Economi Cymru yn tyfu, ond yn arafach na gweddill y DU

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau'n dangos twf mawr yn y diwydiant lletygarwch, ond mae rheswm da am hynny

Adfywiodd economi Cymru pan godwyd cyfyngiadau coronafeirws yn haf 2020, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Roedd GDP Cymru wedi codi 14.4% rhwng Gorffennaf a Medi, o'i gymharu â'r tri mis blaenorol.

Dyma'r tri mis pan oedd nifer o fusnesau'n ailagor ar ôl cyfnod clo, ond yn dal i orfod glynu at reolau ymbellhau cymdeithasol.

Gwelwyd y twf mwyaf yn y sector lletygarwch, gyda chynnydd o 302.5%. Mae'r ffigwr mor uchel am bod busnesau o'r fath yn ailagor wedi cyfnod o fod ar gau yn llwyr.

Dim ond ardal de-orllewin Lloegr welodd fwy o gynnydd na Chymru yn y sector hwn yn yr un cyfnod.

Cryfhau'n arafach

Er gwaetha'r cynnydd mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod yr economi'n cryfhau'n arafach yma yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.

Bu twf o 17.2% yn Lloegr, 15.8% yn Yr Alban a 15.4% yng Ngogledd Iwerddon yn ystod yr un cyfnod.

Ond os oedd yr adfywiad yn arafach yng Nghymru, roedd yr economi wedi cwympo llai yma nac yng ngweddill y DU rhwng Mawrth a Mehefin.

Mae'r mesur GDP sy'n edrych ar y nifer o nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu cynhyrchu a'u cyflenwi yng Nghymru, yn dal yn is na 2019, gyda thwf o -6%.

Ond mae hyn fymryn yn uwch na chyfartaledd y DU o -7.5%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwelwyd twf yn y diwydiant adeiladu yn ystod yr haf y llynedd

Yn y diwydiant adeiladu yr oedd yr ail dwf mwyaf, lle gwelwyd cynnydd o 30.9%, gyda chyfanwerthu a manwerthu'n dangos twf o 25.7% o'i gymharu â Mawrth i Mehefin 2020.

Bu cynnydd o 16.1% mewn cynhyrchu nwyddau yn ystod yr un cyfnod.

Ond dydi'r newyddion ddim yn fêl i gyd, gyda thwf negyddol o -1% yn y sector amaeth, coedwigaeth a physgodfeydd.