'Fandaliaeth arswydus' ar nyth gweilch Brenig
- Cyhoeddwyd

Mae'r aderyn yn dodwy ddiwedd Ebrill fel arfer
Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i rywun ddefnyddio llif gadwyn i ddymchwel platfform oedd yn gartref i weilch sy'n nythu yn ardal Llyn Brenig yn y gogledd.
Dywedodd llefarydd fod yr aderyn, sy'n cael ei warchod gan ddeddf gwlad, newydd ddodwy ei wŷ cyntaf y noson gynt yn yr ardal sydd ar y ffin rhwng siroedd Conwy a Dinbych.
Fe wnaeth Prosiect Gweilch Brenig alw'r digwyddiad fel "fandaliaeth arswydus" ar eu cyfrif Facebook.
Cafodd swyddogion o Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu'r Gogledd eu hanfon i'r ardal fore Sadwrn ac mae ymchwiliad ar y gweill.
"Mae'n drist gennym adrodd fod rhywun wedi mynd ati yn fwriadol neithiwr i dynnu lawr platfform nythu'r gweilch," meddai trydar gan yr heddlu.
Mae Prosiect Gweilch y Brenig yn bartneriaeth gyda Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Dywed cadwraethwyr eu bod yn gobeithio y bydd pâr o weilch y pysgod nawr yn nythu ar safle newydd ger y llyn.

Roedd yr adar wedi gwenud nyth ar y platfform
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth: "Neithiwr am 21:42 fe wnaeth rhywun fynd â llif gadwyn i'r nyth, a'i ddymchwel."
Mae'r safle nythu yn Brenig yn gartref i ddwy fenyw ac un gwryw.

Cafodd rhannau o'r platfform eu canfod ar y llyn fore Sadwrn
Dywedodd y naturiaethwr Iolo Williams fod y digwyddiad yn anghredadwy.
Ychwanegodd fod o'n drychinebus gan fod yna ond pump pâr oedd yn gallu magu yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020