Chwistrell wrth-gyffur yn arbed bywydau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun arbrofol sy'n defnyddio chwistrell drwynol i atal pobl rhag marw wedi gorddos o heroin nawr yn cael ei ymestyn ar draws un o heddluoedd Cymru.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru y gall pob swyddog wirfoddoli i gario naloxone o hyn ymlaen.
Mae'n dilyn cynllun prawf llwyddiannus yn Sir Y Fflint, ble mae'r defnydd o'r gwrth-gyffur wedi achub bywydau dau berson.
"Rhaid gwneud be allan ni i stopio'r marwolaethau cyffuriau yma," meddai'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Arfon Jones, a fydd yn gadael ei rôl wedi'r etholiad.
Roedd Mr Jones wedi bod yn pwyso i roi'r hawl i swyddogion ddefnyddio naloxone, ac i newid deddfwriaeth ynghylch defnyddio cyffuriau.
Mae angen gweithredu, meddai "oherwydd nifer y marwolaethau gallwn ni osgoi oherwydd gorddosau opioid, nid dim ond yma yng ngogledd Cymru ond trwy Gymru, Lloegr ac yn arbennig yn Yr Alban.
"Swyddogion heddlu yn aml ydi'r bobl gyntaf i gyrraedd digwyddiad, a 'dan ni'n teimlo dylia nhw gael yr offer i wneud be ma'n nhw wedi cael eu hyfforddi i'w wneud.
"Dwi'n ei weId o fel rhan o swyddogaeth graidd yr heddlu, sef gwarchod bywydau."
'Dechrau dod at ei hun o fewn tair munud'
Cafodd naloxone ei ddatblygu yn y 1960au yn yr Unol Daleithiau, a'i ddefnyddio'n helaeth yno ers dros 20 mlynedd i drin pobl wedi gorddos o gyffuriau opiad fel heroin.
Rhwng 1996 a 2014 dywed y CDC (Centers for Disease Control and Prevention) ei fod wedi atal marwolaethau wedi gorddos mewn dros 26,000 o achosion.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r feddyginiaeth fod ar gael yn helaeth i un o heddluoedd Cymru.
Cafodd ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn gynharach ym mis Mai, yn ystod y cynllun peilot yn Sir Y Fflint. Daeth swyddogion arfog, oedd wedi eu galw i ymateb i ddigwyddiad, o hyd i ddyn ar faes parcio gwesty yn Llaneurgain.
Cafodd ei ddefnyddio wedyn gan ddau gwnstabl a gafodd eu galw i dŷ yng Nghei Connah ble roedd rhywrai'n sgwatio ac yn cymryd cyffuriau.
"Pan ddaeth yr alwad, wnaethon ni nabod y symptomau fel rhai gorddos cyffuriau, felly aethon ni yna gyda'r golau glas ymlaen a sicrhau bod ambiwlans ar y ffordd hefyd," meddai'r Cwnstabl Tom Brownhill.
"Pan wnaethon ni gyrraedd roedd y dyn yn hollol anymwybodol. Mae wedi defnyddio heroin ers cyfnod hir ac er i'r bobl eraill yna ddweud nad oedd wedi cymryd dim byd roedd yn glir ei fod wedi.
"Roedd ei anadl yn llafurus ac roedd yn anymwybodol felly naethon ni'n dau roi dos o'r chwistrell roedden ni'n dau'n ei gario.
"Mae'n gweithredu'n gyflym ac o fewn tair munud fe ddechreuodd ddod at ei hun, ond roedd yn sicr wedi bod mewn cyflwr drwg."
Dywedodd ei gydweithiwr, y Cwnstabl James Tapely bod y gwrth-gyffur "wedi gweithio'n union fel wnaethon nhw ddweud wrthon ni pan gawson ein hyfforddi".
Ychwanegodd: "Cawson ni wybod yn ddiweddarach bod gorddos heroin wedi ei gadarnhau ac fe wnaeth y claf wella."
Dywed Arfon Jones bod trafodaethau wedi dechrau gyda heddluoedd eraill Cymru ynghylch defnyddio naloxone.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod eisoes yn hyfforddi swyddogion yn y ddalfa i'w ddefnyddio mewn argyfwng pan nad yw swyddogion iechyd ar gael.
Mae Heddlu'r Alban eisoes yn defnyddio naloxone.
Ag yntau'n ymddeol fel comisiynydd heddlu, dywedodd Mr Jones bod cyflwyno'r cynllun naloxone yn un o'r pethau y mae'n "fwya' balch ohono" yn y swydd.
Cyhoeddodd ddechrau'r flwyddyn na fyddai'n sefyll am ail dymor yn yr etholiadau ddydd Iau i ddewis Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2015