Covid-19: 68 achos ynghlwm â chlwstwr ffatri Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae 68 o achosion o Covid-19 bellach yn cael eu cysylltu gyda ffatri gwneud cacennau yn Y Bala, Gwynedd.
Cafwyd cadarnhad yr wythnos ddiwethaf bod yr awdurdodau'n ceisio rheoli clwstwr o achosion ymhlith gweithlu Cake Crew.
Mae'r cwmni cacennau yn cyflogi 330 o bobl, gyda gweithwyr yn teithio i'r safle yn ne Gwynedd o sawl ardal arall.
Bellach mae uned brofi wedi'i lleoli ger y ffatri ac mae'r gweithwyr yn cael eu profi yno.
Profion adref
Dywedodd Cyngor Gwynedd, sy'n gyfrifol am y Tîm Rheoli Digwyddiad: "Mae'r ffigyrau diweddaraf (29/4/21) yn dangos fod 68 achos Covid-19 wedi eu cadarnhau ymhlith staff safle cynhyrchu bwyd Cake Crew." "Fel rhan o'u hymdrechion i reoli'r sefyllfa mae'r cwmni yn cydweithio yn agos gyda Thîm Rheoli Digwyddiad, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cynghorau Gwynedd, Powys a Chonwy yn ogystal â Chyngor Sir Amwythig.
"Mae'r tîm hefyd mewn cyswllt gydag awdurdodau Sir Ddinbych a Wrecsam lle mae achosion wedi eu cysylltu gyda'r digwyddiad hefyd yn byw. "Bellach mae uned brofi wedi ei lleoli ger safle'r ffatri ac mae'r gweithwyr yn cael eu profi yno. Yn ogystal, mae'r gweithwyr yn cynnal profion rheolaidd eu hunain gartref cyn mynychu'r gweithle.
"Gobeithir y bydd hyn, ynghyd a'r trefniadau gwaith y mae'r cwmni wedi eu mabwysiadu yn dod a'r haint dan reolaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2021