'Dwi'n unig': delio gyda chartref gwag ar ôl llond tŷ o blant
- Cyhoeddwyd
Yn un o saith o blant, ac yn fam i chwech o ferched, doedd unigrwydd ddim yn rhan o fywyd Myfanwy Alexander - tan nawr.
Wrth i'r cyfnodau clo gynyddu'r niferoedd o bobl sy'n dioddef o unigrwydd, bydd yr awdur yn mynd ar daith ar raglen deledu S4C i ddarganfod natur y cyflwr a thrafod ffyrdd i beidio bod yn unig.
Yma, mae hi'n sgwennu am ei phrofiad personol hi o rywbeth sy'n effeithio cymaint o bobl a phwysigrwydd bod yn agored am y pwnc.
Fyswn i wedi disgrifio fy hun fel y person olaf ar wyneb y ddaear i ddioddef o unigrwydd.
Dwi'n hoff iawn o gwmpeini, mae gen i lwyth o ffrindie gwych a dwi'n aelod o deulu mawr. Dwi'n ddigon ffodus i weithredu fy mreuddwyd wrth sgwennu'n broffesiynol ac mae fy ngyrfa yn rhoi sawl cyfle i gwrdd â phobl ddifyr newydd yn aml iawn.
Dwi'n byw mewn tŷ hyfryd tu hwnt yng nghanol harddwch tirlun Sir Drefaldwyn, ymhlith ffrindie fy nglasoed. Ac mae gen i ddigon o bres yn fy mhoced i gael mynd i'r dafarn am ddiod neu fynychu sawl gŵyl, yn cynnwys y 'Steddfod a'r Sioe Frenhinol.
Yn anaml dwi'n codi fy ffôn heb weld neges gan rywun a dwi'n mwynhau dal fyny ar Facebook neu roi'r byd yn ei le yn nhalwrn Trydar.
Tawel fel y bedd
Ond, fin nos, pan mae gwaith y diwrnod drosodd, a dwi'n eistedd lawr ar y soffa, llyfr yn un llaw a glasiad o win da yn y llall, mae'r tŷ 'ma, sy'n golygu gymaint i fi, fel hafan, fel sbring fwrdd, fel adlewyrchiad o fy hunan, yn wag ac yn dawel fel y bedd. Neu, os dwi'n dychwelyd o weld ffrindie, dwi'n agor y drws a sefyll ar y trothwy, yn ymwybodol nad oes neb yma i fy nghyfarch.
Dwi'n dweud 'helo' wrth y gath ond er bod o'n ymateb yn syth, nid yw canu grwndi cystal â llais person. Weithiau, dwi'n camu mewn i dŷ fel rhywun sy'n plymio llyn mawnog y mynydd a ddim ond oherwydd bod neb wedi tanio'r stof goed. Dwi'n byw ar ben fy hun ac mae rhaid i mi arfer efo hyn.
Ges i fy magu mewn tŷ llawn bwrlwm, saith o blant, cyfnither a oedd wedi ei gadael efo ni pan symudodd ei rhieni draw i Hong Kong, au pair o'r Swistir, a Mam a Dad. A bob hyn a hyn, ymwelwyr eraill, fel chwaer i'r au pair a ddaeth am wythnos o wyliau ond arhosodd am flwyddyn, yn ceisio denu sylw fy mrawd golygus.
Roedd fy mam hefyd yn cynnal ysgol feithrin pedwar bore'r wythnos felly yn fy mhlentyndod, prin oedd yr eiliadau dreuliais ar ben fy hun. I ddweud y gwir, pleser oedd y cyfle i fod ar ben fy hun ac mi guddiais yn aml iawn yn y caban bach roedd Dad wedi creu i ni ym mhen pella'r berllan, er mor damp oedd hi tu fewn.
Fel plentyn ieuangaf mewn ffasiwn deulu, roeddwn i'n mwynhau bob eiliad o'r holl stŵr a phan ges i'r cyfle i gael plant fy hunan, mi benderfynais greu patrwm tebyg.
Hedfan o'r nyth
Felly, ges i'r fraint o fagu chwech o'r merched gorau yn y byd mawr crwn. Nid oedd bywyd yn fêl i gyd, yn enwedig yn y cyfnod pan ro'n i'n fam sengl. Aeth y blynyddoedd heibio fel corwynt, yn ceisio gofalu drostyn nhw, yn ceisio rhoi bwyd ar y bwrdd, yn ceisio dod dros y pethau erchyll ddigwyddodd amser yr ysgariad.
Fesul un, maen nhw wedi lansio, wedi mynd heibio'r cerrig milltir bwysig fel graddio, dewis swyddi, teithio, cwrdd â chariadon. Dwy flynedd yn ôl, gadawodd Gwenllian, cyw bach melyn olaf, i ddechrau astudio fyny'n Newcastle.
Rhaid cyfaddef, y peth cyntaf sylwais oedd tipyn o ryddhad. Y roced olaf wedi gadael y safle lansio ac, ar ôl trideg blynedd o baratoi tri phryd o fwyd bob un diwrnod, mi groesawais y cyfle i gael ffa ar dost am ddeg o'r gloch os mai dyna ro'n i'n awydd wneud.
Roedd yn braf hefyd i gael ffocysu ar fy ngwaith, heb ruthro nôl i fynychu Noson Rhieni ac yn y blaen.
Wedyn, daeth COVID a dychwelodd Gwenllian am chwe mis. Petai amgylchiadau wedi fy ngorfodi i i aros yn y tŷ efo fy mam am gyfnod mor hir, dwi ddim yn sicr allai fod mor siriol, ond roedd o'n bleser mawr i gael ei chwmpeini yn ystod y cyfnod cyfyng.
Angen bod yn agored
Wedyn, aeth hi nôl i'r brifysgol, ac mi sylwais pa mor dawel oedd y tŷ yma hebddi hi. Dyna pryd ddysgais yn union beth oedd enw go iawn i'r teimlad o wacter: dwi'n unig. Nid oedd hyn yn hawdd i'w gyfaddef ond dwi'n meddwl dylai ni fod yn fwy agored am y pwnc pwysig yma.
Wrth gwrs, mae 'na un ateb i'r broblem. Mae 'na ddynion ar gael ar y we, a dwi'n gwybod fod y system yna'n gweithio'n dda i rai, ond ddim i fi. Os dech chi'n gweld rhywun efo llosgiadau dros ei gorff cyfan, dech chi ddim yn gofyn iddyn nhw pryd maen nhw'n mynd nôl i'w swydd yn siop tships, fel petai!
Beth allai wneud, felly? Un peth dwi wedi darganfod, fel sawl un, dros y cyfnod clo: pa mor bwysig i mi yw'r digwyddiadau lleol. Dwi'n ysu i ddychwelyd i neuadd y pentre' am gyngerdd neu yrfa chwist; dwi hyd yn oed yn edrych ymlaen at brynu tocyn raffl. Dwi hefyd wedi sylwi faint dwi'n colli gweld ffrindie a dwi'n gwneud mwy o ymdrech i weld y bobl sy'n golygu cymaint i mi.
Hefyd, dwi 'di dechrau rheoli fy nheimladau'n gyson. Er enghraifft, all penwythnos fod yn gyfnod llawer rhy dawel i rywun sy'n byw ar ben ein hun, felly yn hytrach na dechrau hiraethu dros fywyd delfrydol, dwi'n rhoi rhywbeth braf i fi fy hunan, ffilm, llyfr newydd neu rywbeth tebyg ac felly, cyfnod o fwynhad all y penwythnos fod, yn hytrach na dau ddiwrnod o dawelwch llethol. Neu, os mae'r rheolau'n caniatáu, all cwrdd â ffrind dros baned, i greu copa gymdeithasol o'r tir gwastad penwythnos wag.
Hen bryd i ni drafod y niwl o unigrwydd all lifo mewn i'n bywydau ni. Rhaid bod yn onest a chwilio am strategaethau sy'n rhwystro ni rhag suddo fewn i gylch: os dech chi ddim yn teimlo'n hwyliog, dech chi'n camu nôl o'r byd ac wedyn, fydd y broses o encilio'n gwaethygu'r sefyllfa. Edrych i'r drych a sylwi fod wyneb rhywun unig yn syllu nôl, ond rhywun sydd ddim yn fodlon cael ei rhwystro gan unigrwydd chwaith.
DRYCH: Sut i beidio bod yn unig, am 9 o'r gloch nos Sul 16 Mai, ar S4C
Hefyd o ddiddordeb: