Bleddyn Môn: Hwylio ym mhen draw'r byd mewn pandemig

  • Cyhoeddwyd
Bleddyn MônFfynhonnell y llun, C GREGORY

"Mae hwylio'n bopeth i fi ar y funud, mae o'r ffordd dwi'n byw. Dwi'n lwcus iawn i allu gwneud rhywbeth dwi'n mwynhau gymaint bob diwrnod."

Roedd hi'n gyfnod clo gwahanol iawn i'r mwyafrif i Bleddyn Môn, yr hwyliwr ifanc o Amlwch yn Sir Fôn. Ag yntau'n aelod o dîm hwylio Prydain, roedd ym mhen draw'r byd yn cystadlu yn ras hwylio Cwpan America tra fod Cymru ar glo.

Cwpan America ydy'r tlws chwaraeon hynaf yn y byd ac roedd Bleddyn yn gobeithio bod yn aelod o'r tîm cyntaf o Brydain i ennill y ras, sef tîm Ineos gyda Syr Ben Ainslie yn gapten.

Meddai Bleddyn: "Mae'n gyfnod reit wahanol i fod yn cystadlu ac mewn ffordd roedden ni'n ffodus iawn ein bod ni yn Seland Newydd - os fydden ni'n cystadlu unrhyw le arall yn y byd mae'n debygol fyddai'r gystadleuaeth heb fynd ymlaen.

"Ar y cwch roedd rhyddid i wneud unrhyw beth - roedd ychydig o amser yn y paratoi at rasio lle roedd Seland Newydd, ac Auckland yn benodol, wedi mynd i lefel uwch o locdown - yn ystod yr adeg yna roedden ni'n gorfod cadw pellter ac roedd cwpl o ddyddiau pan oedden ni'n methu mynd i'r gwaith.

Bleddyn MônFfynhonnell y llun, INEOS

"Ond yn ystod y cyfnod rasio roedd pob dim yn rhydd ar y cwch. Roedd yna un wythnos pan doedd pobl ddim yn cael mynd allan ar y dŵr i wylio. Roedd hynny'n reit wahanol - yn enwedig ar ôl cael cymaint o gefnogaeth ar y dŵr yn yr wythnosau cynt.

"Ond erbyn y diwedd roedd pawb allan yn gwylio. Roedd yn grêt gweld cymaint o bobl allan yn cefnogi a chael mwynhau y rasio."

Roedd yn brofiad arbennig er gwaetha'r ffaith fod tîm Ineos wedi colli'r Gwpan, gyda'r Eidal yn eu curo nhw o'r ras: "'Oeddan ni'n siomedig mewn ffordd i beidio cael trwodd i'r rownd terfynol, yn enwedig ar ôl y cwpan diwethaf sef yr un cyntaf i fi. (Roedd Bleddyn yn ran o dîm Ineos y tro diwethaf i'r ras gael ei chynnal yn 2017, ond ni lwyddodd y tîm o Brydain i gyrraedd y rownd derfynol yn Bermuda.)

"Oeddan ni'n barod tro yma i roi go caled at gael at y rownd terfynol.

"Ond 'oeddan ni 'di mwynhau'r amser allan yn Seland Newydd, ac wedi mwynhau'r tair mlynedd diwethaf o baratoi.

Bleddyn MônFfynhonnell y llun, INEOS

Cyfnod helaeth

"Mae o'n broses enfawr ac mae pawb yn commitio cymaint o amser ato fo. Mewn ffordd dyna fy mywyd am y tair mlynedd diwethaf - mae'n build-up anferth, dwi wedi mwynhau o ac wedi dysgu lot dros y blynyddoedd.

"Ond yn amlwg yn siomedig am fynd adra yn gynnar."

Dau rôl

Mae gan Bleddyn rôl ddeuol o fewn y tîm sy' wedi'i leoli yn Portsmouth, gan ei fod yn aelod o'r criw hwylio - ei rôl ar y cwch yw trimio'r prif hwyl - ond hefyd yn gweithio ar yr ochr dylunio a pheirianneg.

Dywedodd: "Mae 'na 11 ohono ni ar y cwch - ond mae'r tîm llawn dros 100 o bobl. Mae'n anhygoel scale y tîm.

"Mae'r gweddill yn ddylunwyr, pobl peirianneg a phobl sy'n gweithio ar y cwch.

"Mae'r rhan fwya' o'r amser yn y tair blynedd o flaen llaw wedi gwario yn paratoi a dylunio'r cwch ac addasu'r cwch i neud yn siŵr bod ni'n troi fyny gyda'r cwch cyflymaf ni'n gallu dylunio."

Bleddyn gyda Syr Ben AinslieFfynhonnell y llun, INEOS
Disgrifiad o’r llun,

Bleddyn gyda Syr Ben Ainslie: "Mae o'n ofnadwy o dalentog ac yn gweithio'n ofnadwy o galed"

Arwr

Mae Bleddyn yn hwylio dan gapteniaeth Syr Ben Ainslie, sef yr hwyliwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y gemau Olympaidd: "Yn amlwg ro'n i'n tyfu fyny yn gwylio rasau cychod bach ac roedd Ben wrthi yn ennill medalau aur yn y gemau Olympaidd felly 'oedd o'n amlwg yn rhywun o'n i'n edrych i fyny at bryd hynny.

"Ac mae'n grêt i fod yn rhan o'i dîm o a gweithio efo fo er mwyn ennill Cwpan America.

"Yn amlwg mae o'n llwyddiannus iawn yn y byd hwylio, yr hwyliwr mwyaf llwyddiannus yn y byd ac mae'n hynod o dda am motivatio ti.

"Dyna be' sy' angen fel rhywun sy'n rhedeg y tîm.

"Mae o'n ofnadwy o dalentog ac yn gweithio'n ofnadwy o galed. 'Da ni allan ar y dŵr, does dim rest, 'da chi'n gweithio'n galed er mwyn cael pob dim posib allan o'r cwch.

"'Da ni wedi trio rŵan dwywaith efo'n gilydd. Gobeithio fyddwn ni'n lwcus y trydydd tro."

Bleddyn MônFfynhonnell y llun, INEOS

Byw breuddwyd

Mae Bleddyn wedi hwylio oddi ar y traethau lleol yn Ynys Môn ers ei fod yn chwe mlwydd oed gyda'i deulu a'i frodyr.

Dywedodd: "Pan o'n i tua 13 oed o'n i isio bod yn hwyliwr proffesiynol ond roedd Mam yn neud job da o gadw fy nhraed ar y pridd ac yn neud yn siŵr fod gena'i rhywbeth tu ôl fi fel backup.

"Ar ôl mynd i brifysgol i astudio peirianneg 'oedd o dal yn fy meddwl i mod i ishe fod yn rhan o dîm proffesiynol.

"Dwi'n hwylio ers bod yn hogyn bach ac mewn ffordd mae o trwy'r amser wedi bod yn hobi felly dwi'n teimlo'n lwcus iawn. Mae'n bleser i fi gallu neud rhywbeth fel proffesiwn dwi wedi bod yn mwynhau gwneud ers tyfu fyny yn hogyn bach ar Ynys Môn."

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig