Llanc, 18, wedi marw ar ôl disgyn o fynydd yn Rhondda
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi marw ar ôl disgyn o fynydd yn Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener.
Cafoddd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn adroddiad bod y llanc wedi "disgyn o uchder" ym Mharc Coedwig Pen Pych ym Mlaencwm ger Treorci am 17:40.
Roedd yn rhan o grŵp oedd yn dod i lawr ochr serth y mynydd, sy'n boblogaidd gyda cherddwyr.
Dywedodd Heddlu'r De nad oedd amgylchiadau amheus i'r farwolaeth, a bod teulu'r dyn wedi cael gwybod.