Pum munud gyda Tudur Dylan Jones a John Gwilym Jones
- Cyhoeddwyd
Dau brifardd sy'n dad a mab ydi Beirdd y Mis Radio Cymru am y bedair wythnos nesa - a hynny gan eu bod newydd gyhoeddi cyfrol ar y cyd.
Felly dyma ambell gwestiwn i Tudur Dylan Jones a'r Parch. John Gwilym Jones.
Ydych chi'n debyg fel beirdd - ac ai natur neu fagwraeth sydd yn gyfrifol?
JGJ: Mae'n siŵr y bydd yr ychydig ddarllenwyr a fydd wedi eu twyllo i brynu'r gyfrol 'am yn ail' sy'n cael ei chyhoeddi y mis Mai yma, yn gweld ein bod yn adleisio'n gilydd. Buaswn i'n meddwl fod gennyf i a'r plant agwedd go debyg at fywyd. Byddwn yn cysylltu â'n gilydd yn gyson iawn, ac rwy'n teimlo o hyd ein bod ni'n pedwar ar yr un donfedd.
TDJ: Yn y gyfrol mae gen i gerdd â'r teitl Henaint yn rhestru'r arwyddion mod i'n heneiddio, ac un cwpled yn y gerdd honno ydy:
Dwi'n licio Dechrau Canu a gwylio ripîts Cefn Gwlad
a dwi 'di mynd i swnio'n rhy debyg i fy nhad.
Mae'r tri uchod yn wir erbyn hyn!
Petaech chi'ch dau yn erbyn eich gilydd mewn ymryson, ac efo pwerau hud i ddileu un elfen o dalent farddonol eich gwrthwynebydd, beth fyddech chi'n ei ddewis a pham?
JGJ: Un o'r elfennau peryglus yn arfogaeth Dylan mewn cystadleuaeth yw cyflymder ei gynganeddu. Ond petawn i mewn ymryson mae'n siŵr mai ymbil am ei gymorth faswn i.
TDJ: Byddwn i'n ceisio osgoi gosod fy hun mewn sefyllfa lle bydden i'n gorfod ymrysona yn erbyn fy nhad, am y rheswm nad oes gen i bwerau hud i ddileu un o'i fyrdd dalentau barddol.
Weithiau, tydi dilyn rhiant mewn unrhyw faes ddim yn hawdd. Yn eich achos chi oedd y mab yn teimlo'r pwysau i fod cystal â'i dad? Ac oedd y tad yn ymwybodol o hynny?
JGJ: Wnes i ddim synhwyro ym magwraeth y tri fod yna bwysau arnyn nhw i'n hefelychu ni fel rhieni, er fod Nest efallai wedi cael ei chyfeirio at gerddoriaeth oherwydd doniau ei mam. Am Eilir a Dylan ni ddangosodd y naill na'r llall unrhyw arwydd y byddent yn anelu am y weinidogaeth. Yn naturiol roedd hi'n foddhad gweld cynnydd diddordeb Dylan mewn barddoniaeth.
TDJ: Roedd fy nhad wedi cynrychioli Sir Gaerfyrddin yng nghamp y pole vault. Dwi ac Eilir a Nest wedi teimlo'r pwysau'n fawr nad ydyn ni wedi llwyddo i lewyrchu yn y gamp honno, a dwi'n meddwl bod y tad yn dawel bach yn siomedig hyd heddiw.
Disgrifiwch eich perthynas mewn cwpled.
JGJ: O gofio'r hen gred fod broga yn lladd ei riant:
Yr wy' fel broga dwyflwydd
yn blyg o dan froga blwydd.
TDJ: Dyma'r unig gwpled erioed dwi heb ofyn i fy nhad ydy'r gynghanedd yn gywir:
Ef ydy'r un roes i fi
Y ddawn i gynganeddu.
Petaech chi'n gallu bod yn unrhyw fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
JGJ: Emily Dickinson. Dyw ei cherddi hi ddim yn swynol i'r glust. Doedd ei phersonoliaeth hi ddim yn ennyn edmygedd. Yn sicr ni fuaswn am fyw ar hyd blynyddoedd ei bywyd meudwyaidd hi. Ond am ddiwrnod fe fyddai'n wefreiddiol i mi gael ambell lygedyn o'i gweledigaethau hi ar fywyd. Yn eu cynildeb maen nhw'n ysgwyd yr enaid ac yn agor y meddwl. Roedd hi'n sicr yn ddyfnder o athrylith, a'i gwaith hi yn gyfandir o brofiadau.
TDJ: R Williams Parry. Dwi'n cofio gwirioni ar ei gerddi flynyddoedd yn ôl, ac mae'r gwirioni hwnnw yn dal hyd heddiw. Byddwn i wedi hoffi gweld y llwynog ar untroed oediog, a cherdded y Lôn Goed gydag enaid hoff, cytûn.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddech chi wedi hoffi ei ysgrifennu?
JGJ: Unrhyw un o ddarnau Waldo. Ac er na fynnai Waldo ei hun glywed clodfori'r gerdd honno, Cofio yw'r un y buaswn wrth fy modd yn ei harddel.
TDJ: Unrhyw un o gerddi JGJ yn y gyfrol 'am yn ail'.
Beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd?
JGJ: Edafedd heb siâp. Rwy wrthi'n ceisio ysgrifennu ambell erthygl i ireiddio'r meddwl, ac yn anelu at gyfansoddi ambell bregeth i geisio rhwystro'r enaid rhag rhydu.
TDJ: Ceisio cael planhigion i dyfu yn yr ardd, ar wahân i chwyn.
Hefyd o ddiddordeb: