Campfeydd yn agor a dwy aelwyd yn cael cwrdd tu fewn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Perchennog campfa Iechyd Da yn "gyffrous ond yn bryderus" wrth ailagor

Mae canolfannau hamdden, pyllau nofio a champfeydd yn gallu ailagor o ddydd Llun ymlaen wrth i ragor o reolau coronafeirws gael eu llacio.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd gweithgareddau chwarae dan do i blant, cyfleusterau ffitrwydd oedolion, a sbas hefyd yn cael agor eto.

Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig, gan ganiatáu i ddwy aelwyd ac un person arall sy'n byw ar ben ei hun ddod ynghyd i ffurfio swigen benodedig a fydd yn gallu cyfarfod o dan do.

Mae'r newidiadau'n golygu bod Cymru bellach ar Lefel Rhybudd 3.

Ystadegau'n cefnogi llacio

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud ar 23 Ebrill y gallai'r rheolau gael eu llacio ymhellach os oedd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella.

Mae'r ystadegau i weld yn cefnogi hynny, gyda lefelau coronafeirws yn is yng Nghymru na gweddill y DU, a Chymru'n drydydd yn y byd o ran brechu pobl.

Mae'r raddfa o achosion Covid-19 yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol erbyn hyn gyda 11.3 achos fesul 100,000 o bobl yn cael ei gofnodi ar 24 Ebrill - y ffigwr isaf ers mis Medi.

Beth arall sy'n newid?

  • O ddydd Llun 3 Mai gall gweithgareddau dan do i blant ailddechrau, yn cynnwys grwpiau a chlybiau chwaraeon, a grwpiau diwylliannol a hamdden ehangach;

  • Gall gweithgareddau dan do ar gyfer oedolion hefyd ailddechrau i hyd at 15 o bobl, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio;

  • Gall Canolfannau Cymunedol ailagor.

Ond mae cynnal partïon pen-blwydd plant, neu gynulliadau ehangach o deuluoedd a ffrindiau mewn cartrefi preifat, yn dal wedi eu gwahardd.

Fydd canolfannau chwarae meddal ddim yn agor tan 17 Mai.

Eira-LilyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bydd hi'n dda i Eira-Lily a fi gael cymysgu gyda phobl eto, medd Christie-Ann Jones

Dywed Christie-Ann Jones o Gaerdydd ei bod yn falch y bydd ei merch fach Eira-Lily yn gallu mynd i grŵp ar gyfer babanod a'u mamau er mwyn ffurfio cyfeillgarwch gyda babanod eraill.

Aeth y ddwy i ddosbarth ym Medi ond yna daeth y cyfnod clo byr a doedd yna ddim dosbarthiadau.

Wedi iddi drefnu ei chyfnod mamolaeth yn ystod y cyfnod clo dywed Christie-Ann ei bod wedi bod yn anodd peidio siarad â mamau eraill am brofiadau gael babi newydd.

Bydd yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau yn cael ei wneud ar 13 Mai - wythnos wedi etholiad y Senedd ar 6 Mai.

Yr wythnos diwethaf dywedodd y llywodraeth y gall cyfleusterau lletygarwch dan do, a phob llety twristiaid ailagor o 17 Mai - yn ddibynnol ar gadarnhad gan pa bynnag blaid fydd yn ffurfio'r llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.

Agor pwll am hanner nos

Aeth nofwyr i'r pwll yn syth wedi hanner nos, nos Sul yng nghanolfan hamdden Pen-lan, yn Abertawe.

"Fe wnaeth ychydig dan 30 o bobl droi lan, oedd yn ffordd hwyliog a gwych i ailagor ein drysau a gweld ein cwsmeriaid eto," medd rheolwr y ganolfan, Jim Kelly wrth raglen Breakfast Radio Wales.

Nofwyr Canolfan Hamdden Pen-lanFfynhonnell y llun, Freedom Leisure
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn nofio yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan yn fuan wedi i'r safle agor i'r cyhoedd am hanner nos

"Roedd yna giwiau jest cyn hanner nos, oedd yn rhyfedd iawn i'w weld yr adeg yna o'r nos.

"Ry'n ni wedi bod ar gau am bedwar mis a hanner nawr. Pan ddaethon ni mas o'r cyfnod clo cyntaf roedd lot o ddiddordeb mewn dosbarthiadau ffitrwydd a phobl eisiau dysgu nofio, felly roedd y brwdfrydedd yna."

"Mae ymarfer corff yn hollbwysig i'n hiechyd a'n lles ac yn fwy pwysig nawr yn y frwydr yn erbyn Covid-19," meddai Tracey McNulty o Gyngor Abertawe.

Dywed perchennog campfa Iechyd Da yng Nghaerdydd ei fod ef a'r aelodaeth yn gyffrous i gael ailagor, ond ei fod yn poeni na fydd pobl yn heidio'n ôl.

Dywed Mered Pryce fod y gampfa wedi colli hanner ei haelodaeth yn sgil y pandemig.

"Dwi'n ddiolchgar dros ben i'r aelodau sydd wedi gallu aros - wrth iddyn nhw aros, 'dyn ni wedi gallu cadw i fynd," meddai.

Ymateb y pleidiau

Er bod y rheolau'n llacio rhybuddiodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, nad yw'r feirws wedi diflannu.

"Mae angen i bob un ohonom barhau i gymryd y camau hollbwysig hynny yr ydym i gyd bellach mor gyfarwydd â hwy, i ddiogelu ein hunain a'n gilydd rhag y feirws ofnadwy hwn," meddai.

"Os ydym yn cydweithio ac yn dilyn y rheolau hyn, byddwn yn dychwelyd i normalrwydd yn gyflymach. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i gadw Cymru'n ddiogel."

Top
Bottom

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Bydd pobl ledled Cymru'n falch fod Llafur o'r diwedd yn dilyn y data, ond fel y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau, gallai hyn fod wedi digwydd yn gynt ac nid ddiwrnodau'n unig cyn yr etholiad.

"Ddydd Iau bydd pobl ar draws Cymru yn cael cyfle i ddod â gemau gwleidyddol i ben a bydd modd cefnu ar 22 mlynedd o lywodraeth Lafur sydd wedi bod yn dal ein gwlad a'n heconomi yn ôl."

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru: "Mae'r diolch i ymdrech pobl Cymru a'r broses arwrol gan ein gwasanaeth iechyd gwladol o gyflwyno'r brechlyn - dyma pam ein bod ni yn y sefyllfa hon nawr.

"Pan fydd cyfyngiadau pellach yn cael eu codi mae'n rhaid cefnogi busnesau gyda grantiau ailgychwyn ar ôl dechrau anhygoel o anodd i'r flwyddyn.

"Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn darparu Grantiau Ailgychwyn o hyd at £20,000 i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden."

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds ei bod yn falch o weld campfeydd a phyllau nofio'n ailagor ond mae llawer o fusnesau'n "dal yn dioddef".

Ychwanegodd: "Yr etholiad yr wythnos hon, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn addo i roi'r adferiad yn gyntaf ac yn cynnig pecyn eang a chynhwysfawr o gefnogaeth ar gyfer ein busnesau ac ein stryd fawr."