Ymosodiad Llanbed: Cadw dyn 45 oed yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd

Cafodd Saul Henvey, 45, ei arestio yn dilyn cyrch enfawr yn Llanbedr Pont Steffan wythnos diwethaf
Mae dyn 45 oed o Dregaron wedi cael ei gadw yn y ddalfa, ar ôl cael ei gyhuddo o gyflawni ymosodiad rhyw difrifol yn Llanbedr
Fe ymddangosodd Saul Henvey, o Station Terrace, Tregaron o flaen ynadon yn Hwlffordd i gadarnhau ei enw.
Cafodd ei arestio gan Heddlu Dyfed Powys yn dilyn cyrch enfawr gan blismyn mewn ymateb i honiad o dreisio ddydd Iau 6 Mai.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa, a'i orchymyn i ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2021
- Cyhoeddwyd7 Mai 2021