Covid hir: 'Ro'n i'n meddwl, o Dduw dyma'r diwedd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Syr Mansel Aylward
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Syr Mansel Aylward: 'Fy mai i yw hynny cymaint ag unrhyw un'

Mae un o feddygon amlycaf Cymru wedi esbonio sut y bu'n dioddef â phroblemau iechyd corfforol a meddyliol difrifol am fisoedd lawer o ganlyniad i Covid-19.

Yn ôl yr Athro Syr Mansel Aylward roedd effeithiau hirdymor y clefyd, yn cynnwys iselder difrifol, yn fwy niweidiol na'r salwch cychwynnol.

Oni bai am gymorth staff meddygol a chefnogaeth ei deulu, mae'n "arswydo o feddwl beth fyddai wedi digwydd", meddai.

Mae Syr Mansel hefyd o'r farn fod llywodraethau a sefydliadau iechyd ledled y DU wedi methu â chynllunio'n ddigonol ar gyfer pandemig.

Ond fel cyn-gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'n cydnabod: "Fy mai i yw hynny cymaint ag unrhyw un."

'O Dduw dyma'r diwedd'

Mewn cyfweliad gyda'r BBC, mae Syr Mansel yn sôn am effaith ddinistriol y pandemig arno'n bersonol, a'r ergyd drom i'w gymuned ym Merthyr Tudful - un o'r ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf.

Dywedodd Syr Mansel ei fod wedi meddwl mai asthma - cyflwr sydd ganddo ers plentyndod - oedd yn gyfrifol am ei symptomau i ddechrau.

Ond dirywiodd ei gyflwr yn gyflym ac fe gafodd ei drin yn yr ysbyty ym mis Ebrill.

"Roedd gen i glotiau di-ri - yn fy nau ysgyfaint ac roedd y sefyllfa'n ddifrifol a'n bygwth fy mywyd," meddai.

"Yn ddiweddarach, fe ddangosodd y meddygon i mi'r llun pelydr-x ac roeddwn i'n meddwl, o Dduw dyma'r diwedd, mae ar ben arna i.

"Roeddwn i wir yn teimlo hynny ac yn isel iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Heb gymorth "llu o arbenigwyr meddygol", mae Syr Mansel yn dweud bod "gas gen i feddwl beth fyddai wedi digwydd"

Syr Mansel, 78, yw Cadeirydd Comisiwn Bevan - corff sy'n rhoi cyngor ac yn gwneud ymchwil ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn gadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Fe dreuliodd naw mis yn ceisio gwella cyn gallu ailafael yn ei waith.

"Dechreuodd y Covid hir fel y mae'n cael ei ddisgrifio, bythefnos neu dair wythnos ar ôl y salwch gwreiddiol... ac fe effeithiodd hwnnw arna i yn ddifrifol - roeddwn i'n cael trafferth anadlu ac yn gyson wan.

"Doeddwn i ddim yn gallu cysgu, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu mynd allan o gadair, roedd yn rhaid i mi gael help i fynd mewn ac allan o'r gwely."

'Trafferth cofio geiriau'

"Roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy, roedd 'na ddyddiau pan oeddwn i'n isel tu hwnt ac rwy'n ddigon bodlon dweud hynny. Doeddwn i ddim yn meddwl yn iawn a dyna'r peth y sylwodd fy nheulu arno.

"Roeddwn ni'n cael trafferth cofio geiriau, roeddwn i'n anghofio pethau'n gyflym.

"Fe ddywedais i rai pethau gwirion a gwneud rhai pethau gwirion."

Mae Syr Mansel yn ddiolchgar am gymorth nifer o wahanol arbenigwyr iechyd yn ogystal â'i deulu.

"Roeddwn i angen sicrwydd bod hyn yn mynd i ddod i ben, nad oeddwn i'n mynd i fod fel hyn am weddill fy mywyd.

"Daeth y gefnogaeth honno gan fy nheulu yn arbennig, yn ogystal â llu o arbenigwyr - meddygon cyffredinol, endocrinolegwyr, seiciatryddion, meddygon teulu - roedd angen i bob un ohonynt fod yno gan fod Covid yn glefyd syn effeithio ar lawer iawn o bethau.

"Cefais iselder i ddechrau oherwydd roeddwn i'n meddwl fy mod i'n mynd i farw - a'r iselder wedyn pan oeddwn i'n meddwl nad oeddwn i'n mynd i wella.

"Rwy'n lwcus iawn fy mod wedi cael cymaint o gefnogaeth, dealltwriaeth ac empathi... Ond pe na bawn i'n wedi cael y fath gefnogaeth, mae'n gas gen i feddwl beth fyddai wedi digwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Syr Mansel Aylward gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford

Er ei fod yn dweud bod y gwasanaeth iechyd "wedi gwneud cystal ag y gallai" wrth ddelio ag effeithiau'r pandemig, mae Syr Mansel o'r farn fod llywodraethau a sefydliadau iechyd yn gyffredinol wedi methu â gwerthfawrogi pa mor ddifrifol oedd Covid yn y dyddiau a'r wythnosau cynnar.

Mae'n dweud fod 'na ddiffyg cynllunio digonol wedi bod ar gyfer y risg o bandemig byd eang dros nifer o flynyddoedd.

"Y wers fawr y mae'n rhaid ei dysgu yw nad oedden ni wedi gwerthfawrogi o'r cychwyn cyntaf pa mor ddifrifol oedd y feirws.

"Felly, yn ddealladwy, dywedodd pobl, gan gynnwys fy nghydweithwyr, mai dim ond annwyd ysgafn, sniffles, ffliw ysgafn oedd y peth.

"Roedd hynny'n anghywir a dylem fod wedi deall hynny'n gyflymach o lawer."

'Dwi ar fai cymaint â neb arall'

"Dwi ar fai cymaint â neb arall. Roeddwn yn Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru am wyth mlynedd. A phob blwyddyn roedden ni'n neilltuo ychydig ddyddiau er mwyn cynllunio ar gyfer pandemig.

"Felly, rwy'n credu ein bod wedi paratoi mewn theori am yr hyn y dylem fod yn ei wneud.

"Ond doeddem ni ddim yn barod am bandemig go iawn yn yr ystyr bod gyda ni rywbeth pendant yn barod wedi'i gynllunio'n dda, wedi'i ysgrifennu'n dda. Doedd ganddon ni ddim hynny.

"Gallem fod wedi gweithredu yn gyflymach o lawer, ond yn y pendraw aeth y Gwasanaeth Iechyd y tu hwnt i bob disgwyliad a dyna'r leinin arian, y ffordd yr oedd pobl yn gweithio gyda'i gilydd ac roedd cydweithio llawer agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol."

Mae Syr Mansel yn cyfaddef y bydd yr heriau sy'n wynebu'r Gwasanaeth Iechyd yn para am flynyddoedd, ac yn credu bod y pandemig wedi profi'r angen i "wario mwy o arian arno".

Dywedodd hefyd na fyddai iechyd cyhoeddus fyth eto'n cael ei danbrisio.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Mansel Aylward (cefn, yn edrych dros ei ysgwydd) ddeuddydd yn Aberfan yn sgil trychineb 1966

Mae Syr Mansel wedi cael gyrfa nodedig ar ôl cael ei eni a'i fagu mewn clwb cymdeithasol ym Merthyr Tudful.

Dechreuodd ei yrfa fel meddyg teulu yn y dref ar ôl newid ei feddwl am geisio am yrfa fel llawfeddyg yn Llundain.

Gwnaeth y penderfyniad ar ôl iddo brofi un o'r trychinebau mwyaf yn hanes Cymru.

"Newidiwyd fy mywyd ar ôl y profiadau a gawsom ar ôl trychineb Aberfan yn 1966," meddai.

"Roeddwn i bryd hynny yn fyfyriwr meddygol blwyddyn olaf, daeth fy ngwraig a fi a'm mab bach adref, ar hap, ar y diwrnod hwnnw a mi 'naethon nhw fy stopio i ar ben Dowlais a dweud bod trychineb yn Aberfan.

"Roeddwn i'n meddwl ei fod yn drychineb lofaol gan fod fy nheulu yn dod o Aberfan ac roedd llawer ohonynt yn lowyr, ond yr ysgol oedd hi.

"Roeddwn i'n un o'r ymatebwyr cyntaf a threuliais ddau ddiwrnod yn Aberfan yn gweld pethau na allwn [tan yn ddiweddar] hyd yn oed feddwl amdanynt."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Dywedodd fod effaith Covid ar ei gymuned wedi ailgynnau atgofion poenus.

"Rwy'n gofidio'n fawr am nifer y bobl a oedd yn fy nosbarth yn yr ysgol sydd wedi marw gyda Covid. Rwy'n sôn am saith neu wyth o bobl yr un oed â mi.

"Mae hynny wedi cael effaith aruthrol ar y ffordd rwy'n meddwl.

"Rwy wedi bod i saith neu wyth o angladdau yn ystod y deufis diwethaf ac mae'n dinistrio'r enaid mewn gwirionedd.

"Doeddwn i byth yn meddwl, ar ôl Aberfan, y byddwn i'n wynebu unrhyw brofiad fel yna eto ac er nad yw Covid ar y lefel honno, mae wedi bod yn rhywbeth sydd wedi effeithio'n fawr arnaf i, fy nheulu a fy ffrindiau."

Pynciau cysylltiedig