Drakeford yn amddiffyn record ar iechyd ac addysg

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn gobeithio am bum mlynedd arall o rym i Lafur

Mae arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, wedi amddiffyn record ei blaid, sydd wedi bod mewn grym yng Nghymru am dros 22 o flynyddoedd, ym meysydd iechyd ac addysg.

Ond ar benwythnos olaf yr ymgyrchu fe wnaeth o gyfaddef nad oedd targedau amseroedd aros cleifion canser wedi eu cyrraedd ers 2008, a gwrthododd ddweud a oedd ymrwymiad i leihau maint dosbarthiadau cynradd wedi ei wireddu.

Hefyd ar raglen Politics Wales y BBC fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig rybuddio am gyfnod o "ddirywiad wedi ei reoli" pe bai Llafur yn parhau mewn grym. Dywedodd Plaid Cymru na fyddai ailethol gweinyddiaeth dan arweinyddiaeth Llafur yn sicrhau "Cymru newydd."

Ond yn ôl Mr Drakeford roedd record ei blaid yn un "o fynd i'r afael â phroblemau".

Cyfeiriodd at welliant yn ffigyrau diweithdra a gweithgarwch economaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies yn dweud y bydd Cymru yn wynebu mwy o ddirywiad dan Lywodraeth Lafur

Cafodd ei holi ynglŷn â pherfformiad Cymru ym maes addysg, a'r ffaith mai Cymru oedd y wlad waethaf ym Mhrydain o ran profion Pisa, a hynny am y pumed tro yn olynol.

"Fe wnaeth gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig ostwng ond roeddem ni wedi gwella yn y tri maes - yn Saesneg, Mathmateg a Gwyddoniaeth - roedd yna gynnydd," meddai Mr Drakeford.

Roedd ymrwymiad i leihau maint dosbarthiadau cynradd yn rhan o'r cytundeb rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol pan ymunodd Kirsty Williams yn rhengoedd y llywodraeth fel gweinidog addysg.

Ond yn ôl data Llywodraeth Cymru bach iawn fu'r gostyngiad - 25.6 yn 2016 i'w gymharu â 25.4 yn 2020.

'Buddsoddiad parhaol'

Pan gafodd ei herio am y ffigyrau, fe wnaeth Mr Drakeford osgoi ateb y cwestiwn am yr 'ymrwymiad' yn uniongyrchol.

"Beth rydym wedi llwyddo i'w wneud, yw llwyddo i stopio cynnydd yn nosbarthiadau cynradd.

"Yn sawl rhan o Gymru rydym wedi llwyddo i leihau dosbarthiadau.

"Mae yna rhai rhannau o Gymru lle mae adeiladau, y modd mae ysgolion wedi eu hadeiladu... mae'n golygu fod hi'n anodd iawn i wneud hynny.

"Ond rwy'n meddwl bod ein record ar niferoedd dosbarthiadau cynradd yn un o fuddsoddiad parhaol."

Dyw'r targed o sicrhau fod o leiaf 95% o gleifion sydd â diagnosis o ganser yn dechrau triniaeth o fewn dau fis, heb ei gyrraedd ers 2008.

Dywedodd Mr Drakeford: "Yn nhermau canrannau nid ydym wedi cyrraedd y targed, ond o ran niferoedd mae llawr iawn mwy o bobl o fewn ein targed amseroedd nag erioed o'r blaen."

Gwrthododd feirniadaeth nad oedd yna ddigon o uchelgais ym maniffesto'r Blaid Lafur.

"Mae gan ein maniffesto uchelgais ar bob un tudalen - uchelgais ar gyfer ein pobl ifanc, uchelgais ar gyfer yr amgylchedd," meddai.

Wrth siarad ar raglen Sunday Suppement ar BBC Radio Wales dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd fod steil Mr Drakeford yn rhoi gormod o bwyslais ar reoli.

"Ni allwn fforddio i Gymru gael dirywiad sydd wedi ei reoli dros gyfnod arall o bum mlynedd," meddai.

"Golyga hyn sicrhau pan bod maniffesto yn cael ei roi i bobl Cymru, fod ganddynt yr hyder y gallwn ddod o hyd i'r atebion mae pobl eu hangen yn eu bywydau - o ran yr economi gyda swyddi, neu o ran y gwasanaethau cyhoeddus gydag amseroedd aros, neu ym maes addysg wrth geisio dal lan, neu gyda'r amgylchedd neu is adeiladwaith - targedau rydym wedi gosod i'n hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Adam Price: 'Bydd ailethol Llywodraeth dan arweinyddiaeth Llafur ddim yn sicrhau y Gymru newydd'

Ar yr un rhaglen fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, feirniadu'r hyn roedd yn ei ddisgrifio fel diffyg cynnydd o du llywodraethau Llafur.

"Mae nifer o'r targedau maen nhw wedi eu gosod yn rhai canmoladwy - gosod targed i gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020 a nifer o egwyddorion amgylcheddol," meddai.

"Ond y broblem yw diffyg cynnydd wrth droi'r targedau hyn a'r egwyddorion yn realiti i bobl Cymru. Dyna lle mae'r rhwystredigaeth.

"Ni welwn gynnydd tuag at sicrhau y Gymru newydd rydym am ei gweld pe bai ni ond yn ailethol llywodraeth dan arweiniad llafur unwaith eto."

Dywedodd Cadan ap Tomos o'r Democratiaid Rhyddfrydol fod ei blaid yn ymgyrchu i ailadeiladu'r gwasanaeth iechyd gyda phwyslais ar iechyd meddwl ac adfer yr economi a'r amgylchedd.

"Ni yw'r unig blaid sy'n sefyll dros ryddfrydiaeth ac yn amddiffyn hawliau'r unigolyn, a dyw' hynny ddim am newid."