Caiaciwr wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn Nhywyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod caiaciwr wedi marw ar ôl iddo fynd i drafferthion oddi ar arfordir Tywyn, Gwynedd ddydd Sul.
Cafodd Gwylwyr y Glannau gymorth gan swyddogion yr heddlu a'r RNLI ar ôl cael eu galw tua 12:30 i leoliad ger Parc Carafanau Penllyn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod dyn yn ei 30au o Orllewin Canolbarth Lloegr wedi marw tra bod yn cael ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty.
Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac mae adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer Swyddfa'r Crwner.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2021