bydden ni hefyd yn gwneud mwy i amddiffyn prynwyr yn sgil gwaith adeiladu gwael mewn datblygiadau newydd."

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "Nid yw llawer o bobl sy'n byw mewn adeiladau uchel ar draws Cymru yn teimlo'n ddiogel ac maen nhw'n poeni am beryglon tân.

"Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru weithredu i wneud eu cartrefi yn ddiogel."

Dywedodd Propel, sydd wedi ymgyrchu llawer ar ran lesddalwyr, y bydden nhw'n "cyflwyno Deddf Cyfiawnder Tai", a "sicrhau nad yw datblygwyr yn cael cytundebau adeiladu newydd nes eu bod nhw'n cyflawni'r gwaith o gywiro problemau diogelwch tân mewn adeiladu presennol".