Ynysybwl: Marwolaeth dyn mewn tŷ ar dân 'ddim yn amheus'
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n trin marwolaeth dyn 53 oed yn Rhondda Cynon Taf fel un amheus.
Cafwyd hyd i gorff y dyn ynghyd â thân mewn tŷ yn Ynysybwl, ger Pontypridd ddydd Mawrth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Mill am 07:30.
Roedd yr heddlu yn rhwystro mynediad i'r safle tra'u bod yn diogelu'r eiddo er mwyn caniatáu i swyddogion fforensig ymchwilio.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon ambiwlans, dau gerbyd ymateb brys ynghyd â thîm arbenigol a meddyg i'r safle.
Mae ymchwiliad yn parhau i'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r farwolaeth ar ran y crwner.
Mae teulu'r dyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.