Heddlu'n chwilio am ddyn wedi ymosodiad difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu, sy'n chwilio am ddyn mewn cysylltiad ag ymosodiad difrifol, yn rhybuddio gyrwyr yn ardal Llambed i beidio a chodi unrhyw deithwyr ar ochr y ffordd.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod presenoldeb heddlu cryf yn ardal Heol y Wîg, wrth iddynt chwilio am y dyn.
Maent yn cadw golwg ar geir ac yn rhybuddio pobl i beidio mynd at y dyn, ond i gysylltu a'r heddlu.
Dywed ditectifs y gallai'r dyn geisio bodio lifft.
Archwilio ceir
Mae'r heddlu wedi sefydlu mannau archwilio ceir ar yr A485 o Lambed ac i'r de o Langeitho, mewn cysylltiad a'r ymchwiliad.
Credir bod y dyn yn gwisgo côt khaki a throwsus gwyrdd tywyll.
"Os bydd unrhyw un yn ei weld, peidiwch a mynd ato ond cysylltwch â'r heddlu trwy ffonio 999," meddai datganiad gan Heddlu Dyfed-Powys.
Nid yw'r heddlu wedi rhyddhau unrhyw wybodaeth bellach am natur yr ymosodiad, na chyflwr y dioeddefwr.